O Landdewi Brefi i LA: Gethin Davies drymiwr The Struts

  • Cyhoeddwyd
Gethin DaviesFfynhonnell y llun, Gethin Davies

Mae Gethin Davies, drymiwr y band roc The Struts yn dod o Landdewi Brefi, Ceredigion. Bellach mae'n byw yn Los Angeles ac wedi teithio'r byd yn perfformio gyda bandiau fel Foo Fighters a'r Rolling Stones. Yn ddiweddar bu ar lwyfan Soccer Aid gyda Robbie Williams.

Cafodd Gethin sgwrs gyda Ifan Evans ar Radio Cymru, o'i fflat yn Aberystwyth, tra ei fod adre yng Ngheredigion am gyfnod.

"Symudais i mas i Los Angeles ym mis Ionawr ac oedd gigs a tour mawr i fod, ond wedyn death Covid, o'n ni ffili neud ein gigs.

"Fi di bod yn mynd a dod yna am y pum mlynedd d'wetha, a syth ar ôl fi symud yna, fe ddaeth y Covid, so oedd dim lot o fynd mas, achos cyfnod y cwarantin oedd e," meddai Gethin Davies am y cyfnod pan ddaeth "popeth i stop yn y byd.".

"O'n ni'n gweithio ar ein trydydd albym a penderfynon ni fynd mewn i stiwdio fach yn LA i 'neud tair cân… ond fe wnaethon ni recordio deg.

"Wedyn gafon ni syniad i gael fwy o musicians ar yr albym gyda ni, achos mae'n amser mor od, mae pawb mo'yn gweithio."

Adnabod Robbie Williams

Yn ddiweddar bu The Struts yn perfformio eu sengl diweddara' Strange Days yn Soccer Aid, gyda Robbie Williams, dolen allanol.

"O'n i'n 'nabod Robbie Williams trwy Luke [sydd yn y band]. Oedd [Robbie] wedi ffonio Luke a cael sgwrs am tua tair awr yn siarad am bopeth fel aliens ac UFOs. Wedyn wnaethon ni ffonio fe a gofyn os fydde fe'n fodlon recordio llinellau o'r gân.

"Aeth ein producer draw i tŷ Robbie Williams yn LA a recordio gyda fe ar stepen y drws. A dyna ni! Mae'r gân Strange Days mas, mae'r fideo newyd ddod mas, felly gobeithio [geith hi ei chwarae] ar y radio nawr."

Cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Tregaron ydy Gethin, wedi ei fagu uwchben tafarn ym mhentre' Llanddewi Brefi. Mae'n cofio caru cerddoriaeth ers yn blentyn.

"[Yn y dafarn] oedd lle ges i ddiddordeb cynta' mewn cerddoriaeth yn gwrando ar y jukebox, dwi'n cofio cael fy rhoi yn y gwely uwchben y dafarn a clywed y gerddoriaeth. Ac oedd bands yn dod mewn i chware fan 'na.

"Es i Ysgol Tregaron a dechreues i chware drwms gyda'n ffrindiau a sylweddoli wedyn mod i'n eitha da yn chware.

"Es i lawr i Llanelli wedyn i Goleg Sir Gâr cyn mynd i Lundain i neud cwrs Music Management.

Neges Facebook yn gwireddu breuddwyd

Wyth mlynedd yn ôl derbyniodd Gethin Thomas neges Facebook yn gofyn iddo fynd i gwrdd â band a oedd yn chwilio am ddrymiwr, ac mae'n esbonio mai dyna sut ddechreuodd ei yrfa gyda'r band roc.

"Ges i neges rhyw fore ar Facebook yn gofyn os fydden i'n fodlon mynd lan i Derby i gwrdd â'r band 'ma oedd wedi arwyddo i Virgin EMI [Records].

"Do'n i ddim mewn band ar y pryd, felly wnes i feddwl 'man a man i fi fynd am hwn'.

"Cwrddais i â'r bois i gyd, ac ers 'ny fi wedi bod yn trafeili rownd y byd gyda nhw!"

Gethin yw'r unig Gymro yn y band. Mae'r tri aelod arall, Luke, Jed ac Adam, yn dod o Derby, Caerfaddon a Bryste.

"Mae wastad baner Cymru da fi'n hongian off y drumkit yn y cefn. Draw yn America, mae sawl un yn gofyn 'you're from Wales? Where's that, in London?' Mae hwnna yn pet hate i fi, ond fi'n neud yn siŵr fod pawb yn gwybod bo fi'n Gymro."

Ffynhonnell y llun, The Struts

Un o uchafbwyntiau Gethin hyd yn hyn oedd cael teithio America am flwyddyn gyda'r band roc enwog Foo Fighters.

"Hwnna oedd y flwyddyn orau"

"Ein gwaith ni oedd chware tua hanner awr a wedyn o'n ni'n mynd a cael cwpl o ddrincs a watcho nhw'n chware bob nos.

"Wnaethon nhw helpu ni lot, a ma nhw'n dal i helpu ni mas.

"Wnaeth Dave Grohl ddweud ar y radio mai ni oedd y band gore' oedd e 'di cael mas ar y rhewl gyda nhw.

"Mae pethe bach fel 'na yn mynd yn bell, yn enwedig wrth rhywun fel Dave Grohl."

Yn 2016 wnaeth The Struts gefnogi'r band Guns 'N Roses yn un o stadiwms pêl fâs fwya'r byd yn San Fransisco, ac hefyd maen nhw wedi chwarae gyda'r Rolling Stones a The Who.

"Mae wedi gweithio mas yn dda iawn i fi i fod yn onest," meddai.

"Odd dim real plan gyda fi. Fi wedi cael lwc ond fi wedi gweithio yn galed hefyd, felly ydw, dwi'n byw y freuddwyd."

A'r freuddwyd nesa' heblaw cael parhau i deithio'r byd ar ôl i gyfyngiadau'r pandemig godi?

"Christmas Number One bydde yn neis… ymddangos ar Top of the Pops… rhaglen Heno… spot fach ar Rownd a Rownd, neu cameo ar Pobol y Cwm - bydde hynny yn lyfli!"

Hefyd o ddiddordeb: