Ysgolion Cymru i benderfynu ar fygydau i ddisgyblion
- Cyhoeddwyd
Ysgolion a chynghorau fydd yn penderfynu a oes angen i ddisgyblion wisgo mygydau mewn ysgolion ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Yn gynharach, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod gan orchuddion wyneb "rôl i'w chwarae mewn ysgolion" mewn ardaloedd sy'n gweld nifer cynyddol o achosion o Covid-19.
Ond nid yw'r llywodraeth wedi gorfodi defnydd mygydau, ac yn hytrach fe fydd angen i ysgolion a cholegau gwblhau "asesiadau risg" o'u hadeiladau.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams na fyddai angen gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth, gan fod angen sicrhau pellter cymdeithasol bryd hynny.
Mae un grŵp sy'n cynrychioli prifathrawon wedi dweud ei fod yn "annerbyniol" rhoi'r cyfrifoldeb ar arweinwyr ysgol.
Asesu'r risg
Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi dweud bod mygydau i ddisgyblion yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol o ysgolion, ac mae'r Alban hefyd yn dweud y dylid eu gwisgo ar fysiau ysgol.
Yn Lloegr, bydd angen mwgwd mewn coridorau ysgolion yn yr ardaloedd sydd dan fesurau clo arbennig.
Mewn nifer o ardaloedd fel Luton, Northampton, Caerlŷr ac ardaloedd ym Manceinion mae yna gyfyngiadau ar yr hyn y gall pobl wneud yn sgil twf yn nifer yr achosion o Covid-19.
Wrth gyhoeddi'r penderfyniad ddydd Mercher, dywedodd Ms Williams mai'r cyngor cyffredinol yng Nghymru ydy bod angen mygydau ar bawb dros 11 oed mewn lleoliadau dan do lle nad yw'n bosib cadw pellter cymdeithasol.
Dywedodd y datganiad: "Byddwn yn addasu ein cyngor... bod angen i ganolfannau ac awdurdodau lleol gwblhau asesiadau risg o'u hystadau i weld a oes angen argymell gorchuddion wyneb i staff a phobl ifanc mewn ardaloedd cymunedol.
"Bydd hyn yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus."
Ychwanegodd bod angen blaenoriaethu anghenion pobl ifanc wrth asesu, ac y gallai fod angen darparu mygydau i rai plant.
Mewn sesiwn rhithwir o'r Senedd ddydd Mercher, dywedodd Mark Drakeford wrth ateb cwestiwn gan Mark Reckless o Blaid Brexit: "Mae potensial i fygydau gael rôl i'w chwarae mewn ysgolion uwchradd mewn cyd-destun lleol, lle mae niferoeddd [coronafeirws] yn codi'n uwch na throthwy penodol, lle dyw rhai adeiladau ddim yn caniatáu pobl ifanc i symud yn rhwydd o amgylch ysgol.
"Mae'n fater i'w benderfynu yn lleol mewn amgylchiadau penodol sy'n agos atyn nhw, gan mai nhw yw'r gorau i asesu'r canllawiau y byddwn yn eu darparu iddyn nhw."
'Gwahaniaethau rhwng ysgolion'
Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething na fyddai gorfodi gwisgo mygydau ymhob ysgol yng Nghymru'n briodol tra bod lefelau coronafeirws yma yn isel, ond gwadodd fod Llywodraeth Cymru'n rhoi'r baich ynghylch y mater ar ysgwyddau penaethiaid.
Dywedodd eu bod "wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i helpu ysgolion ac awdurdodau lleol wneud y penderfyniadau hyn" a fyddai'n eu galluogi i ymateb, er enghraifft, petai yna achosion coronafeirws sy'n effeithio ar un ysgol yn benodol.
Ychwanegodd na fyddai gorfodi'r un cam ar bawb "yn cymryd i ystyriaeth wahaniaethau rhwng ysgolion a gafodd eu hadeiladau yn y ddegawd ddiwethaf, sydd â choridorau mwy, a rhai hŷn".
Daw hyn ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd ddiweddaru eu canllawiau ac i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi newidiadau ynglŷn â gwisgo mygydau yn eu hysgolion uwchradd.
'Baich annerbyniol'
Dywedodd undeb NAHT Cymru, sy'n cynrychioli prifathrawon, ei bod yn "annerbyniol disgwyl i arweinwyr ysgolion ysgwyddo'r baich o benderfynu a oes angen mygydau mewn ysgolion".
Ychwanegodd y cyfarwyddwr Laura Doel: "Nid yw prifathrawon yn arbenigwyr meddygol ac ni ddylai Llywodraeth Cymru eu rhoi yn y sefyllfa yma."
Ond mae undeb NEU Cymru wedi croesawu'r datganiad.
Dywedodd David Evans: "I ni mae'r datganiad yn glir - mewn llefydd lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, mae angen i bawb dros 11 wisgo mwgwd, gan gynnwys mewn ysgolion ac ar drafnidiaeth."
Yn ôl Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi "dangos arweiniad".
Dywedodd bod y cyhoeddiad y "gwaethaf o'r ddau fyd, rhoi cyfrifoldeb ar ysgwyddau ysgolion a chynghorau, wrth geisio peidio cymryd cyfrifoldeb am y penderfyniad".
"Yn anffodus nid wyf wedi fy synnu: fe wnaeth anghysondeb Llywodraeth Lafur Cymru a'u negeseuon cymysglyd ynglŷn â gwisgo mygydau ar drafnidiaeth ysgol ddangos i ni'r hyn allen ni ddisgwyl ynglŷn â gwisgo mygydau mewn ysgolion."
Ychwanegodd bod angen i ysgolion cynradd ac ysgolion anghenion arbennig gael canllawiau gwahanol i rai ysgolion uwchradd.
Dywedodd Plaid Cymru "nad yw'n ddigon da" bod gweinidogion yn gwrthod gosod polisi cenedlaethol.
Ychwanegodd Delyth Jewell AS: "Gyda llai nag wythnos i fynd nes bod ysgolion yn ailagor, mae athrawon, rhieni a disgyblion angen eglurder nid haen arall o fiwrocratiaeth."
Roedd Julie Richards, sydd â merch 14 oed yn Ysgol Gyfun Garth Olwg, yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn gorfodi plant a phobl ifanc i wisgo mygydau yn yr ysgol.
Dywedodd: "I fi yn bersonol, mae'r ferch yn mynd i flwyddyn 10 - mae'n flwyddyn bwysig iawn.
"Allith hi ddim fforddio chwe mis arall heb fod yn yr ysgol."
Dywedodd mam arall ei bod yn cytuno y dylai plant wisgo mygydau ar fysiau ysgol. Ond doedd hi ddim yn teimlo bod rhaid eu gwisgo mewn coridorau a llefydd cyhoeddus yn yr ysgol.
"Mae'n reit anghyfforddus," meddai Tracey Elsam sy'n weithwraig iechyd. Mae ei merch yn mynychu ysgol ym Mro Morgannwg.
"Nid wy'n poeni ei fod [gwisgo mwgwd] am achosi niwed i'w iechyd, mae e just yn anghyfforddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2020
- Cyhoeddwyd25 Awst 2020