S4C 'ar ei hôl hi' ar lwyfannau digidol, medd cadeirydd
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd S4C wedi dweud bod y darlledwr "ar ei hôl hi" o ran cyrraedd cynulleidfaoedd ar lwyfannau digidol.
Yn ei gyfweliad cyntaf ers dod i'r swydd, dywedodd Rhodri Williams fod "wyth mlynedd o drafod" wedi digwydd ynghylch ehangu'r cyrhaeddiad digidol ond bod S4C wedi methu dygymod â'r her.
Fe wnaeth Mr Williams feirniadu'r penderfyniad i roi'r gorau i wasanaeth HD (high definition) fel "camgymeriad strategol enfawr" sydd wedi niweidio amlygrwydd y sianel ar setiau teledu newydd.
Mae'r cadeirydd am gynnal trafodaeth gyhoeddus i ail-ddiffinio pwrpas y sianel.
Daeth Rhodri Williams yn gadeirydd bwrdd unedol S4C ar 1 Ebrill wedi misoedd o oedi yn y broses o benodi olynydd i Huw Jones.
Mae'r argyfwng Covid-19 wedi meddiannu sylw'r bwrdd yn ystod ei fisoedd cyntaf.
Mae Mr Williams wedi rhoi clod i raglenni sydd wedi llwyddo i gael eu cynhyrchu er gwaethaf y pandemig, fel Un Bore Mercher a'r gyfres Sgwrs Dan y Lloer.
Ond mae'n awyddus i weithredu strategaeth newydd i ail-ddiffinio pwrpas S4C yn yr oes sydd ohoni.
Yn 2012 mi wnaeth y prif weithredwr ar y pryd, Ian Jones ddatgan ei fwriad i S4C fod ar gael pryd bynnag a lle bynnag mae'r gynulleidfa'n dymuno.
Ond dywedodd Mr Williams: "Falle bod wyth mlynedd o drafod wedi digwydd, ond does dim wyth mlynedd o weithgaredd wedi digwydd.
"Dwi'n credu bod S4C ar ei hôl hi o ran darpariaeth digidol, a wedi methu - mewn ffordd - â dygymod â'r her o benderfynu pa fath o wasanaethau mae'n bosibl eu darparu nhw ar y sgrîn deledu traddodiadol, a pha wasanaethau sydd yn well yn cael eu darparu ar lwyfannau digidol gwahanol."
Comisiynu 'er mwyn llenwi slot'
Degawd ers toriad sylweddol i gyllideb S4C, mae Rhodri Williams yn dweud bod angen delio â realiti'r sefyllfa ariannol.
"Allwch chi ddim fod yn bopeth i bawb," meddai.
"Fe gollodd S4C dros draean o'u hariannu yn 2010 ac ers hynny wedi parhau i lenwi'r holl oriau - gan gomisiynu cynnwys oedd yn cael ei gomisiynu er mwyn llenwi slot yn hytrach am bod rywun am ei weld e, ac am lenwi'r amserlen gyda nifer helaeth o ail-ddarllediadau o'r archif.
"A rhai ohonyn nhw ddim yn rhaglenni llwyddiannus iawn pan gaethon nhw eu darlledu y troeon cyntaf yn y 90au."
Cytuno ar bwrpas yn 'fater o frys'
Mae Mr Williams wedi dechrau trafod pwrpas S4C gyda rheolwyr ac aelodau bwrdd y darlledwr, ac mae'n awyddus i ehangu'r drafodaeth i gynnwys y sector cynhyrchu a'r cyhoedd.
"Ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid penderfynu ar ein pwrpas ni," dywedodd.
"I fi, fel rhywun fuodd yn chwarae rhan yn yr ymgyrch i sefydlu S4C, y pwrpas yn glir yw i fod yn rhan o'r ymdrech honno i hyrwyddo y defnydd o'r iaith Gymraeg. Dwi'n credu allwn ni fod yn glir am hynny, ac yna penderfynu beth yw'r ffordd orau o wneud e.
"Yr her dwi wedi cyflwyno i'n hunan ac i'r bwrdd yw gofyn: pe bai S4C yn cael ei sefydlu heddiw, pa fath o wasanaeth fyddwn ni'n cael? Dwi ddim yn credu taw'r un presennol fydde fe.
"Mae e'n fater o frys. Wrth gwrs dyw pethau yn y byd yma ddim yn newid dros nos, ond yn sicr erbyn Ebrill 2022 mae'n rhaid ein bod ni wedi trawsnewid natur y gwasanaeth hwn i sicrhau fod e'n un hyfyw a chredadwy ar gyfer y dyfodol."
Teuluoedd lle nad yw pob aelod o'r tŷ yn siarad Cymraeg ydy un elfen o gymdeithas mae am ddenu i wylio cynnwys S4C.
Ond mae'n derbyn bod camgymeriadau'r gorffennol yn gwneud y dasg yn anoddach.
"Dyn ni ddim bob amser wedi helpu ein gilydd," meddai Mr Williams. "Roedd gan S4C wasanaeth diffiniad uchel [HD]. Penderfynwyd rhoi'r gorau i hwnna.
"Ac o ganlyniad, bellach, os ydych yn edrych ar eich canllaw rhaglenni electronig ar eich teledu yn yr adran diffiniad uchel, welwch chi taw Channel 4 sydd yn meddiannu'r slot 104 [ar Freeview].
"Nawr, does dim setiau teledu diffiniad cyffredin ar gael rhagor. Dim ond diffiniad uchel, a 4K ac 8K. Dyna lle mae'r dyfodol.
"Ond eto, roedd rhoi'r gorau i hwnna yn fy marn i yn gamgymeriad strategol enfawr ac wrth i'r byd symud tuag at wasanaethau o safon technegol gwell, mae'n rhaid bod S4C yn rhan o'r mix yna.
"A fyddwn i yn ymgyrchu yn galed i sicrhau ein bod ni yn parhau gydag amlygrwydd ar setiau teledu clyfar, a hefyd bod ein cynnwys ni i'w weld ar wefannau o bob math, a gwasanaethau cymdeithasol ar y we, fel bod pobl yn ffeindio fe'n rhwydd i ddod at cynnwys Cymraeg yn hytrach na gorfod chwilio amdano fe."
'Sawl syniad newydd, cyffrous'
Mae'r diwydiant cynhyrchu annibynnol eisoes yn darparu cynnwys i S4C sydd yn ymddangos ar lwyfannau digidol.
Dywedodd prif weithredwr cwmni cynhyrchu Rondo a chadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, Gareth Williams, fod y sector yn barod i ymateb i her y cadeirydd newydd.
"Efallai roedd yna gyfnod lle oedd pobl yn meddwl bod cynnwys ar-lein yn eilradd ac yn dod ar ôl meddwl am syniadau oedd yn gweithio ar y sianel linol yn gyntaf," meddai.
"Mae'r byd wedi newid yn gyfan gwbl, ac ry'n ni'n gweld sawl enghraifft o syniadau newydd, cyffrous yn ymddangos falle sydd ddim yn mynd i eistedd a byw am y tro cyntaf ar y sianel linol ond efallai sydd yn mynd i ymddangos ar blatfform arall.
"Achos beth ry'n ni yn gweld yw bod cynulleidfaoedd yn ymateb i gynnwys da, a mae nhw yn ffeindio'r cynnwys ar amryw blatfformau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020