Dynes yn euog o achosi marwolaeth cynghorydd sir
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Geredigion wedi ei chael yn euog o achosi marwolaeth cynghorydd sir ar gyrion Aberystwyth trwy yrru'n ddiofal.
Bu farw Paul James, 61, fis Ebrill y llynedd ar ôl cael ei daro gan ddau gar wrth seiclo ar yr A487 rhwng Waunfawr a Chommins Coch.
Roedd Lowri Powell, 44 oed o Benrhyn-coch, yn gwadu'r cyhuddiad yn ei herbyn gan ddweud na welodd hi Mr James am fod yr haul yn ei llygaid.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth nes gwrandawiad dedfrydu ar 9 Hydref.
Clywodd Llys Y Goron Abertawe fod Mr James wedi syrthio i'r ffordd wedi i ddrych car y diffynnydd ei daro.
Fe wnaeth car ail yrrwr - Christopher Jones - ei daro wedi hynny a'i lusgo ar hyd y ffordd.
Ddydd Llun, cafwyd Mr Jones, 40 oed ac o Bontarfynach, yn ddieuog o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.
Fe gymrodd y rheithgor bum awr cyn i'r mwyafrif ddyfarnu fod Ms Powell yn euog o'r un drosedd.
'Bwlch enfawr'
Roedd Mr James yn hyfforddi ar gyfer taith feicio o Aberystwyth i Abertawe pan gafodd ei daro.
Roedd wedi gobeithio codi £10,000 ar gyfer wardiau cardiaidd Ysbytai Bronglais a Threforys ar ôl cael triniaeth yno ei hun.
Dywedodd teulu Mr James mewn datganiad yn dilyn y dyfarniad: "Mae bwlch enfawr ers i Paul gael ei gymryd oddi arnom ni, nid yn unig i ni fel teulu ond i gymuned Llanbadarn Fawr a phawb oedd yn ei nabod.
"Hoffwn ddiolch i dîm yr ymchwiliad am eu holl waith caled ac ymroddiad i'r achos."
Dywedodd y Sarjant Sara John o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys: "Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig, gyda'r canlyniad o farwolaeth dyn teulu annwyl a chynghorydd lleol uchel ei barch.
"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Mr James, sydd wedi amlygu cryn urddas drwy'r cyfnod anodd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019