'Darlun llwm' i bobl ifanc ar brentisiaethau

  • Cyhoeddwyd
prentisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder am brentisiaid sy'n dal ar y cynllun ffyrlo

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae nifer y prentisiaid sydd wedi cael eu gwneud yn ddi-waith wedi bron dyblu mewn mis.

Mae'r ystadegau'n dangos fod y nifer wedi codi o 50 i 95 yn y mis hyd at 25 Medi.

Bellach mae pryderon am 3,000 o brentisiaid sydd ar y cynllun ffyrlo, sy'n dod i ben ar 31 Hydref.

Pobl ifanc sydd wedi diodde' fwyaf.

Dywedodd Barry Walters o'r elusen addysgiadol Colegau Cymru: "Mae'r ffigwr yn paentio darlun llwm i'r sector addysg galwedigaethol yng Nghymru, ac un sy'n debyg o waethygu ar ddiwedd mis Hydref.

"Mae darparwyr yn gweithio'n ddiflino i ganfod gwaith arall i ddysgwyr sydd naill ai ar ffyrlo neu wedi eu gwneud yn ddi-waith."

Roedd Rena Platt yn gweithio fel prentis gyda chwmni gofal plant ei mam pan fu'n rhaid cau'r busnes oherwydd coronafeirws.

Bu'n brentis yn Mother's Little Helper yn Y Fenni am ddeufis pan gafodd ei rhoi ar ffyrlo oherwydd y feirws.

Ond yna bu'n rhaid i'r busnes gau yn gyfan gwbl.

Ffynhonnell y llun, family photo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rena Platt yn gweithio fel prentis gyda busnes gofal plant ei mam, Mother's Little Helper, cyn i'r busnes orfod cau oherwydd Covid

Dywedodd Rena: "Caeodd y busnes yn barhaol ym is Gorffennaf ac roedd rhaid i fi fynd ar Gredyd Cynhwysol.

"Roedd mam yn agored iawn am y peth, ond oherwydd amgylchiadau doedd dim dewis ond cau."

Fe fyddai'r brentisiaeth wedi galluogi Rena i gael cymhwysiad gofal plant lefel 2.

Mae hi bellach yn chwilio am fwy o waith yn y maes er mwyn parhau gyda hynny.

Mae darparwyr hyfforddiant Educ8 yn Hengoed wedi bod yn ei chynorthwyo yn y cyfamser.

Dywedodd prif weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence, ei fod yn gyfnod "hynod anodd ac ansicr" i gyflogwyr a phrentisiaid, a bod effaith y pandemig yn golygu mai "diswyddo yw'r unig opsiwn" i rai cyflogwyr.

"Mae ein tîm Cymru'n Gweithio yn gallu darparu cefnogaeth un-i-un i unigolion sydd wedi cael eu diswyddo o'u prentisiaethau," meddai.

Mae'r gefnogaeth yna'n cynnwys cyfleoedd i gwblhau eu hyfforddiant neu gefnogaeth ariannol arall.

Ychwanegodd y gall y gefnogaeth gael ei chynnig o flaen llaw os fyddai diswyddiadau'n gallu cael eu rhagweld.

Ffynhonnell y llun, Careers Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prif weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence ei fod yn "gyfnod anodd ac ansicr" i brentisiaid a chyflogwyr

Yn ôl cyfarwyddwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Jeff Protheroe, mae'n bryderus bod bron 3,000 o brentisiaid yn parhau ar ffyrlo.

"Fel ry'n ni'n gwybod mae hynny'n dod i ben ar ddiwedd Hydref," meddai.

"Ry'n ni eisoes wedi gweld nifer o ddiswyddiadau yn digwydd, a'r pryder nawr yw beth sydd i ddod?

"Oni bai fod yna lacio rhywfaint mewn rhai diwydiannau, yn enwedig manwerthu a thwristiaeth, ry'n ni'n debyg o weld mwy o ddiswyddiadau."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod ar y trywydd iawn i gyrraedd eu nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y llywodraeth yma.

"Bydd ein cyhoeddiad diweddar o £40m i swyddi a sgiliau yn hanfodol i annog cyflogwyr i recriwtio a chadw hyd at 5,000 o brentisiaid," dywedodd llefarydd.

"Er bod y pandemig yn her i bawb, ry'n ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i wireddu ein huchelgais."