Llywodraethau'r DU wedi 'methu â pharatoi' am bandemig
- Cyhoeddwyd

Rhondda Cynon Taf yw un o'r ardaloedd i wynebu cyfyngiadau lleol
Fe wnaeth llywodraethau olynol ledled y DU "dynnu eu llygaid oddi ar y bêl" wrth fethu â pharatoi ar gyfer pandemig byd-eang, er iddyn nhw gael eu rhybuddio am flynyddoedd o'r peryglon.
Dyna farn cyn-brif swyddog meddygol Cymru, a arweiniodd adolygiad o ymateb y DU i epidemig ffliw 2009.
Nawr, mae'r Fonesig Deirdre Hine yn rhybuddio bod "perygl gwirioneddol" o ail don niweidiol o Covid-19.
Mae'n chwe mis ers cyflwyno'r cyfnod clo cyntaf ar draws Prydain.
Y risg mwyaf
Mae nifer yr achosion yn cynyddu eto erbyn hyn ac mae cyfyngiadau newydd ledled y DU yn cael eu gosod, tra bod y posibilrwydd o fwy o gyfnodau clo lleol yng Nghymru ar y gorwel.
Roedd y bygythiad o bandemig wedi'i nodi ers blynyddoedd fel y risg mwyaf oedd yn wynebu'r DU.
Roedd y Fonesig Deirdre wedi rhybuddio y byddai'r DU yn debygol o wynebu pandemig llawer mwy difrifol yn y dyfodol ac y dylai wneud paratoadau.
Ond yn hytrach, mae'n dadlau bod gallu iechyd y cyhoedd wedi'i erydu ar draws y pedair gwlad a bod adnoddau wedi'u dargyfeirio i ddelio â heriau mwy uniongyrchol, fel delio â phwysau o ddydd i ddydd y Gwasanaeth Iechyd a hyd yn oed y gwaith paratoi ar gyfer Brexit.
Pandemig sydd dal i fod ar frig cofrestr risg y llywodraeth ond dywedodd y Fonesig Deirdre er gwaethaf hynny, gyda phwysau eraill, "pwysau ar adnoddau, os meiddiaf ddweud pwysau Brexit, mae llygaid nifer o bobl wedi'u tynnu oddi ar y bêl".

Dywedodd y Fonesig Hine y byddai'n hoffi gweld mwy o adnoddau i labordai iechyd cyhoeddus
'Profi, olrhain ac ynysu'
Un enghraifft o'r diffyg cynllunio, mae'n dadlau, oedd y methiant i sicrhau gallu digonol i brofi ac olrhain yn ystod dyddiau cynnar y pandemig. Dyma y mae'n ei ddisgrifio fel y "methiant mwyaf arwyddocaol".
Ataliwyd profion cymunedol ym mis Mawrth ledled y DU gyda phrofion wedi'u cyfyngu i gleifion yn yr ysbyty.
"Alla i ddim deall pam y symudodd llywodraethau i ffwrdd o brofi, olrhain ac ynysu - dyna'r sail ar gyfer rheoli unrhyw glefyd heintus.
"Gallent fod wedi'i weithredu yn llawer cyflymach. Yn fy marn i, byddai'r dull iechyd cyhoeddus gyda labordai ledled y wlad - y llongau bach yn hytrach na'r dinistrwyr mawr neu gludwyr awyrennau sydd gennym yn awr - wedi bod yn fwy effeithiol a gellid bod wedi cael eu paratoi'n gyflym iawn.
"Roedd labordai prifysgol a labordai preifat yn gwirfoddoli ac yn cael eu gwrthod.
"Pe gallai'r Almaen wneud hynny - gallem wneud hynny a gwnaeth yr Almaen hynny ar lefel leol. Rhaid i ni roi adnoddau i iechyd cyhoeddus lleol."
Cafodd diffyg cyd-drefnu rhwng pedair gwlad y DU "effaith niweidiol" ar adegau, meddai, gyda negeseuon cymysg ar gyfyngiadau yn cynyddu'r risg na fyddai pobl yn cadw atynt.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cwyno'n aml am ddiffyg trafodaethau rheolaidd a dibynadwy gyda Llywodraeth y DU am ymateb y DU I'r pandemig.
Ond mae'r Fonesig Deirdre yn canmol Llywodraeth Cymru am ei dull gofalus o ailagor wedi'r cyfnod clo dros y cyfnod hwnnw - er ei bod, o ystyried y sefyllfa bresennol, yn cydnabod efallai nad oedd yn "ddigon gofalus".
Mae'n rhybuddio am "berygl gwirioneddol" o ail don niweidiol o Covid-19.
"Mae'n amlwg iawn ein bod ar gynnydd o ran achosion a derbyniadau i'r ysbyty. Rwy'n credu bod perygl gwirioneddol ein bod yn mynd yn ôl i sefyllfa yr oeddem ynddo ym mis Mawrth," meddai.
"Mae'n anodd iawn gweld pam bod pobl yn anwybyddu rheolau pellhau cymdeithasol i'r graddau y maent yn gwneud ar nos Wener neu nos Sadwrn mewn bariau a chlybiau.
"Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn deall hyn pan mae'n rhaid bod pawb wedi gweld y lluniau ofnadwy o bobl yn ceisio anadlu ar beirianwyr awyru ac wedi gweld pobl reit ifanc, hyd yn oed, yn marw."

Dywedodd gweinidogion eu bod wedi cyflwyno mesurau ar draws Cymru i atal lledaenu'r feirws
Beth mae'r arbenigwyr yn ei ddweud?
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn modelu "senario gwaethaf posib rhesymol," sydd wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Maen nhw'n defnyddio uwch-gyfrifiadur sy'n cynnwys cannoedd o gyfrifiaduron yn Abertawe a Chaerdydd i archwilio data'n agos iawn i olrhain problemau ledled Cymru.
Mae'n gallu gwneud addasiadau yn seiliedig ar y math o gysylltiadau sydd gan bobl a'r grwpiau oedran a helpu i fodelu, gan fod y cyfrifiaduron yn gwneud cannoedd o gyfrifiadau yn seiliedig ar achosion a derbyniadau i'r ysbyty.
Gall hyn i gyd fynd tuag at helpu swyddogion iechyd benderfynu pryd mae angen cyflwyno cyfnodau clo lleol.
O dan y model "achos gwaethaf" - gyda'r gyfradd drosglwyddo neu rif R ymhell yn uwch nag un - byddai derbyniadau wythnosol i'r ysbyty yn cyrraedd uchafbwynt o ychydig o dan 2,000 tua'r Nadolig, a gallai'r cyfnod cyfan weld 6,300 o farwolaethau erbyn mis Mawrth nesaf.
"Ar y gwaethaf ni'n edrych ar gael peak tuag at ddiwedd y flwyddyn, dechre blwyddyn nesaf," meddai Mark Dawson, Peiriannydd Meddalwedd ym Mhrifysgol Abertawe.
Ond dywedodd nad oedd yn anochel eto, a phe bai pobl yn cadw at ganllawiau ac ymyriadau yn ddigon cynnar, gellid osgoi'r gwaethaf.
"Mae 'na obaith i bobl newid y patrwm os yw pobl yn dilyn awgrymiadau'r llywodraeth. Ni yn dechrau gweld y number o cases yn cynyddu. Mae hynny'n awgrymu bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd, bod peak yn mynd i ddigwydd. Ond dyw e ddim yn rhy hwyr o gwbl i newid beth sy'n mynd i ddigwydd mewn cwpl o fisoedd."

Beth am yr effaith hirdymor?
Mae'r Fonesig Deirdre Hine yn poeni y gallai fod "cenhedlaeth wedi'i difrodi" ar ei cholled o ran addysg ac y gallai gael effaith hir dymor ar economi Cymru, oherwydd y ddibyniaeth yma ar weithgynhyrchu.
Mae hefyd yn pryderu am yr effaith ehangach ar iechyd gyda'r Gwasanaeth Iechyd yn wynebu llwyth o bobl sydd angen triniaeth ar gyfer cyflyrau eraill fel canser.
Mae'n dadlau y gallai effaith fyd-eang hirdymor Covid-19 fod yn debyg i effaith y ddau ryfel byd.
"Mae cryn dipyn o gymariaethau o gwmpas gyda'r rhyfeloedd byd ac rwy'n meddwl y bydd [y pandemig] o arwyddocâd tebyg yn hanesyddol er, gobeithio, dros gyfnod byrrach," ychwanegodd.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae'r Fonesig Deirdre yn obeithiol y bydd cymdeithas yn bownsio'n ôl ac yn canmol gwydnwch y GIG.
"Mae gwydnwch naturiol a fydd yn gwrthweithio hyn felly dydw i ddim eisiau bod i fel 'Cassandra'. Mae pobl yn bownsio'n ôl yn gyflym iawn.
"Un o'r pethau cadarnhaol fu pa mor dda y mae'r GIG a gwasanaethau ysbytai wedi ymateb i'r pwysau... mae hynny wedi bod yn hynod o galonogol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020