Covid: Y paratoadau olaf cyn y cyfnod clo byr

  • Cyhoeddwyd
aros adrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru'n paratoi i fynd i gyfnod clo byr am 18:00 nos Wener, 23 Hydref.

Cafodd y cyfnod clo byr - fydd yn parhau tan 9 Tachwedd - ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Llun.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cymryd y cam er mwyn ceisio sicrhau na fydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei lethu.

Ddydd Mercher dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod nifer y cleifion yn ysbytai Cymru gyda Covid-19 "ar ei uchaf ers mis Mehefin".

Dywedodd fod 864 mewn ysbyty gyda'r feirws - cynnydd o 26% o'r wythnos flaenorol - a 43 mewn gofal critigol, sy'n gynnydd o 72% dros yr un cyfnod.

Er bod hynny'n is na'r niferoedd pan oedd ton gynta'r pandemig ar ei waethaf, dywed y llywodraeth eu bod yn teimlo fod rhaid gweithredu nawr er mwyn cadw gwasanaethau hanfodol yr ysbytai i fynd, a pheidio cael eu llethu wrth i bwysau arferol y gaeaf ddod ar ben y cyfan.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi mwy na 1,000 o achosion newydd o coronafeirws mewn cyfnod o 24 awr am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig, ac roedd dros 1,000 eto ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Liam O'Brien: Wedi gorfod ymestyn ei oriau yr wythnos hon

Ond mae pryder am yr effaith gaiff y cyfnod clo byr ar fusnesau Cymru.

Mae bwlch rhwng dechrau'r cyfnod clo byr yng Nghymru a dyddiad dechrau Cynllun Cymorth Swyddi newydd Llywodraeth y DU yn "rhwystr sylweddol" i gwmnïau sy'n ceisio goroesi, medd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.

Mae sawl siop trin gwallt ar hyd a lled Cymru, er enghraifft, yn dweud bod nhw wedi gorfod ymestyn eu horiau agor yr wythnos hon er mwyn gweld cymaint o gwsmeriaid ag sy'n bosib cyn 18:00 heddiw.

Fe ddywedodd Liam O'Brien, barbwr sy'n berchen a Office Barbershop yng Nghaerdydd: "Yn amlwg mae ein dyddiadur wedi cael ei lenwi tipyn. Bu'n rhaid i ni drefnu oriau ychwanegol er mwyn gweld cymaint o bobl â phosib cyn y cloi.

"Mae'r ffôn wedi bod yn ddi-stop a rydyn ni wedi llwyddo i wasgu cymaint o bobl i fewn lle gallwn ni.

"Ond rhwng torri gwallt pob person mae angen i ni lanhau pob orsaf, felly mae angen i ni wneud amser ychwanegol ar gyfer hynny hefyd.

"Rydyn ni'n disgwyl amser hynod o brysur ar ôl y cyfnod cloi pan rydyn ni'n cael dychwelyd i waith. Ond fe fydd y pythefnos nesaf yn anodd oherwydd mae gennym ni rent a biliau i'w talu o hyd."

Mae Manon Jones yn rhedeg Caffi Manon yng Nghanolfan Tryweryn rhyw dair milltir o'r Bala.

Daw miloedd o bobol fel arfer i ganŵio a rafftio ar afon Tryweryn. Wrth wynebu cyfnod clo am bythefnos dywedodd Manon wrth Cymru Fyw: "Mae'n rhaid ei wneud o, dwi'n dallt hynny ond mae'n galed arnom ni i gyd fel busnes i gadw i fynd.

"Mae o'n mynd i effeithio yn arw oni bai bod ni yn cael help gan y llywodraeth fase fo yn galed arnom ni."

Ond mae'n ffyddiog y daw hi drwyddi "gyda help y bobol leol dylen ni gadw mlaen a chadw'n pennau uwchben y dwr fel petai".

Mae Steffan Hughes yn berchen Caffi Lolfa Caerfyrddin oedd i fod i agor am y tro cyntaf dydd Sadwrn.

Dywedodd: "Dros yr wyth wythnos ddiwetha ry'n ni wedi bod yn gweithio yn eithriadol i gael agor ein caffi newydd ni fory am y tro cyntaf am 08:00.

"Ond gyda'r cyfyngiadau bydd hynny ddim yn bosib nawr. Yn amlwg mae teimlad o siom a rhwystredigaeth ond hefyd yn sylweddoli bod ganddo ni gyd ein rhan i chware a gobeitho bydd y mesurau llym yn ddigon yn y tymor byr i'n helpu ni.

"Mae cymorth ar gael i fusnesau, ond yn anffodus bydd e ddim byd i neud lan yn iawn am yr arian y byddwn ni yn ei golli yn y pythefnos nesaf.

"Be ni ddim ishe yw gwneud pythefnos o fesurau llym ac wedyn o fewn mis bo ni yn wynebu mwy o fesurau. Bydde hynny yn bennu lot o bobol off yn enwedig cyn Nadolig.

"Gobeithio bydd y pythefnos yma yn helpu ni i neud busnes dros y Nadolig ond hefyd yn sicrhau bod pobol yn gallu mwynhau y Nadolig gyda'u teuluoedd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Beth mae'r cyfnod clo byr yn ei olygu?

Fel yn achos y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth, mae'n rhaid i bobl aros adref er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd diweddar mewn achosion coronafeirws.

Bydd yn rhaid cael rheswm dilys i adael eich cartref, sef:

  • prynu bwyd;

  • casglu meddyginiaethau;

  • darparu gofal;

  • ymarfer corff;

  • mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o adref. Mae gweithwyr allweddol yn eithriad i hyn.

Bydd yn rhaid parhau i wisgo masgiau mewn mannau dan do cyhoeddus, sy'n parhau ar agor.

Bydd archfarchnadoedd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post yn parhau ar agor, ond bydd pob siop nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn cau o 18:00 ddydd Gwener.

Fel yn achos y cyfnod clo gwreiddiol, mae busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden hefyd yn gorfod cau, ond bydd i modd i fwytai gynnig gwasanaeth prydau parod.

Gallwch weld rhestr fanylach o'r cyfyngiadau trwy glicio yma.

A fydd cosb am anwybyddu'r rheolau?

Mae heddluoedd Cymru wedi dweud y byddan nhw'n gweithredu fel yn y cyfnod clo mawr ym mis Mawrth, ac y byddan nhw'n siarad gyda phobl a'u ceisio perswadio cyn cosbi.

Ond os fydd cosb yn angenrheidiol, mae'r rheolau yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cosb benodol, sef dirwy o £60 sy'n cynyddu i £120 am ail drosedd.

Bydd y gosb yn dyblu bob tro hyd at gyfanswm o £1,920, ond os fydd rhywun yn mynd i'r llys am drosedd, gall y llys osod dirwy amhenodol.

Mae rhagor o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru, dolen allanol.