Drakeford: 'Gwacter annerbyniol rhwng y DU' ar Covid
- Cyhoeddwyd
Mae 'na "wacter wrth galon" y DU ac ychydig iawn o drafod rhwng ei phedair gwlad ar sut i ddelio gyda'r coronafeirws, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi cael un sgwrs fer gyda Phrif Weinidog y DU, Boris Johnson ers 28 Mai.
"Mae hynny'n syml yn annerbyniol i unrhyw un sy'n credu y dylwn ni fod yn wynebu'r argyfwng coronafeirws gyda'n gilydd," meddai.
Yn y gynhadledd wythnosol, dywedodd bod y ffigwr R bellach dros 1 yng Nghymru, a bod dwy ardal arall - Merthyr Tudful a Chasnewydd - yn cael eu monitro'n ofalus.
Yn y cyfamser, dywed adroddiad newydd y gallai 6,000 o bobl yng Nghymru farw gyda Covid-19 erbyn mis Mawrth 2021 mewn "senario gwaethaf rhesymol posib".
Beth ddywedodd Mark Drakeford?
Fe wnaeth Mr Drakeford ailadrodd ei alwad am system ffurfiol o drafodaethau rhwng y llywodraethau datganoledig a San Steffan.
Galwodd am drafodaethau "cyson a dibynadwy" gan ddweud y byddai cyfarfod "unwaith yr wythnos yn ddechrau da".
Dywedodd nad oedd am weld trafodaethau er mwyn i bob gwlad weithredu yn yr un modd, ond yn hytrach er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau gorau dros y gwledydd unigol.
"Mae 'na wacter wrth galon y Deyrnas Unedig, ac mae angen ei llenwi ar unwaith, er mwyn i ni allu siarad gyda'n gilydd, rhannu gwybodaeth a syniadau a dangos penderfyniad y gall y wlad gyfan wynebu'r heriau yma gyda'i gilydd yn y cyfnod anodd hwn," meddai.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydyn ni wedi wynebu'r feirws hwn fel un Deyrnas Unedig, gan weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig a phartneriaid lleol i fynd drwy'r pandemig.
"Bu cannoedd o gyfarfodydd a galwadau gyda'r gweinyddiaethau datganoledig a phartneriaid lleol ers i'r pandemig ddechrau. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfodydd COBRA, pwyllgorau a dwsinau o gyfarfodydd eraill gyda gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r cynllunio a chyfathrebu'r ymateb cyffredinol."
Hefyd yn y gynhadledd ddydd Gwener, soniodd Mr Drakeford bod ei lywodraeth yn hyderus bod y ffigwr R - y gyfradd y mae'r haint yn lledu - bellach dros 1.
Mae hynny'n golygu bod pob person sy'n dal Covid-19 yn heintio o leiaf un arall ar gyfartaledd - ac felly mae'r achosion yn debygol o gynyddu.
Dywedodd hefyd ei bod hi'n wythnos anodd yn sgil y cynnydd amlwg mewn achosion yng Nghymru, a'r cyfyngiadau ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf, a bod dwy ardal arall - Merthyr Tudful a Chasnewydd - yn cael eu monitro'n ofalus.
6,000 o farwolaethau'n bosib?
Fe allai fod cymaint â 6,000 o farwolaethau Covid erbyn mis Mawrth nesaf gyda brig yr heintiau adeg y Nadolig, yn ôl model newydd a gynhyrchwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mae'r papur, a gynhyrchwyd gan Brifysgol Abertawe, yn "senario gwaethaf rhesymol posib".
Ond mae'r awduron yn pwysleisio ei fod yn "besimistaidd yn fwriadol".
Yn ôl y model byddai cymaint â 636,000 o achosion - tua un rhan o bump o boblogaeth Cymru - rhwng Gorffennaf 2020 a Mawrth 2021.
Dros yr un cyfnod mae'r model yn rhagdybio 6,300 o farwolaethau; byddai derbyniadau wythnosol i'r ysbyty yn cyrraedd ychydig o dan 2,000 o gwmpas Dydd Nadolig, meddai'r papur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020