'Archfarchnadoedd ond i werthu nwyddau hanfodol'

  • Cyhoeddwyd
ArchfarchnadFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd archfarchnadoedd yn cael gwybod mai ond "nwyddau hanfodol" y byddan nhw'n cael gwerthu yn ystod y cyfnod clo byr, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Bydd siopau nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn gorfod cau am 17 diwrnod o 18:00 nos Wener.

Ond mae siopau bwyd, siopau papur newydd, fferyllfeydd a siopau trwyddedig (off-licences) yn cael parhau ar agor.

Dywedodd Mark Drakeford bod bwriad i "sicrhau mwy o chwarae teg" i fusnesau annibynnol yn ystod y pythefnos nesaf.

'Anghywir ac anghymesur'

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol Russell George, a ddywedodd bod hi'n "annheg" i orfodi masnachwyr annibynnol i gau tra bo'r archfarchnadoedd yn cael gwerthu nwyddau fel dillad ac offer cartref.

Dywedodd Mr George fod rhoi'r fath fantais i'r archfarchnadoedd yn ystod y cyfnod clo cyntaf "yn teimlo'n anghywir ac anghymesur i'r busnesau bach".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Yn y cyfnod clo diwethaf roedd pobl yn eithaf amyneddgar ynghylch y ffaith fod archfarchnadoedd heb gau popeth efallai bod angen iddyn nhw wneud," atebodd Mr Drakeford.

"Dydw i ddim yn meddwl y bydd pobl yr un mor amyneddgar y tro hwn.

"Byddwn ni'n gwneud hi'n glir i archfarchnadoedd eu bod ond yn cael agor y rhannau hynny o'u busnes sy'n darparu nwyddau hanfodol i bobl.

"A bydd hynny ddim yn cynnwys rhai o'r pethau y gwnaeth Russell George eu crybwyll, y mae pobl eraill yn cael eu hatal rhag gwerthu."

'Llwybr peryglus'

Mewn ymateb i sylwadau Mr Drakeford y dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd:

"Mae hwn yn llwybr peryglus i weinidogion Llafur Cymru ei droedio, wrth iddynt benderfynu beth sy'n angenrheidiol?

"Ydi fflagen o Strongbow yn cael ei weld yn rhywbeth angenrheidiol?

"Beth am drôns os di rhywun mewn angen?

"Mae hyn yn siomedig ond mae yn esiampl o rywun gyda gormod o bŵer.

"Dwi'n gobeithio y bydd yna ganllawiau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer manwerthwyr ar gyfer beth mai commissars Llafur yn dweud sy'n angenrheidiol."

Dywedodd Helen Mary Jones AS, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi: "Ni ddylai busnesau bach fod o dan anfantais annheg yn ystod y cyfnod clo.

"Tra yn sicrhau fod cystadleuaeth yn deg, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ddarparu cymorth ariannol digonol ac wedi ei dargedu ar gyfer busnesau bychain er mwyn sicrhau eu bod yn gallu goroesi am y 12 mis nesaf."