Cystadlu yn Ewrop yn 'gost sylweddol' i glybiau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ludogorets v Y Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, Brian Jones/Y Seintiau Newydd
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd fe wnaeth Y Seintiau Newydd gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa

Dywed clybiau pêl-droed Uwchgynghrair Cymru eu bod yn ymwybodol iawn o'r goblygiadau ariannol a diogelwch wrth gymryd rhan ym mhrif gystadlaethau Ewrop yn ystod cyfnod y pandemig.

Bydd Cei Connah, Y Bala, Y Barri a'r Seintiau Newydd yn cael gwybod cyn hir pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng ngemau rhagbrofol cystadlaethau Cynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Europa.

Eleni bydd y gemau dros un cymal yn unig, ac fe allai teithio dramor olygu costau sylweddol.

Yn dilyn cyfarfod o'i holl aelodau ddydd Iau, dywedodd Uefa nad oedd yn gallu diystyru'r posibilrwydd o chwarae gemau mewn lleoliadau niwtral chwaith, os ydy cyfyngiadau Covid-19 yn parhau mewn rhai gwledydd.

Dywedodd Gavin Chesterfield, rheolwr Y Barri, fod y clwb yn cymryd ei gyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn hynod ddifrifol ond bod y posibilrwydd o wynebu gêm oddi cartref yn "achos pryder".

Mae UEFA, y corff sy'n rheoli pêl-droed yn Ewrop, wedi rhoi €236,500 i gymdeithasau pêl-droed y gwahanol wledydd er mwyn iddyn nhw ymdopi â heriau coronafeirws.

Fel rheol mae sicrhau lle ym mhrif gystadlaethau UEFA yn rhoi statws a hwb ariannol i glybiau.

Ffynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Cei Connah (yn y coch) oedd ar frig Uwch Gynghrair Cymru pan ddaeth y tymor i ben

Yn 2019/20 roedd tîm yn chwarae yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Europa yn 2019/20 yn derbyn €220,000, gada'r arian yn cynyddu pe bai'r tîm yn ennill eu gemau.

Y swm cyfatebol ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr oedd €230,000, gyda thimoedd oedd yn cyrraedd y drydedd rownd yn derbyn €480,000.

"Mae'n beth pwysig i'r clwb," meddai Gavin Chesterfield. "Mae'r arian Ewropeaidd yn gallu cynnal clwb am dymor neu fwy.

"Y pryder nawr yw gorfod chwarae'r gemau rhagbrofol oddi cartref.

"Mae'r gemau dros un cymal, ac os ydym yn anffodus i gael gêm oddi cartref bydd yn rhaid talu am logi hediad, a dyw hynny ddim yn beth rhad."

Chwarae adref yn 'gost sylweddol'

Ychwanegodd, pe bai nhw'n chwarae gartref neu oddi cartref mae'n parhau i fod yn "fraint" a byddai'r tîm yn "gwneud ei orau".

Er y byddai wrth ei fodd yn cael chwarae gartref dywedodd byddai hynny hyd yn oed yn golygu "cost sylweddol".

Dywedodd y byddai'n rhaid i glybiau logi caeau chwarae sy'n cyd-fynd â chanllawiau diogelwch UEFA ynglŷn â Covid-19.

Mae'r Barri eisoes wedi dweud y byddan nhw'n chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, pe baen nhw'n chwarae gartref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stadiwm Dinas Caerdydd - cartref newydd dros dro Y Barri?

Fe allai'r stadiwm hefyd gynnal gêm Cei Connah yng Nghynghrair y Pencampwyr ar 18-19 Awst, gan mai dyna ddewis y clwb pe bai nhw'n ddigon ffodus i sicrhau gêm gartref.

Dywed Y Bala eu bod nhw'n croesi bysedd ac yn gobeithio am gêm gartref.

Dywedodd llefarydd fod y clybiau yn cael hi'n anodd i "gael unrhyw incwm oherwydd bod yr holl gemau paratoadol wedi gorfod cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig".

Mwy o help gan UEFA?

Y siom fwyaf gyda hynny, meddai'r llefarydd, oedd na fyddai'r un o'r cefnogwyr, na theuluoedd y chwaraewyr yn gallu mynychu.

"Fe fydd yr holl arian yn cael ei wario ar drefniadau ar gyfer y gêm, ond mae dal yn anrhydedd i'r clwb," meddai.

Dywedodd Mike Harris, cadeirydd Y Seintiau Newydd ei fod yn gobeithio bod yn lwcus a chael gêm gartref wrth i'r enwau gael eu tynnu o'r het.

Mae'r dyn busnes wedi amcangyfrif y gallai llogi hediad i rai gwledydd gostio gymaint â £90,000

"Rydym yn cadw llygad ar oblygiadau chwarae'r gêm a'r gost mae hyn yn ei olygu, ond mae iechyd a diogelwch y chwaraewyr a phobl eraill yn flaenoriaeth," meddai.

Ychwanegodd fod UEFA wedi rhoi help llaw i'r gwledydd sy'n cymryd rhan yn y cystadlu, ac roedd o'r farn y byddai rhagor o gefnogaeth i glybiau sydd o bosib yn wynebu gemau anodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Pêl-droed Cymru eu bod wedi bod yn cydweithio gyda'r clybiau dros y misoedd diwethaf, gan roi gwybod iddyn nhw am ganllawiau diweddaraf UEFA.