Dros gant yn ceisio am arian i helpu'r celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
Gig Calan yn Wisconsin cyn i'r daith yn America gael ei chansloFfynhonnell y llun, Bethan Rhiannon
Disgrifiad o’r llun,

Y celfyddydau fydd yr olaf i ddychwelyd wedi'r cyfnod clo, medd Cyngor y Celfyddydau

Mae dros gant o geisiadau "yn yr arfaeth" ar gyfer arian gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r gronfa yn cael ei gweithredu ar y cyd rhwng Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru gyda'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar ddydd Mercher 9 Medi.

Mae gan y cyngor £27.5m i'w ddosbarthu ac mae yn rhan o becyn cymorth brys gwerth £53m gan Lywodraeth Cymru i helpu y celfyddydau i ddygymod â gostyngiad dramatig yn eu refeniw o ganlyniad i Covid-19.

Y nod yw helpu sefydliadau, sy'n wynebu'r bygythiad o orfod cau oherwydd y pandemig, a cheisio rhoi cymorth iddyn nhw i ailddechrau gweithio yn 2021 a thu hwnt.

Mae'r gronfa yn agored i sefydliadau di-elw neu fasnachol, ond mae rhaid iddyn nhw ddangos eu bod wedi dioddef yn sylweddol oherwydd effaith coronafeirws a'u bod yn cynnig gweithgarwch celfyddydol sy'n hygyrch i bobl.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'n amlwg y bydd ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod y celfyddydau yn gyffredinol, a pherfformio'n enwedig, yn debygol o fod yn un o'r meysydd olaf i ddychwelyd ar ôl y cyfnod clo.

"Mae'r arian hwn yn fodd i achub sefydliadau celfyddydol Cymru nes y gallant ein croesawu'n ôl i fwynhau'r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt."

Ar hyd a lled Cymru mae byd y celfyddydau yn wynebu un o'r cyfnodau mwyaf heriol yn ei hanes oherwydd y pandemig.

'Sefyllfa bryderus'

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn un o'r rhai sy'n gwneud cais am help gan y Gronfa Adferiad.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr y Ganolfan y byddai'r arian yn help "i sicrhau bod rhyw incwm yn dod mewn i ddiogelu ein dyfodol ni rhwng nawr a mis Mawrth nesaf".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn parhau ar gau

Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan ar gau. Ychwanegodd Mr Rhys ei bod "yn sefyllfa hynod o ryfedd ac yn bryderus yn naturiol.

"Eisoes i ni fel canolfannau eraill ledled Cymru wedi colli incwm sylweddol iawn ers mis Mawrth ers gorfod cau. Oni bai am gynlluniau fel ffyrlo ac, yn ffodus i ni, cefnogaeth y Brifysgol fe fydden ni mewn sefyllfa fwy pryderus hyd yn oed".

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddosbarthu gwerth dros £18m o'r grant.

Bydd lleoliadau cerddoriaeth, stiwdios recordio ac ymarfer, sefydliadau ac atyniadau treftadaeth, amgueddfeydd a gwasanaethau archifau achrededig, llyfrgelloedd, digwyddiadau a'r rheini sy'n darparu cymorth technegol ar eu cyfer, sinemâu annibynnol a'r sector cyhoeddi yn gallu gwneud cais am arian o'r gronfa.

Bydd modd cyflwyno ceisiadau am gymorth o'r gronfa yma o 14 Medi a'r dyddiad cau yw 30 Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth y bydd "pob cais yn cael ei ystyried yn fanwl cyn i unrhyw arian gael ei ddarparu".