Treialu brechlyn Covid-19 yng Nghymru o fewn mis
- Cyhoeddwyd
Bydd brechiadau Covid-19 yn cael eu treialu yng Nghymru o fewn y mis nesaf, yn ôl gwyddonydd sy'n gweithio ar y cynlluniau.
Wrth i'r ras i ddatblygu brechlyn llwyddiannus yn erbyn y coronafeirws barhau, mae gwyddonwyr ymhob cwr o'r byd yn ceisio dod o hyd i bigiad fydd yn brwydro'r feirws yn ddiogel.
Er bod tua 200 o frechlynnau wedi eu datblygu dros y byd, 10 ohonynt sydd wedi cyrraedd y trydydd cam o brofi.
Ond er hynny, mae athro sy'n arbenigo yn y maes yn dweud nad oes sicrwydd am frechlyn, a bod "hanes yn ein herbyn ni gyda feirysau corona".
'Treialon o fewn mis neu ddau'
Yng Nghanolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mae "lot fawr o waith trefnu" yn mynd ymlaen ar yr holl frechlynnau posib ar gyfer y feirws.
Dydy gwyddonwyr fel Dr Angharad Davies ddim yn datblygu brechlynnau, ond yn gweithio ar frechlynnau posib eraill, a threfnu treialon.
"Rydyn ni'n edrych ar ddechrau'r treialon yn reit fuan - o fewn y mis neu ddau nesaf," meddai Dr Davies ar raglen Newyddion.
"Byddan nhw ar draws Cymru. Bydd rhai yn Aneurin Bevan a Chaerdydd ac mi fydd yna rai eraill yng ngogledd Cymru, mae'n debyg gyda brechlyn gwahanol."
Mae treialon o'r fath eisoes wedi eu cynnal yng Nghymru yn gynharach eleni, yn gysylltiedig â'r brechiad sy'n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Rhydychen a chwmni AstraZeneca.
Mae BBC Cymru ar ddeall nad y brechiad hwnnw fydd yn cael ei dreialu y tro hwn, ond yn hytrach cynlluniau gan gwmnïau eraill.
Doedd y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ddim yn gallu cadarnhau pa frechiadau'n union fydd yn rhan o'r treialon.
Mae rhai gwledydd fel Rwsia a China eisoes wedi dechrau defnyddio brechlynnau, ond mae pryderon nad ydynt wedi cael eu profi'n ddigonol.
Yn ôl Dr Davies mae 10 brechiad nawr wedi cyrraedd trydydd cam y broses ddatblygu.
"Erbyn phase tri, mae ymchwilwyr wedi sicrhau bod brechiad yn ymddangos ei fod yn ddiogel i'w roi ac yn ennyn ymateb imiwnyddol.
"Ond mae angen profi ydy o'n gweithio i atal haint ac ydy o'n ddiogel ar raddfa eang - felly yn edrych ar sgil-effeithiau mwy prin."
Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o gonsortiwm drwy wledydd Prydain sy'n ymchwilio i sut mae system imiwnedd yn ymateb i'r feirws.
Yn ôl yr Athro Awen Gallimore, sy'n goruchwylio Gwaith y Consortiwm ym Mhrifysgol Caerdydd, mae rhai canfyddiadau eisoes wedi eu gwneud.
"Rydyn ni'n gweld bod pobl sydd yn asymptomatic - y rheiny heb dostrwydd mawr - mae ganddyn nhw gelloedd 'T' sydd yn ymateb yn dda i'r feirws.
"Ond wedyn pan ni'n edrych ar bobl sydd â thostrwydd difrifol, beth ni'n gweld yw inflammation.
"Mae ymateb [y celloedd T] yn rhy fawr ac fel bod e'n mynd mas o reolaeth."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid deall beth sy'n creu yr ymateb imiwn gorau. Dyna beth fyddwn ni moyn i frechlyn neud yn y diwedd yw copïo hwnna.
"Oherwydd natur y pandemig, ni'n gorfod datblygu y brechlyn a thrio deall yr ymateb imiwn yr un pryd."
'Hanes yn ein herbyn ni'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrth raglen Newyddion eu bod yn cydweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU i ddosbarthu brechlyn pan fydd un ar gael.
Y rheiny sy'n wynebu'r risg uchaf sy'n debygol o gael y pigiad yn gyntaf, gyda'r blaenoriaethau pellach i gael eu penderfynu ar lefel Brydeinig gan bwyllgor arbenigol.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eisoes wedi hysbysebu swydd rheolwr prosiect ar gyfer y cynllun brechu.
Ond er y gwaith arloesol i ddatblygu brechlynnau, mae gwyddonwyr blaenllaw yma'n rhybuddio nad yw brechlyn yn debygol o gynnig achubiaeth rhag y feirws a'r cyfyngiadau ar ein bywyd bob dydd am beth amser eto.
Dywedodd yr Athro Arwyn Tomos Jones o ysgol fferylliaeth Prifysgol Caerdydd: "Er bod rhai brechlynnau wedi mynd drwyddo i'r cymal olaf o ran treialon clinigol, dyw hynny ddim yn golygu fod yna frechlyn rownd y gornel."
"Gallai hi fod yn amser hir iawn nes bod brechlyn yn cael ei ddarganfod sydd yn effeithiol ac yn ddiogel.
"A does 'na ddim sicrwydd y gall un ymddangos.
"Mae hanes yn ein herbyn ni gyda feirysau corona. Does dim un brechlyn ar y farchnad yn erbyn y teulu yma o feirysau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020