Annog ymweliadau dan do i breswylwyr cartrefi gofal
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar gartrefi gofal i adael i deuluoedd ymweld â'u hanwyliaid dan do nawr bod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael eu llacio.
Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru mae'n bwysig fod hawliau dynol sylfaenol yn cael eu parchu.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi cyfyngiadau ar gartrefi gofal fis diwethaf.
Yna cafodd y canllawiau ar eu cyfer eu diweddaru ar 28 Awst er mwyn caniatáu ymweliadau y tu mewn i'r adeiladau pan fod lefel Covid-19 yn lleol neu ar lefel cenedlaethol yn caniatáu hynny.
Dywed Fforwm Gofal Cymru fod y cartrefi yn gwneud eu gorau i ganiatáu ymweliadau dan do, ond roedd rhaid bod yn ofalus.
Yn ôl cadeirydd y fforwm mae pryder am gynnydd yn nifer yr achosion positif yn y gymuned.
Mae cartref gofal Old Vicarage yn Llangollen wedi caniatáu ymweliadau y tu mewn i'r adeilad ers codi'r cyfyngiadau, ac mae hyn wedi galluogi'r preswylwyr i fynd i'r eglwys.
"Unigrwydd a bod yn ynysig mae'n siŵr yw'r hyn sy'n gyfrifol am farwolaeth y rhan fwyaf o bobl hŷn," meddai rheolwraig y cartref, Bethan Mascarenhas.
Mae'r cartref yn ceisio ail-greu'r bwrlwm oedd yna cyn y pandemig, meddai Ms Mascarenhas, ond gan "barhau i gynnal asesiadau risg ac atgoffa ymwelwyr am gadw pellter cymdeithasol".
Dywedodd un o'r preswylwyr, Iola Roberts sy'n 87, fod y cartref a'r staff wedi bod yn "ffantastig" ond fod y cyfnod clo wedi bod yn galed a bod nifer ohonynt yn ofnus.
"Ro' ni'n dweud wrth y mab nad oedd o'n rhoi cusan na dim. 'Wnei di roi cusan? Dwi'n sori ond gallai ddim' meddai."
"I fi roedd hynny'n ofnadwy. Roedd o'n un oedd o hyd yn dangos ei deimladau. Dwi eisiau pethau 'nôl i normalrwydd."
Gwirfoddoli er mwyn gweld ei wraig
Un arall sy'n byw yn y cartref yn Llangollen yw Lynne, gwraig John Palmer. Mae ganddi ddementia ac yn methu symud o gwmpas.
Fe wnaeth John hyfforddi i fod yn wirfoddolwr yn y cartref, er mwyn iddo barhau i allu gweld Lynne.
"Mae hi angen pethau sy'n gyfarwydd iddi, ac mae hi'n dal i fy adnabod i, weithiau ddim cystal ond byddai ddim yn fy adnabod o gwbl oni bai fy mod wedi bod yma fel gwirfoddolwr," meddai.
"Roedd pen-blwydd ein priodas yn 50 ychydig wythnosau yn ôl, a pe na bawn wedi gwirfoddoli ni fyddwn wedi gallu dathlu hynny gyda'n gilydd, felly roedd hynny yn hyfryd."
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots, wedi annog cartrefi gofal eraill i ddilyn trywydd yr Old Vicarage, a chaniatáu ymweliadau o'r fath.
Dywedodd fod yn rhaid ystyried hawliau dynol sylfaenol fel yr hawl i fywyd teuluol, yr hawl i addoli a rhyddid.
"Nawr yw'r amser i sicrhau fod hawliau preswylwyr yn cael eu parchu a chydbwyso'r risg ac asesiadau sydd eu hangen i sicrhau diogelwch pob un o'r preswylwyr."
Dywedodd ei bod yn deall y pwysiau sy'n wynebu rheolwyr cartref gofal, ond ychwanegodd fod yn rhaid hefyd cofio'r budd enfawr sy'n dod o ymweliadau o'r fath gan anwyliaid.
Diogelwch staff
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, cartrefi unigol sy'n penderfynu a ydynt am ganiatáu ymweliadau ond gan ychwanegu: "Rydym yn disgwyl ac yn annog darparwyr i hwyluso ymweliadau pan fydd hyn yn bosib."
Dywedodd Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, fod cartrefi yn "fwy pryderus nag oeddynt yr wythnos diwethaf oherwydd y cynnydd mewn achosion yn y gymuned yng Nghaerffili a llefydd eraill".
Yn ogystal ag iechyd emosiynol preswylwyr, meddai, mae gan y cartrefi gyfrifoldebau yn ôl deddfwriaeth iechyd a diogelwch, yn ogystal â bod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch staff.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020