Cerdd fuddugol Stôl Farddoniaeth AmGen

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ymlaen gan Terwyn Tomos yw enillydd cystadleuaeth Stôl Farddoniaeth Gŵyl AmGen

Dyma'r gerdd enillodd y Stôl Farddoniaeth yng Ngŵyl AmGen 2020 i Terwyn Tomos am ddarn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen.

Mae'r cywydd yn trafod ei filltir sgwâr a'i gymuned yng Nghwm Degwel wrth iddo ddod i werthfawrogi yr hyn sydd o dan ei drwyn.

Ymlaen

Mae carreg yng Nghwm Degwel,

Yno'n hŷn na'r un a wêl

Llygad dyn, pob crwydryn craff.

I estron, y mae'n wastraff

Oedi yma am damaid -

Daw budd o deithio di-baid!

Dyw ennyd mewn byd unig

Ar y mawn ond chwarae mig.

Ond yma, yma i mi,

Arhosodd a goroesi

Rhyw ffaglen o hen hanes -

Yn y nant mae'n dod yn nes.

Heddiw aiff, a ddoe a ddaw

 dwyster i'r man distaw,

Yn lliw del pabi melyn,

Ac yng nghemeg garlleg gwyn;

Yn y mwsog a'r meysydd,

A thrydar yr adar rhydd.

Mae stori a cherdd drwy'r cwm yn cerdded,

A hen alawon yno i'w clywed;

Mae rhythmau'r geiriau'n llwybr i'm gwared

Yn ddirgel a thawel o 'nghaethiwed,

Eto'n un â 'nghymuned; - ymryddhau,

Y mae golau, y mae fflam i'w gweled

A ddaw, a fydd, neu a ddêl,

Mae digon yng Nghwm Degwel.

Pererin