Pryder am ddiffyg cadw pellter cymdeithasol ar fysiau ysgol

  • Cyhoeddwyd
Bws ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau gwahanol â rheolau gwahanol o ran teithio ar fysiau i'r ysgol

Mae diffyg cadw pellter cymdeithasol ar fysiau ysgol yn mynd yn erbyn y ffaith fod grwpiau o ddisgyblion yn cadw ar wahân yn y dosbarth, yn ôl rhiant.

Dywedodd Gary Langdon bod ei fab 14 oed, Iestyn yn treulio awr y dydd ar fws mini 20 sedd gyda 15 o ddisgyblion eraill - 14 o'r rheiny o ddosbarthiadau gwahanol iddo ef.

Ond unwaith y maen nhw'n cyrraedd yr ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot, dyw dosbarthiadau gwahanol ddim yn cael cymysgu.

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot nad yw'n orfodol i gadw pellter cymdeithasol ar fysiau ysgol.

Mae gan Iestyn awtistiaeth, ac mae'n mynychu Ysgol Hendrefelin - ysgol arbennig ym Mryncoch.

'Annog lledaeniad y feirws'

Dywedodd Mr Langdon, o Bort Talbot, bod ei fab yn bryderus am eistedd gyda disgyblion eraill ar y bws i'r ysgol.

"Maen nhw oll mewn dosbarthiadau gwahanol, felly mae hynny'n bryder, ond dydyn ni ddim yn gwybod gyda phwy mae'n eistedd," meddai.

"Mae e wedi tecstio ni o'r bws yn dweud 'Mae'n rhaid i mi eistedd gyda rhywun am fod y bws mor llawn'.

"Mae pobl ifanc yn cael gorchymyn i gadw pellter ond wedyn yn cael eu gyrru i'r ysgol ar fws heb unrhyw fesurau ymbellhau cymdeithasol.

"Os ydw i eisiau mynd i ganolfan siopa ar drafnidiaeth gyhoeddus byddai'n rhaid i mi gadw at y rheolau ar gadw pellter neu wynebu dirwy.

"Mae'n annog lledaeniad y feirws os nad ydych chi'n mynd i gadw pellter cymdeithasol ar y bws."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gary Langdon bod ei fab, Iestyn yn bryderus am y diffyg cadw pellter

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drafnidiaeth i'r ysgol ond mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylid cadw pellter cymdeithasol rhwng grwpiau o ddisgyblion "ble fo hynny'n bosib".

Ond mae'r canllawiau hefyd yn dweud nad oes rheidrwydd i'r grwpiau gadw eu pellter ar fysiau ysgol.

'Amlygu'r cymhlethdodau'

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Thomas Hunt, sy'n cynrychioli Aberafan ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot, bod "pryder gwirioneddol" am grwpiau o ddisgyblion yn cymysgu ar fysiau ysgol.

"Rwy'n gwybod ei fod yn gymhleth, ac mae'n mynd i fod yn anodd iawn, ond rwy'n bryderus iawn," meddai.

"Gyda mab Gary, mae wedi achosi llawer o bryder, fel y byddai i nifer o blant ledled Cymru.

"Rwy'n credu ei fod wir wedi amlygu rhai o'r cymhlethdodau o ddychwelyd i fywyd arferol ac ailagor ysgolion."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot mae'n rhaid i ddisgyblion uwchradd wisgo mygydau ar fysiau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.

"Ble nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, mae mesurau arall i reoli'r feirws ar waith," meddai.

"Mae enghreifftiau o'r mesurau hynny yn cynnwys bod cerbydau yn cael eu glanhau a'u diheintio, bod ffenestri yn cael eu hagor a PPE yn cael ei wisgo gan staff os ydyn nhw mewn cysylltiad agos ag eraill.

"Hefyd, mae pob disgybl uwchradd wedi derbyn tri mwgwd gan yr awdurdod lleol, ac mae'n rhaid iddyn nhw eu gwisgo ar fysiau ysgol, gan gynnwys y daith i Ysgol Hendrefelin ac adref.

"Ry'n ni'n deall ei fod yn amser pryderus i ni oll, yn enwedig disgyblion a'u rhieni.

"Byddwn yn annog disgyblion a rhieni i drafod eu pryderon gyda'u hathrawon er mwyn sicrhau bod pryderon yn cael eu deall a'u pasio ymlaen."