Ffarwelio â dau geffyl ffyddlon Heddlu De Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dau geffyl sydd wedi gwasanaethu Heddlu De Cymru am chwarter canrif rhyngddynt yn rhoi'r gorau i'w dyletswyddau.
Mae Rubin a Samson wedi cael nifer o brofiadau - maen nhw wedi diogelu arweinwyr byd, wedi hebrwng sêr yn y byd chwaraeon ac wedi bod mewn priodas frenhinol.
"Maen nhw wedi cyflawni eu dyletswyddau ac mae'n amser iddyn nhw bellach gael mynd i'r caeau a mwynhau bywyd ceffyl," medd Rick Lewis, cwnstabl o Heddlu'r De.
Roedd y ddau geffyl ar ddyletswydd yn ystod cynhadledd NATO yng Nghasnewydd yn 2014, fe fuon nhw hefyd ar ddyletswydd yn ystod ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn 2017 ac maen nhw wedi'u gweld ar strydoedd y brifddinas droeon yn ystod gemau rygbi'r Chwe Gwlad.
Pan ddaeth y canwr Ed Sheran i ganu i Stadiwm y Principality fe wnaeth e ddiolch yn bersonol iddyn nhw am blismona'r nosweithiau y bu'n perfformio.
Maen nhw hefyd wedi gweithio y tu allan i Gaerdydd - y llynedd pan ddaeth yr Arlywydd Trump i Rydychen roedden nhw y tu allan i Balas Blenheim yn plismona'r protestiadau tra bod yr Arlywydd yn gwledda tu mewn.
Yn ystod priodas Dug a Duges Sussex fe gawson nhw drip i Gastell Windsor.
Mae Rubin yn gymysgedd o frîd Irish Draught a Clydesdale ac ef yw ceffyl mwyaf profiadol Heddlu'r De gyda 14 mlynedd o brofiad. Roedd e'n cael ei gadw mewn ystabl ym Mhen-y-bont.
Ychwanegodd y Cwnstabl Lewis y bydd yn cael ei golli'n fawr ond mae "wedi gwneud diwrnod da o waith i'n cymunedau".
Samson yw'r ceffyl hynaf ar yr iard ac mae wedi gweithio am 10 mlynedd.
Ymhlith ei uchafbwyntiau e mae "hebrwng tîm rygbi Cymru i Stadiwm y Principality ar ddiwrnod gêm y Chwe Gwlad", medd y Cwnstabl Sadie James.
"Mae hynny wedi bod yn brofiad arbennig ac mae'r ceffylau yn credu bod y dorf yn dod i'w gweld nhw," ychwanegodd.
Heddlu'r De yw'r unig lu yng Nghymru sy'n defnyddio ceffylau i blismona fel hyn. Fe gafodd Heddlu'r Gogledd wared ar eu ceffylau yn 2010.
Fe gafodd Rubin a Samson eu gwobrwyo ddydd Gwener a'r wythnos hon byddan nhw yn cael eu trosglwyddo i warchodfeydd arbennig ar gyfer ceffylau sy'n ymddeol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2015