Y Bala yn ildio gêm gartref i deithio i Wlad Belg

  • Cyhoeddwyd
EuropaFfynhonnell y llun, Soccrates Images

Mae Clwb Pêl-droed Y Bala wedi ildio'r cyfle i chwarae eu gêm yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa fel gêm gartref yng Nghymru.

Ddydd Llun cafodd Y Bala wybod mai Standard Liège o Wlad Belg y byddan nhw'n herio yn ymhen ychydig wythnosau.

Y Bala gafodd eu dewis fel y tîm cartref ond ddydd Mawrth fe wnaeth y clwb gyhoeddi y bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Liège yn hytrach nag yng Nghymru.

Pe bai'r gêm wedi'i chynnal yng Nghymru ni fyddai modd ei chynnal ym Maes Tegid am nad yw'r stadiwm yn cydymffurfio â'r safonau sy'n ofynnol gan drefnwyr y gystadleuaeth, UEFA.

Hefyd ddydd Llun cafodd Y Seintiau Newydd wybod y byddan nhw'n teithio i Ynysoedd y Ffaro i herio B36 Tórshavn, tra bydd Cei Connah yn croesawu Dinamo Tbilisi i Gymru, ond does dim cadarnhad eto ble y bydd honno'n cael ei chwarae.

Oherwydd coronafeirws bydd y gemau yn rhai un cymal yn unig, a hynny ar nos Iau, 17 Medi.

Yr enwau allan o'r het ar gyfer y rownd nesaf

Daeth yr enwau o'r het ar gyfer y drydedd rownd ragbrofol o'r gystadleuaeth brynhawn Mawrth.

Pe bai'r Bala yn llwyddo i drechu Standard Liège fe fyddan nhw'n herio FK Vojvodina o Serbia, gyda'r Bala wedi'u dewis fel y tîm cartref.

Byddai buddugoliaeth i'r Seintiau Newydd yn eu gweld yn wynebu un ai CSKA Sofia ym Mwlgaria neu BATE Borisov ym Melarws.

Byddai Cei Connah yn teithio i Ynysoedd y Ffaro i herio Klaksvíkar Ítróttarfelag pe byddan nhw'n llwyddo i drechu Dinamo Tbilisi.