'Anodd ymdopi' gyda nifer yr ymwelwyr â rhannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Traeth Benllech
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y traethau ger Benllech ar Ynys Môn yn brysur ddydd Sadwrn

Mae pobl sy'n bwriadu ymweld a rhannau o Gymru oherwydd y tywydd braf dros y penwythnos wedi cael eu rhybuddio i gadw at y canllawiau coronafeirws yn dilyn pryder bod rhannau o'r wlad "yn ei chael hi'n anodd ymdopi" gyda nifer yr ymwelwyr.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dweud bod ardal boblogaidd Gwlad y Rhaeadrau "yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r niferoedd uchel o ymwelwyr sy'n dychwelyd wedi'r cyfnod clo".

Maen nhw'n dweud bod meysydd parcio a llwybrau yn methu dygymod â'r niferoedd uchel o gerbydau a phobl.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisoes wedi rhybuddio ei bod hi'n brysur iawn yn yr ardal, ac mae pobl yn cael rhybudd "i fod â chynllun wrth gefn os yw eu cyrchfan yn rhy brysur".

Mae maes parcio Pen y Pass ger yr Wyddfa yn parhau ar gau ar benwythnosau yn dilyn trafferthion am bobl yn parcio ar ochr y ffordd i fyny o Llanberis.

Mewn datganiad brynhawn Gwener dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: "Rydym am i ymwelwyr gael atgofion da o'u hymweliad â Gwlad y Rhaeadrau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder bod cadw pellter yn mynd yn fwy anodd mewn mannau poblogaidd

"Nid ydym am iddynt gofio am broblemau parcio nac am y ffaith fod y llwybrau'n llawn. Mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol pan fydd cymaint o bobl yn defnyddio'r llwybrau cerdded, cul.

"Mae'r Parc Cenedlaethol yn helaeth ac iddo dros 520 milltir sgwâr. Nawr yw'r amser i ymweld ag ardaloedd llai poblogaidd a dod o hyd i fannau newydd. Rydym yn gofyn i bobl gynllunio o flaen llaw a chael Cynllun B rhag ofn iddynt gyrraedd a sylweddoli fod gormod o bobl yno."

Anogaeth i'r cyhoedd

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd baratoi fideo byr i annog pobl i gadw at y rheolau, gan ddosbarthu'r fideo yn ddwyieithog ar wefannau cymdeithasol.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan CyngorGwyneddCouncil

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan CyngorGwyneddCouncil

Mae cymdeithas foduro'r AA yn dweud eu bod nhw'n rhagweld cynnydd o hyd at 10% yn nifer y ceir ar y ffyrdd yng Nghymru ddydd Sadwrn a Sul wrth i bobl deithio i arfordir Cymru, a bod oedi i'w ddisgwyl.

Ddydd Gwener dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y byddan nhw'n cynyddu eu presenoldeb ar y ffyrdd ac mewn cymunedau er mwyn ceisio lleddfu pryderon pobl leol.

Penwythnos diwethaf roedd yna bryderon am nifer yr ymwelwyr mewn rhai ardaloedd, gyda llefydd fel Bermo, Aberdyfi ac Abersoch wedi cael problemau parcio "difrifol".

Fe ysgogodd hynny gynrychiolwyr gwleidyddol i ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn galw arno i ystyried mesurau "fel mater o frys".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Y Parc Cenedlaethol

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Y Parc Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio'r angen i fwynhau'r wlad "mewn modd diogel".

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod angen i drigolion ac ymwelwyr fwynhau'r hyn y gall Cymru ei gynnig mewn modd diogel.

"Gallwn oll gymryd rhai camau er mwyn cadw ein hunain, ein teuluoedd a'n cymunedau yn ddiogel," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder bod cadw pellter yn mynd yn fwy anodd mewn mannau poblogaidd

"Cofiwch gynllunio ymlaen llaw," meddai, "a sicrhau eich bod yn deall y trefniadau lleol er enghraifft y cyfleusterau parcio."

"Os bydd y lleoliad yn brysur iawn beth am ystyried lleoliad arall sy'n llai prysur - mae digon o ddewis.

"Cofiwch gadw pellter cymdeithasol, ac aros dau fetr i ffwrdd o bobl eraill, hyd yn oed pan fyddwch yn yr awyr agored ac ar y stryd."

Noson 'heddychlon'

Yn y cyfamser dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi arestio dau berson ym Mae Caerdydd nos Wener er gwaethaf rhybudd na fyddai pobl yn cael eistedd ac yfed mewn mannau cyhoeddus yno dros y penwythnos.

Ers i'r cyfyngiadau gael eu codi, mae cannoedd o bobl ifanc wedi bod yn ymgynnull yno, yn yfed alcohol ac yn gadael sbwriel.

Dywedodd Heddlu'r De bod tua 130 o bobl wedi cyrraedd ddydd Gwener gydag alcohol ac ocsid nitraidd, neu nwy chwerthin.

Fe gawson nhw eu gwasgaru, gydag un dyn yn cael ei arestio am geisio rhwystro swyddogion wrth iddyn nhw atafaelu system sain, a dynes yn cael ei harestio am yr eildro mewn wythnos am fod y feddw ac afreolus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ffens wedi cael ei gosod o amgylch grisiau hir o flaen adeilad y Pierhead

Y penwythnos diwethaf cafodd gorchymyn gwasgaru 48 awr ei rhoi ar waith ger Canolfan Mileniwm Cymru i fynd i'r afael â phroblemau.

Cafodd ffensiau metel eu cyflwyno i ran o'r bae mewn ymgais i rwystro pobl rhag eistedd ac ymgynnull ar risiau gyferbyn ac adeilad Y Pierhead, er mwyn atal torfeydd rhag ymgasglu ac yfed alcohol.

Y bwriad, yn ôl yr heddlu, oedd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

Fe gadarnhaodd swyddogion y byddai presenoldeb heddlu mwy gweladwy yn Bae o hyn ymlaen.