Canslo codiad cyflog ASau oherwydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y Senedd bresennol 60 o aelodau

Ni fydd aelodau Senedd Cymru yn cael cynnydd yn eu cyflog eleni gan y byddai ei ganiatáu yn "amhriodol" ac yn "anodd ei gyfiawnhau", yn ôl y corff sy'n penderfynu ar raddfeydd cyflogau.

Roedd disgwyl i'r 60 ASau dderbyn cynnydd o 4.4% yn eu cyflog ym mis Hydref, yn dilyn Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

Ond nawr mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi penderfynu na fydd cyflogau'r aelodau yn cael eu newid cyn y chweched Senedd ym mis Mai 2021.

Cyflog presennol Aelod o'r Senedd yw £67,649, ond mae aelodau hefyd yn gallu hawlio lwfansau am gostau swyddfa, costau teithio, gwariant staff a chostau ychwanegol.

Cafodd penderfyniad y bwrdd ei gyfleu mewn datganiad i Gomisiwn y Senedd ddydd Mawrth.

Mewn datganiad dywedodd y bwrdd: "Bu'r bwrdd yn ystyried effaith economaidd y pandemig Covid-19 yng Nghymru.

"Bydd y rhagolygon economaidd hynod anffafriol hyn yng Nghymru yn golygu y bydd llawer o weithwyr yn dioddef caledi, boed hynny oherwydd cyflogau is neu ddiweithdra.

"Mae'r bwrdd o'r farn bod y darlun economaidd wedi newid yn sylweddol ers i'r bwrdd adolygu'r mater ym mis Mawrth ar ddechrau'r pandemig.

"Mae'n dod yn gliriach y bydd y pandemig yn cael effeithiau tymor hwy ac o ystyried y cyd-destun iechyd cyhoeddus sydd wedi newid yn gyflym yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, mae'n debygol iawn bellach y bydd y rhagolygon economaidd gwael iawn yn parhau am y chwe mis nesaf."O ystyried hyn, cred y bwrdd y byddai caniatáu unrhyw gynnydd yn y cyflogau mewn amgylchiadau o'r fath yn amhriodol ac yn anodd ei gyfiawnhau."