Achosion Covid ddim yn atal gêm Ewropeaidd Cei Connah

  • Cyhoeddwyd
Europa League trophyFfynhonnell y llun, Harold Cunningham - UEFA

Bydd gêm bêl-droed Cei Connah yng Nghynghrair Europa nos Iau yn mynd yn ei blaen er i dri o chwaraewyr y tîm o Gymru brofi'n bositif am Covid-19.

Cyn herio Dinamo Tbilisi, mae'r tri - yn ogystal ag un arall sy'n dangos symptomau - wedi hunan ynysu.

Cafodd y penderfyniad ei wneud i chwarae'r gêm yn dilyn ymgynghoriad gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bydd y gêm yn ail rownd rhagbrofol y gystadleuaeth yn cael ei chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam am nad yw stadiwm Cei Connah yn cydymffurfio gyda rheolau Covid-19.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Yn dilyn rheolau UEFA, cafodd ein holl garfan o chwaraewyr, y staff hyfforddi a staff gweithredol eraill brawf Covid-19, ac o ganlyniad fe wnaeth tri chwaraewr brofi'n bositif gydag un arall yn dangos symptomau o'r feirws.

"Ers i ni ailddechrau chwarae, rydym wedi glynu at yr holl reolau ac argymhellion gan GBDC a UEFA. Iechyd a diogelwch ein staff a'n chwaraewyr yw'r flaenoriaeth bob tro, ac mae bob penderfyniad yn adlewyrchu hyn.

"Trwy ddilyn cyngor yr awdurdodau perthnasol a gosod mesurau helaeth mewn lle, rydym wedi cael yr hawl i fwrw 'mlaen gyda'r gêm ar y Cae Ras."

Ychwanegodd y clwb y bydd y gêm yn erbyn pencampwyr Georgia yn "her arthurol" gan mai dim ond 14 chwaraewr fydd ar gael i'r clwb oherwydd anafiadau a hunan ynysu.