Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd Stôl Ryddiaith Gŵyl AmGen 2020

  • Cyhoeddwyd
Llyr Gwyn Lewis

Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd cystadleuaeth y Stôl Ryddiaith yng Ngŵyl AmGen 2020.

Her y gystadleuaeth oedd ysgrifennu darn o ryddiaith hyd at 500 gair ar y testun Gobaith.

Gan ddefnyddio'r ffug enw Claf Abercuawg, mae gwaith buddugol Llŷr yn stori fer sy'n sôn am gyfrif Twitter lle mae'r byd rhithiol yn plethu gyda'r byd go iawn.

Dywedodd y beirniaid bod ei waith yn "dal i'r dim deimlad anesmwyth cynifer ohonom fod y byd oddi ar ei echel".

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Stôl Ryddiaith Gŵyl AmGen

Yn wreiddiol o Gaernarfon mae Llŷr bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen ac erthyglau mewn cyfnodolion, gan gynnwys Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Barddas ac O'r Pedwar Gwynt.

Enillodd Rhyw Flodau Rhyfel, cyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr, wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol-Greadigol yn 2015, ac mae hefyd wedi cyhoeddi dwy gyfrol arall sef casgliad o gerddi, Storm ar Wyneb yr Haul (2014) a chyfrol o straeon byrion, Fabula (2017).

Daeth yn gydradd drydydd yng nghystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth ddydd Gwener.

Yn hytrach na chadair, coron neu fedal, mae Gŵyl AmGen yn cynnig stôl am ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith.

Dywedodd Manon Steffan Ros, oedd yn beirniadu gyda Guto Dafydd: "Mae Claf Abercuawg yn dal i'r dim deimlad anesmwyth cynifer ohonom fod y byd oddi ar ei echel, ac yn portreadu'n gelfydd y modd y mae pla a phoblyddiaeth wedi siglo'r gyfundrefn gysurus oedd ohoni."

Ychwanegodd bod y stori "mor gynnil a chryno, ond mae'r stori'n teimlo'n orffenedig".

Roedd 67 wedi ymgeisio - yn ail oedd Iwan Teifion Davies o Landudoch, ac yn drydydd oedd Elen Jones o Ddinbych.

Mae Gŵyl AmGen yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Cymru, ac yn rhan o'r Eisteddfod AmGen, sy'n cael ei threfnu yn absenoldeb y Brifwyl, oedd fod i ddigwydd yn Nhregaron o 1-8 Awst.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal trwy benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst.