Mwy o fyfyrwyr yn gwneud cais am grant caledi
- Cyhoeddwyd
Mae prifysgolion yng Nghymru wedi gweld cynnydd o hyd at 190% yn y nifer o fyfyrwyr sydd yn gwneud cais am nawdd argyfwng.
Y rheswm am hyn yw bod nifer methu dod o hyd i waith dros yr haf er mwyn ariannu eu cyrsiau.
Dywed gwasanaethau cefnogi myfyrwyr yn y prifysgolion bod nifer sydd wedi colli eu gwaith, neu eu rhieni wedi colli eu gwaith, yn ei chael hi'n anodd gallu fforddio eu hastudiaethau a chostau byw.
Awgrymai astudiaeth ddiweddar gan yr NUS bod bron i hanner y rhai sy'n astudio yng Nghymru, oedd hefyd yn gweithio, wedi colli incwm o achos coronafeirws.
Mae Rowan Maddock, sy'n 19 oed yn un o nifer o fyfyrwyr sydd wedi gorfod canfod ffyrdd eraill i gael dau ben llinyn ynghyd ar ôl iddi fethu yn ei hymdrech i ddod o hyd i waith rhan amser.
"Dwi'n stryglo go iawn," meddai.
Mae'n byw mewn tŷ i fyfyrwyr yng Nghaerdydd ond yn pryderu yn barod a fydd hi'n gallu talu'r rhent.
"Yng Nghaerdydd dwi wedi gwneud ceisiadau ar gyfer tua 20 i 25 o swyddi ac ers symud yn ôl adref at fy rhieni yn ystod yr haf (yn Swindon) dwi wedi gwneud ceisiadau ar gyfer o leiaf 35 o swyddi.
"Dyw nifer o'r cwmnïau ddim wedi ymateb," meddai.
Roedd Rowan yn bwriadu defnyddio'r arian y byddai'n derbyn trwy wneud gwaith rhan amser neu dros yr haf i gyfrannu at ei benthyciad myfyrwyr a thalu biliau.
Ond yn sgil effaith economaidd coronafeirws dyw hi ddim wedi gallu dod o hyd i unrhyw waith.
'Gwresogi neu fwyta'
Mae nifer o brifysgolion Cymru yn dweud bod cynnydd mawr wedi bod yn y ceisiadau ar gyfer grantiau caledi ers mis Ebrill sydd yn cynorthwyo'r rhai sy'n cael trafferthion ariannol.
Dywedodd Prifysgol Abertawe bod cynnydd ar gyfartaledd o 190% wedi bod mewn ceisiadau tra bod 125% o gynnydd wedi bod yn y ceisiadau gan fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
"Dwi wedi bod yn gwerthu dillad ar Depop (ap i werthu dillad ail law) a stwff technoleg ar Gumtree.
"O'n i byth yn meddwl y byddai'n rhaid i fi werthu pethau dwi'n hoffi a ddim eisiau cael gwared â nhw ond mae'n rhaid i fi gael dau ben llinyn ynghyd.
"Mae unrhyw arian dwi'n cael, dwi'n ei roi i un ochr ac fe fydd hynny yn mynd tuag at y rhent mis Medi."
Hyd yn hyn mae wedi codi £50 fydd yn cael ei ddefnyddio i dalu eu rhent a biliau sy'n £400 ac angen eu talu fis nesaf. Ond mae'n gobeithio y bydd y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd arall o wneud arian.
"Mae gen i gyfrif Instagram a dwi'n ceisio cael mwy o ddilynwyr. O'n i yn meddwl y byddai hynny yn ffordd i gael arian gan gwmnïau er mwyn hyrwyddo stwff.
"Dwi wedi gweld lot o bobl yn gwneud hyn yn ddiweddar felly dwi'n gwybod bod hyn yn gweithio."
Mae ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod diwydiannau poblogaidd gan fyfyrwyr fel manwerthu a lletygarwch ymhlith y rhai sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan y clo mawr, gyda 65-90% o gwymp mewn cyfleoedd gwaith o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.
Yn ôl Llywydd NUS Cymru, Becky Ricketts mae diffyg gwaith ar y funud yn "bryder mawr i nifer o fyfyrwyr".
"Mae nifer o fyfyrwyr nawr yn pwyso a mesur os ydyn nhw am fynd i'r brifysgol neu beidio â hynny yn ddibynnol ar eu sefyllfa ariannol," meddai.
"Rydyn ni yn clywed am y frawddeg 'gwresogi neu fwyta' ac i rai myfyrwyr dyna yn bendant sut maen nhw yn byw o wythnos i wythnos."
Dywedodd Ms Ricketts hefyd bod perygl i ardaloedd fel Bangor ac Aberystwyth, lle mae nifer uchel o'r boblogaeth yn fyfyrwyr.
"Mae nifer o fyfyrwyr yn cynnal y sectorau lletygarwch a manwerthu.
"Os nad yw'r myfyrwyr yna yn mynd i'r prifysgolion yna mae yna gwestiwn ynglŷn â sut mae'r sectorau yma yn goresgyn..."
Astudio i fod yn athrawes yn Aberystwyth mae Dana Coaley sy'n 21 oed.
Roedd hi wedi bod yn dibynnu ar waith mewn gwersyll plant dros yr haf lle cafodd ei chyflogi'r llynedd.
"Blwyddyn yma o'n i mynd i wneud yr un gwaith dros yr haf ond yn anffodus mae'r feirws wedi dod ac o'n i methu cael gwaith.
"Ac roedd yr arian yna yn mynd tuag at gar neu bethau o'n i angen ar y cwrs newydd yma yn Aberystwyth."
Mae'n dweud ei bod wedi colli dros £1,000 sydd yn "pwyso arni" am ei bod hi nawr yn ddibynnol ar ei rhieni neu ei phartner.
Delwedd anghywir
"Dwi'n gallu aros yn lle partner fi...Dwi'n lwcus iawn mae fy nheulu yn rhoi ychydig bach o arian tuag at bethau dwi angen dros yr haf."
Yn ôl Dana mae nifer yn credu bod myfyrwyr yn gwario eu harian trwy fynd allan bob nos ond dyw'r ddelwedd yma ddim yn gywir, meddai.
"Mae pobl yn meddwl bod nhw jest yn cael yr arian ac maen nhw'n mynd i'w wario yn partïo.
"Ond mae gen i ffrindiau yn y brifysgol sydd ddim yn partïo, ac maen nhw dal heb yr arian maen nhw angen i wario yn y brifysgol ar bethau maen nhw angen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020