Dyn yn ddieuog o achosi marwolaeth cynghorydd sir

  • Cyhoeddwyd
Paul JamesFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Paul James wrth hyfforddi ar gyfer taith seiclo i godi arian ar gyfer Ysbytai Bronglais a Threforys

Mae dyn wedi ei gael yn ddieuog o achosi marwolaeth aelod o Gyngor Sir Ceredigion mewn gwrthdrawiad ar gyrion Aberystwyth.

Bu farw Paul James fis Ebrill y llynedd ar ôl cael ei daro gan ddau gar wrth seiclo ar yr A487 rhwng Waunfawr a Chommins Coch.

Penderfynodd y rheithgor wedi tair awr o ystyried y dystiolaeth fod Christopher Jones, 40 o Bontarfynach, yn ddieuog o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Maen nhw'n dal i ystyried y dyfarniad yn achos yr ail yrrwr, Lowri Powell, 44 o Benrhyn-coch, sy'n gwadu'r cyhuddiad yn ei herbyn.

Cafodd y cynghorydd 61 oed ei daro oddi ar ei feic gan ddrych car Ms Powell, cyn i gar Mr Jones ei daro a'i lusgo ar yr A487 rhwng Commins Coch a Waunfawr.

Roedd y ddau ddiffynnydd wedi pledio'n ddieuog, gan fynnu na welon nhw Mr James ar y ffordd am fod yr haul mor llachar.

Ddiwrnod y gwrthdrawiad, roedd Mr James yn hyfforddi ar gyfer taith feicio o Aberystwyth i Abertawe gan fwriadu codi £10,000 ar gyfer wardiau cardiaidd Ysbytai Bronglais a Threforys.