Gall gymryd 9 mlynedd i gael diagnosis endometriosis
- Cyhoeddwyd
Wrth i Aelodau o'r Senedd gymeradwyo cynnig am effaith ddinistriol endometriosis dywed un ddioddefwraig bod angen i feddygon fod yn fwy ymwybodol o'r cyflwr a bod angen dysgu am faterion cysylltiedig â misglwyf yn yr ysgol.
Yng Nghymru dywed un elusen y gall hi gymryd 9 mlynedd cyn cael diagnosis ac mae Covid-19 yn debygol o achosi oedi pellach.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi'n bwysig bod awdurdodau iechyd yn cynnig diagnosis effeithiol a thriniaeth ar sut i reoli'r cyflwr.
Treulio wythnos yn y gwely
"Dim ond tair blynedd yn ôl ges i ddiagnosis," meddai Sian Harries, awdur a pherfformwraig comedi.
"Roeddwn wedi dechrau mynd at y doctor pan yn 16 oed i gwyno am boenau periods a gwaedu ond yr ateb ro'n i'n ei gael yw y bydd pethau yn well pan fyddwn wedi cael plant.
"Ond yn 16 doedd hynny ddim yn ateb, es i yna ar y pil ac er fy mod yn teimlo'n lot gwell y cyfan roedd hynny yn ei wneud oedd cwato'r broblem.
"Wrth drio am blant, 'nes i ddod bant o'r pil a do'th y poenau nôl. Roeddwn yn treulio wythnos o bob mis yn y gwely. Roeddwn i'n boenus, yn gwaedu lot a doedd gen i ddim egni.
"Ma' pawb fi'n 'nabod wedi gorfod aros oddeutu 15 mlynedd cyn cael diagnosis.
"Dwi bellach wedi cael laparoscopy a diagnosis a dal yn treulio diwrnod o bob mis yn y gwely - dwi wir ddim yn gwybod sut mae merched â swyddi normal yn 'neud e.
"Yn y diwedd roedd rhaid i fi fynnu a gweiddi er mwyn cael laparoscopy - sef dull o ganfod be sy'n bod ac roedd cael diagnosis o endometriosis yn ryddhad - y ffaith bo fi'n gwybod be sy'n bod.
"Mae wir angen cael gwared o'r stigma, siarad am bethau fel hyn ac mae'n rhaid i faterion sy'n ymwneud â periods gael eu dysgu yn yr ysgol," ychwanegodd Ms Harries.
Tair blynedd, o bosib, cyn apwyntiad
Dywed Endometriosis UK y gall hi gymryd 9 mlynedd cyn cael diagnosis o'r cyflwr yng Nghymru. Dim ond un canolfan arbenigol sydd yn y wlad ac o ganlyniad i Covid-19 mae yna ofnau y gall hi gymryd tair blynedd cyn cael apwyntiad yn y ganolfan arbenigol yng Nghaerdydd.
Ddydd Mercher fe wnaeth Jenny Rathbone, Angela Burns, Suzy Davies, Vikki Howells gyda chefnogaeth Jack Sargeant gynnig bod y Senedd:
Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.
Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 o apwyntiadau meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.
Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor meddygol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.
'Gormod o gywilydd i siarad amdano'
Yn ystod y drafodaeth dywedodd Suzy Davies AS mai dim ond yn ddiweddar iawn y cafodd hi wybod ei bod hi'n byw â'r cyflwr a hynny wedi triniaeth am gyflwr arall.
"Mae fy mhrofiad i'n gyffredin," meddai, "mae'r cyflwr yn gwneud merched i deimlo'n frwnt, yn gwneud iddynt deimlo bod rhaid iddynt gadw cyfrinach ond ar yr un pryd mae nhw'n gorfod poeni lle mae'r toiled agosaf.
"O glywed y symptomau dyw meddygon yn aml ddim yn meddwl mai endometriosis yw'r achos gan nad ydynt yn ddigon cyfarwydd â'r cyflwr.
"Mae un o bob deg ohonom yn byw gyda'r cyflwr hwn fis ar ôl mis, yn byw bywyd uffernol ond eto yn cwrdd â phob gofyn cymdeithasol gan fod siarad am y cyflwr yn codi gormod o gywilydd."
Cynnig cefnogaeth
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hi'n ddyletswydd ar fyrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau gynaecoleg o'r radd flaenaf ac mae'n bwysig bod yna ddiagnosis effeithiol a thriniaeth ar sut i reoli endometriosis.
"Ry'n yn gweithio drwy'r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod i wella gwasanaeth i ferched sy'n cael eu heffeithio gan bob math o faterion iechyd cysylltiedig â'r pelfis gan gynnwys endometriosis. Yn ddiweddar mae'r grŵp wedi sefydlu ffrwd waith i edrych ar endometriosis a bydd hyn yn cefnogi merched sy'n byw gyda'r cyflwr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019