'Penderfynol' na fydd y digartref yn ôl ar y stryd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog tai yn dweud ei bod yn "hollol benderfynol" na fydd yn rhaid i bobl ddigartref fynd yn ôl ar y strydoedd ar ôl yr argyfwng coronafeirws.
Mae hi'n galw ar gynghorau i ddod o hyd i gartrefi parhaol i'r cannoedd o bobl sydd wedi cael llety dros dro yn ystod y pandemig.
Fe dalwyd am westai, ystafelloedd myfyrwyr a hosteli ar ddechrau'r pandemig er mwyn i dros 800 o bobl ddigartref gael rhywle i fyw.
Nawr mae 'na £20m arall ar gael i dalu am adeiladu cartrefi newydd neu drosi eiddo gwag fel bod "pawb sydd â chartref yn aros mewn cartref," yn ôl y gweinidog Julie James.
"Mae llawer o bobl mewn llety, sy'n iawn am y tro ond ni fyddan nhw'n iawn yn y tymor hir," meddai.
"Rydyn ni'n hollol benderfynol na fydd yn rhaid i unrhyw un fynd yn ôl ar y strydoedd."
'Llety llawer gwell'
Yng Nghaerdydd mae'r cyngor wedi meddiannu dau westy er mwyn i bobl ddigartref gael byw yno dros dro.
Yn ôl swyddogion, dim ond llond dwrn o bobl sydd wedi gwrthod gwely ac wedi mynnu aros ar y strydoedd yn ystod yr argyfwng.
Dywedodd Sara John, 35, sy'n aros yng ngwesty'r YHA gyda'i phartner, bod e'n llawer gwell na lletyau i'r digartref yr oedd wedi aros ynddyn nhw yn y gorffennol.
"Gallwch chi gloi'r drws ac os chi angen staff maen nhw yna," meddai.
Yn ôl rheolwr y gwesty, Gareth Edwards, mae rhai wedi symud ymlaen i gartrefi parhaol yn barod.
Ond gan fod y cyngor yn helpu dros 200 o bobl ar hyn o bryd, dywedodd ei fod yn rhagweld oedi cyn bod pawb yn cael rhywle i fyw.
"Dwi'n meddwl taw dyna'r her nawr - gweithio allan beth yw anghenion pobl a ble yw'r lle gorau i'w rhoi nhw," meddai Mr Edwards.
Dywedodd John Puzey, cyfarwyddwr yr elusen Shelter Cymru: "Mae gennym ni gyfle unigryw i sicrhau bod pobl ddigartref mewn llety dros dro yn cael cefnogaeth i symud mewn i gartref ac ailddechrau eu bywydau."
Pryder am geiswyr lloches
Ychwanegodd Ms James ei bod yn poeni am nifer fechan o bobl sydd ddim â hawl i gymorth ariannol gan drethdalwyr oherwydd eu statws mewnfudo, gan gynnwys pobl sy'n ceisio am loches.
Fe roddwyd llety iddyn nhw dros dro dan bwerau iechyd Llywodraeth Cymru i'w hamddiffyn rhag Covid-19, ond fe alwodd Ms James ar Lywodraeth y DU i newid y rheolau er mwyn iddyn nhw allu parhau i gael help.
Gofynnwyd i'r Swyddfa Gartref wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020