Cyfyngiadau coronafeirws i barhau yng Nghaerffili
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau a gyhoeddwyd yng Nghaerffili ar 8 Medi yn parhau mewn grym am wythnos arall.
Yn ôl y ddeddf roedd rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu'r mesurau ar ddiwedd tair wythnos, ac maen nhw wedi gwneud hynny.
Mewn datganiad brynhawn Iau, fe ddywedon nhw bod achosion o Covid-19 wedi lleihau yn gyson ers i'r mesurau gael eu cyflwyno, a'u bod yn diolch i'r trigolion am eu gwaith caled i geisio atal y feirws rhag lledu.
Ond ychwanegodd y datganiad: "Mae gennym fwy i wneud. Mae graddfa heintio yn dal yn uchel yn y bwrdeistref - yn uwch na'r hyn y byddem yn dymuno gweld.
"Ar ôl trafod y mater gyda'r awdurdod lleol, rydym wedi penderfynu gadael y cyfyngiadau mewn lle am o leia saith diwrnod arall. Os fyddwn yn gweld lleihad pellach mewn achosion, rydym yn gobeithio medru ystyried llacio'r cyfyngiadau lleol."
Yn y cyfamser, bydd y cyfyngiadau canlynol mewn grym i bawb sy'n byw o fewn bwrdeistref Caerffili:
Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn nac allan o ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili heb esgus rhesymol;
Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau dan do sydd yn agored i'r cyhoedd, megis siopau, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus - fel sy'n wir am weddill Cymru;
Bydd pobl ond yn cael cwrdd yn yr awyr agored am y tro. Ni fydd pobl yn medru cwrdd gydag aelodau o'u haelwydydd estynedig o dan do, na ffurfio aelwyd estynedig.
Daw cyfyngiadau Cymru gyfan i rym am 18:00 nos Iau sy'n gwahardd gwerthu alcohol ar ôl 22:00, a bydd rhaid i fusnesau lletygarwch sy'n gwerthu alcohol ddarparu gwasanaeth gweini wrth y bwrdd yn unig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020