Profi cynllun llifogydd Talybont
- Cyhoeddwyd
Bydd pentrefwyr a orfodwyd i adael eu cartrefi oherwydd llifogydd y llynedd yn rhan o brofion cynlluniau argyfwng llifogydd ddydd Sadwrn.
Llifodd y dŵr i mewn i 26 o gartrefi yn Nhalybont, ger Aberystwyth, pan ddisgynnodd gwerth mis o law mewn 24 awr ym mis Mehefin 2012.
Ddydd Sadwrn bydd gwirfoddolwyr o'r gymuned yn rhan o drefniadau i geisio gwella'r ymateb petai argyfwng tebyg yn digwydd eto.
Fel rhan o'r ymarferiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bydd y trigolion yn gosod gatiau llifogydd ar eu heiddo er mwyn sicrhau eu bod yn medru eu gosod eto yn gyflym mewn argyfwng.
Dywedodd CNC y byddan nhw'n gweithio gyda'r gwirfoddolwyr i gryfhau'r cynllun llifogydd lle mae modd gwneud hynny.
Fe ddioddefodd pentrefi Talybont, Dôl-y-bont, Penrhyn-coch a Llandre - ynghyd â thref Aberystwyth ei hun - adeg y llifogydd ar Fehefin 8 a 9 y llynedd.
Bu'n rhaid i lawer o'r bobl a adawodd eu cartrefi dreulio hyd at 10 mis mewn llety dros dro.
'Crynhoi'r wybodaeth'
Dywedodd Simone Eade o CNC: "Fe gafodd pobl Talybont brofiad ofnadwy'r llynedd, ac rydym eisiau helpu i wella parodrwydd y gymuned i ddelio gyda llifogydd yn y dyfodol.
"Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweithio'n agos gyda gwirfoddolwyr o'r gymuned i ddatblygu cynllun sy'n crynhoi'r holl wybodaeth a gweithredu sydd ei angen os daw rhybudd llifogydd arall.
"Allwn ni ddim atal llifogydd rhag digwydd, ond os fyddan nhw'n digwydd eto yn yr ardal yma, mae gwaith caled y gwirfoddolwyr ar y cynllun yma yn golygu eu bod mewn gwell sefyllfa i ymateb ac amddiffyn eu cartrefi."
Mae Cyngor Ceredigion, Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn rhan o'r cynllun.
Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, sydd hefyd yn byw yn Nhalybont:
"Er bod y llifogydd yn erchyll, maen nhw wedi dod â'r gymuned at ei gilydd ac mae gwaith caled iawn wedi ei wneud wrth i ni - a phartneriaethau o asiantaethau eraill - gynllunio sut i ddelio gyda digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol."
Mae cynllun newydd i rybuddio'r pentref am lifogydd wrthi'n cael ei ddatblygu, gyda'r bwriad o ddechrau ei weithredu yn ystod hydref 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd3 Awst 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012