'Ansicrwydd clybiau gofal yn gur pen i rieni'
- Cyhoeddwyd
Wrth i ysgolion baratoi i groesawu disgyblion yn ôl, mae trefniadau ar gyfer clybiau gofal cyn ac ar ôl ysgol yn parhau yn ansicr.
Yn ôl cwmnïau gofal plant, mae nifer o rieni'n poeni na fyddan nhw'n gallu gweithio oherwydd dydy'r ddarpariaeth arferol ddim eto ar gael.
Mae yna bryder bod y canllawiau yn ansicr, a bod yna anghysondeb rhwng y rheolau i'r sector gofal ac ysgolion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i fwy o leoliadau gofal plant i ailagor neu ehangu eu gwasanaethau wrth i ysgolion ailddechrau.
Mae gan Little Inspirations saith safle yn y de-ddwyrain ond gwasanaeth cyfyngedig iawn fyddan nhw'n gallu cynnig cyn ac ar ôl ysgol.
Eu bwriad yw casglu plant o ysgolion ble mae'r feithrinfa yn rhannu safle, ond dydyn nhw ddim yn mynd i allu cludo plant i'r ysgol neu eu casglu o ysgolion eraill.
Mae'r heriau o ran cludo plant yn y car a chost PPE ymhlith y rhwystrau yn ôl y cwmni, sydd hefyd yn dweud bod y canllawiau weithiau yn aneglur.
Mae Charlotte Rees, sy'n gynorthwyydd yn y feithrinfa yn Llantrisant, yn dweud ei bod hi wedi bod yn anodd rhoi digon o rybudd i rieni am y trefniadau.
"Dim ond wythnos ddiwethaf daeth y rheolau a gwybodaeth i ni i ddweud beth sy'n digwydd ym mis Medi," meddai.
"Dy' nhw ddim yn hapus oherwydd doedden nhw methu gadael i'r gwaith wybod beth sy'n digwydd - rhai ohonyn nhw'n methu mynd nôl i'r gwaith."
Mae rhai rhieni hyd yn oed yn ystyried peidio danfon eu plant i'r ysgol gan nad ydyn nhw'n gallu eu gollwng neu eu casglu yng nghanol diwrnod gwaith, meddai'r cwmni.
Ac yn ariannol, dywedodd Little Inspirations, bod y math yma o wasanaeth yn hanfodol i'w cyllid nhw a chwmnïau tebyg.
Mae Clwb Carco wedi bod yn darparu clybiau brecwast ac ar ôl ysgol ers 17 mlynedd ac mae 1,500 o blant ar eu llyfrau yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a lleoliadau eraill yn y de.
Yn ôl cyfarwyddwr a pherchennog y cwmni, Trystan Francis mae'r sefyllfa yn "ddigon ansicr, digon anodd".
"Mae llwyth o rieni, fydden i'n dweud cannoedd, yn cysylltu yn pryderu," meddai.
"Mae nifer ohonyn nhw ddim yn siŵr sut allan nhw fynd nôl i'r gwaith neu hyd yn oed weithio o adre gyda thri o blant a gorfod mynd i gasglu'r plant, d'wedwch am 15:30 pan mae eu diwrnod gwaith nhw falle'n gorffen am 18:00 neu 19:00.
"I nifer ohonyn nhw mae'r gofal plant yr un mor bwysig â'r oriau ysgol eu hun."
Mae'r cwmni yn gweithredu ar safleoedd ysgolion ac wedi trefnu ailddechrau mewn ambell leoliad yn ail wythnos y tymor, a sgyrsiau ar y gweill gydag eraill.
Ond mae "canllawiau amwys" gan y llywodraeth wedi bod yn rhwystr, meddai.
"Y'n ni'n gofyn i'r llywodraeth i roi canllawiau clir i'r ysgolion ac i ni fel mudiadau gofal plant ar sut allwn ni weithio gyda'n gilydd oherwydd mae gofynion y sector gofal plant yn wahanol iawn i'r sector addysg ar hyn o bryd, ac felly i ddarparwyr fel ni sydd yn gweithredu o fewn yr ysgolion yn amlwg rhaid i ni gael rhyw ganllaw clir o ran sut allwn ni weithredu."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod bron i 70% o leoliadau gofal plant yng Nghymru bellach ar agor, a bod disgwyl i fwy ailddechrau eu gwasanaethau wrth i ysgolion ailagor.
"Mae ein canllawiau i ddarparwyr gofal plant yn cynnwys cyngor ar blant sy'n mynychu nifer o leoliadau, fel clybiau brecwast a phrynhawn," meddai llefarydd.
'Dyletswydd gyfreithiol'
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n deall y gallai'r gwasanaeth fod rhywfaint yn wahanol ar ddechrau tymor yr hydref wrth i ysgolion a darparwyr gofal plant ddod i'r arfer â'r ffyrdd newydd o weithredu, ac rydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gofal plant ar gael i deuluoedd.
"Yn ddiweddar hefyd, cyhoeddwyd £4m i gefnogi'r sector gofal plant i sicrhau bod mwy o ddarparwyr yn ailagor wrth i ysgolion ddychwelyd ym mis Medi."
Dylai clybiau brecwast sy'n cael eu rhedeg gan ysgolion ailddechrau ar ddechrau'r tymor newydd, yn ôl y llywodraeth.
"Os oedd ysgol gynradd yn rhedeg cynllun brecwast am ddim cyn y pandemig, mae yna ddyletswydd gyfreithiol o hyd i ddarparu brecwast ysgol am ddim ar ddechrau'r tymor ysgol newydd," meddai'r llefarydd.
"Felly, bydden ni'n disgwyl, wrth i ysgolion cynradd agor, y dylai clybiau brecwast weithredu fel arfer oni bai ei fod yn afresymol iddyn nhw wneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2020
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020