Cau tafarndai 'yn bosib' er mwyn rheoli'r haint

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn dal peint o gwrw ar stryd yng NghymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai'n ystyried cau tafarndai pe bai cyfraddau haint coronafeirws yn parhau i godi.

Ond rhybuddiodd Vaughan Gething AS y gallai gael "effaith uniongyrchol ar iechyd" ac arwain at "ddiweithdra sylweddol" heb y gefnogaeth ariannol gywir ar waith i'r sector.

Daeth ei sylwadau wrth i uwch-feddygon yng Nghymru rybuddio y gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod yn rhai anodd dros ben i'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd oni bai bod coronafeirws yn cael ei reoli.

Wrth siarad â BBC Radio Wales, dywedodd Mr Gething y byddai angen i'r gyfradd heintio 'R' ostwng o dan 50 o achosion fesul 100,000 o bobl er mwyn osgoi "mesurau pellach" yn rhanbarthol neu'n genedlaethol.

"Fyddwn i byth yn defnyddio ymadrodd fel 'mae coronafeirws dan fy reolaeth', gan ein bod ni wedi gweld patrwm cynyddol o achosion ledled Cymru gyfan," meddai.

"Rydyn ni'n gweld y gyfradd yn gostwng mewn rhai llefydd, a'r gostyngiad ers cyflwyno'r cyfyngiadau newydd, ers i gyfyngiadau ddod i rym yng Nghaerffili, ond mae'n dal i fod ar gyfradd gymharol uchel.

"Nid ydym wedi gallu ei gael i lawr yn bendant o dan 50, ac i aros i lawr o dan hynny, ac mae'n dal i daro o gwmpas ar 50 achos y 100,000."

Dywedodd Mr Gething bod y gyfradd gyffredinol ar gyfer Cymru tua 93 mewn 100,000 a'u bod wedi gweld cynnydd cyffredinol dros yr wythnosau diwethaf ledled Cymru.

"Nawr, mae hynny'n gam sylweddol o'r fan lle'r oeddem ddiwedd mis Awst," meddai, "felly mae'r cynnydd yn un go iawn, ac mae'n rhaid i ni ystyried a yw'r pethau sydd gennym ar waith yn cynhyrchu'r gostyngiad sydd ei angen arnom i osgoi gorfod cyflwyno mwy o fesurau ar draws gwahanol ardaloedd, neu o bosibl yn genedlaethol."

Cyfrifoldeb gan unigolion

Mae'r ystadegau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cynnydd cyson yn nifer y bobl sy'n gorfod mynd i gael triniaeth ysbyty oherwydd COVID, ac mae cynnydd hefyd wedi bod yn niferoedd y marwolaethau'n gysylltiedig â'r haint.

"Yr her yw os na allwn ni i gyd wneud ein rhan, mae'n gwneud cynnydd pellach mewn achosion a'r gobaith tebygol o weithredu ymhellach yn llawer mwy tebygol," meddai Mr Gething, "felly nid ydym mewn unrhyw sefyllfa radical wahanol i unrhyw wlad arall yn y DU, o ran y bygythiad yn cynyddu."

Ddydd Iau fe rybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod trosglwyddiad coronafeirws yn nhafarndai a bwytai yn "bryder".

Fe rybuddiodd Mr Gething y byddai'r misoedd nesaf yn rhai anodd iawn oni bai bod pobl yn cymryd y camau cywir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai cau busnesau lletygarwch yn arwain at ddiweithdra sylweddol meddai Vaughan Gething AS

"Os ydyn ni eisiau byw gyda llai o gyfyngiadau yna mae'r ffordd rydyn ni'n ymddwyn o amgylch cyswllt dan do, dilyn y rheolau mewn tafarn neu fwyty, yn bwysig iawn oherwydd dyna'r fath o gyswllt sy'n codi'r gyfradd heintiau.

"Felly mae'n bwynt difrifol iawn i'r sector lletygarwch yn economaidd, oherwydd nid wyf am weld lletygarwch yn gorfod cau, ond rwyf am weld pobl yn ddiogel ac yn iach."

Ychwanegodd y gallai'r llywodraeth wneud popeth o fewn eu gallu i atgyfnerthu diogelwch mewn busnesau unigol, ond bod hefyd pwyslais ar beth mae pobl yn ei wneud yn eu cartrefi eu hunain hefyd.

"Nid yw'n ymwneud â thafarndai yn unig, rydym wrth gwrs yn ystyried y weithred honno, ond mae'n rhaid i ni ystyried hefyd a ydym am gau sector o'r economi heb gefnogaeth i gadw'r bobl hynny i fynd os na all eu busnes redeg, yna maent yn mynd i golli eu swyddi.

"Fe allech chi golli busnesau, ac mae effaith uniongyrchol ar iechyd yn dod o ddiweithdra sylweddol."