Arian i ysgolion a cholegau ddarparu mygydau

  • Cyhoeddwyd
schoolchildren wearing masksFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyw gwisgo mygydau ddim yn orfodol yn ysgolion Cymru

Bydd ysgolion uwchradd a cholegau yn derbyn £2.3m gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu mygydau i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr.

Mae gorchuddio'r wyneb yn cael ei argymell mewn ysgolion uwchradd pan nad "yw'n bosib" cadw pellter cymdeithasol ond nid yw mygydau yn orfodol yng Nghymru fel mewn mannau eraill yn y DU.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn bwysig bod pobl yn teimlo'n hyderus eu bod yn cael eu hamddiffyn wrth iddynt ddychwelyd i ysgol neu goleg.

Ond yn ôl Plaid Cymru dyw'r arian ddim yn ddigon.

Yng Nghymru ysgolion, colegau a chynghorau lleol sy'n penderfynu pryd y dylid gorchuddio'r wyneb wedi i'r gweinidog iechyd Vaughan Gething ddweud nad yw'r un cyngor yn berthnasol i bawb.

Mae undebau athrawon wedi galw ar Gymru i ddilyn Yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'n orfodol i wisgo mygydau mewn coridorau ac ardaloedd cymunedol ysgolion uwchradd.

Maent hefyd yn orfodol mewn rhannau o Loegr sy'n wynebu cyfnodau clo estynedig oherwydd cynnydd mewn achosion lleol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai disgyblion dros 12 oed wisgo mygydau pan yn cymysgu ag oedolion

Bydd £1.8m o'r arian yn cael ei roi i ysgolion a £469,000 i ddarparwyr addysg bellach.

Dywedodd Ms Williams: "Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc a phawb sy'n yr ysgol yn teimlo'n hyderus bod mesurau yn cael eu cyflwyno i'w diogelu wrth iddyn nhw ddychwelyd i ysgolion a cholegau."

Disgrifiad o’r llun,

A fydd £2.3m yn ddigon i ysgolion a cholegau yng Nghymru ddarparu mygydau?

Yn y cyfamser, mae staff mewn pum ysgol wahanol yn ne Cymru wedi cael prawf coronafeirws positif ers ailagor wythnos ddiwethaf sef ym Mhen-y-bont, Maesteg, Cwmbrân, Caerfyrddin a Bargod yn Sir Caerffili.

Ym Margod mae dosbarth o 21 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd St Gwladys wedi cael cais i hunan-ynysu am bythefnos ar ôl i aelod o staff gael prawf positif am coronafeirws - byddant yn aros adref am 14 diwrnod ond bydd gweddill yr ysgol yn parhau ar agor.

'£2.3m ddim yn ddigon'

Dywed llefarydd addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian, nad yw £2.3m yn ddigon i ddarparu mygydau i bob ysgol uwchradd a choleg yng Nghymru.

"Mae ysgolion," meddai, "yn gorfod defnyddio eu cyllidebau eu hunain i brynu pob math o bethau cysylltiedig â diogelwch yn ystod argyfwng coronafeirws - gan gynnwys nwyddau glendid, arwyddion a thalu am waith adeiladu.

"Dyw swm o £2.3m ar gyfer gorchuddion wyneb yn ddim pan fydd wedi'i rannu rhwng pob ysgol uwchradd a choleg," ychwanegodd Ms Gwenllian.