15 mlynedd o arswyd yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
AbertoirFfynhonnell y llun, Abertoir

Ar drothwy Calan Gaeaf mae rhywbeth dychrynllyd yn digwydd yn Aberystwyth…

Eleni mae gŵyl ffilmiau arswyd Abertoir, dolen allanol yn cael ei chynnal yn rhithiol a'r gynulleidfa'n gwylio ffilmiau a sesiynau trafod o adref. Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Nia Edwards-Behi, un o drefnwyr yr ŵyl, i ddysgu mwy.

Sut mae'r Gŵyl Abertoir wedi datblygu mewn 15 mlynedd?

Aelod o'r gynulleidfa o'n i pan ddechreuodd yr ŵyl, felly mae'n hyfryd meddwl yn ôl at hynny! Mae'r ŵyl yn para'n hirach rŵan, o ran nifer o ddiwrnodau'r ŵyl, ac mae'r nifer o ffilmiau sy'n cael eu dangos yn fwy.

Dw i'n credu'n bod ni wedi aeddfedu mewn rhai ffyrdd - o ran cynnig pethau fel canllawiau cynnwys ar gyfer y ffilmiau ac i'r mathau o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal. Wrth gwrs, mae'r ŵyl eleni wedi golygu ein bod ni wedi gorfod datblygu lot, yn benodol iawn yn ein sgiliau digidol, wrth i ni symud ar-lein...!

Sut ydych chi'n dewis y ffilmiau?

Mae gwahanol ffyrdd i dderbyn ffilmiau. Mae rhai'n dod atom ni'n uniongyrchol, eraill yn rhai rydyn ni'n edrych allan amdanynt ac yn gofyn i'w gweld. Hefyd bydd elfen o fynd i wyliau eraill i wylio ffilmiau a gweld beth sy' 'na. Wedyn mae'n weddol syml - rhaid i ni wylio llwyth o ffilmiau pob blwyddyn, a phenderfynu ar ba rai liciwn ni rannu efo'r gynulleidfa.

Weithiau dydyn ni ddim yn llwyddo cael dangos rhai, ond fel arfer mae digon o rai gwych pob blwyddyn fel bod digon o ddewis ar gael os yw rhai allan o'n gafael ni.

Ffynhonnell y llun, Nia Edwards-Behi
Disgrifiad o’r llun,

Trefnwyr Abertoir yn dewis ffilmiau 2020 o bell

Beth yw dy hoff ffilmiau arswyd Cymraeg?

Dw i'n hoff iawn o O'r Ddaear Hen, rhaid i mi gyfaddef! Liciwn i weld addasiad newydd ohoni, er 'mod i'n gyffredinol ddim yn ffan o remakes.

Yn fwy ddiweddar dwi'n hoff iawn o Yr Ymadawiad gan Gareth Bryn. Mae'n gwneud defnydd mor dda o'r tirwedd i adrodd y stori.

Ffynhonnell y llun, Severn Screen
Disgrifiad o’r llun,

Mark Lewis Jones ac Annes Elwy yn Yr Ymadawiad, un o hoff ffilmiau arswyd Cymraeg Nia

Mae'r ŵyl yn arddangos ffilmiau o sawl gwlad ac mewn ieithoedd amrywiol; yw hyn yn bwysig i chi?

Mae'n hanfodol, yn fy marn i. Mae cael amrywiaeth o ffilmiau (a digwyddiadau) yn rhywbeth sy'n digwydd yn weddol naturiol i ni wrth raglennu'r ŵyl, ond rydw i wastad yn atgoffa fy hun o bwysigrwydd hynny.

Un o'r rhesymau dwi'n hoffi ffilmiau arswyd yw oherwydd bod ystod mor eang o straeon ac hanesion i'w hadrodd o fewn y genre, ac mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o ran diwylliannau hefyd.

Oes gen ti hoff boster Abertoir o'r cyfnod?

Pob blwyddyn mae'r artist Peter Stevenson o Aberystwyth yn creu'r poster i ni. Wnawn ni roi ysbrydoliaeth iddo, ond fo sy'n creu'r celf! Fel arfer mae thema wahanol bob blwyddyn, ac un o fy hoff rai yw'r un creodd ar gyfer ein blwyddyn giallo, sef math o ffilm benodol o'r Eidal. Mae'r poster yn ail-greu'r naws yn berffaith!

Ffynhonnell y llun, Aberotir
Disgrifiad o’r llun,

Poster 'giallo' gŵyl Abertoir, 2017

Fe fydd pethau yn wahanol eleni wrth gwrs, ond pam fod y profiad o wylio ffilm mewn sinema gyda phobl eraill yn bwysig i ti?

Ar un llaw dwi'n hoff iawn o'r peth syml o sgrin fawr a system sain da, i fod yn onest! Fedra i ddim ail-greu hynny gartref (er dwi'n gwybod bod rhai yn gwneud!) ac mi ydw i wedi gweld eisiau hynny'n fawr iawn eleni.

Ond hefyd, dw i'n credu bod 'na gysylltiad arbennig wrth rannu profiad mewn sinema - y cyd-chwerthin, y cyd-ochneidio, y trafod wedyn. Mae ryw wefr yn yr awditoriwm, rwy'n credu, a dw i'n wirioneddol gobeithio bydd elfen o hynny'n cael ei ail-greu drwy ein cysylltiadau rhithiol eleni!

Ffynhonnell y llun, Abertoir
Disgrifiad o’r llun,

Fydd y gynulleidfa mor ddychrynllyd yn gwylio o adref eleni?

Hefyd o ddiddordeb: