Galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried addoldai yn hanfodol
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried mannau addoli yn fannau hanfodol.
Pryder y rhai sydd wedi llunio'r ddeiseb yw bod eglwysi wedi'u rhoi yn yr un dosbarth o ran pwysigrwydd â siopau manwerthu ac felly ni allant gynnal gwasanaethau yn ystod y cyfnod clo byr neu pan mae cyfyngiadau lleol mewn grym.
Maen nhw'n dweud nad oes tystiolaeth bod eglwysi wedi cyfrannu at ledaeniad Covid-19.
"Mae eglwysi wedi bod yn un o'r enghreifftiau gorau o amgylcheddau sy'n ddiogel o ran Covid-19, ac maent wedi dilyn canllawiau helaeth, afresymol bron, yn llym, i wneud eu rhan dros y genedl," meddai'r ddeiseb.
"Er bod rhai wedi dadlau y gall eglwysi barhau i weithredu ar-lein, mae hyn ar draul yr ymdeimlad o gymuned."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cyfnod clo byr hwn yn gyfle i atal lledaeniad y feirws a'u bod yn cydnabod gwaith pwysig arweinwyr crefyddol yn ystod y pandemig.
'Meddwl am yr ysbrydol'
Pan ddaw'r cyfnod clo byr i ben ar 9 Tachwedd y disgwyl yw y bydd addoldai yn cael ailagor ar gyfer gwasanaethau.
I weinidogion fel Eifion Perkins yng Nghapel Noddfa Pontarddulais, mae'n gyfnod o baratoi unwaith eto.
"Ar y funud rwy'n teimlo yn drist ar y cyfan achos bydden ni'n lico bod ar agor i groesawu pobl. Mae'n rhyfedd edrych o gwmpas a gweld seddi gwag," meddai.
"Pan fydd y capel yn ailagor mae'n debyg, fodd bynnag, y bydd y rhan fwy o'r rheolau dal yn sefyll o ran cadw pellter ac felly bydd rhaid cadw y trefniadau sy' gyda ni o ran glanhau ac o ran seddau er mwyn sicrhau bod pobl yn eistedd yn ddiogel."
Mae'n ychwanegu bod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol.
"Mae 'di bod yn anodd iawn achos mae goblygiadau i bob un penderfyniad gan y Llywodraeth a rhaid bod yn ystyrlon o hynny a derbyn eu bod nhw yn trio gneud eu gorau," meddai.
"Ond bydde fe yn neis os bydde mwy o feddwl am bethe ysbrydol - yn enwedig yn y cyfnod clo cyntaf lle roedd braw ymhobman.
"Bydde fe yn dda i gael rhywfaint mwy o fewnbwn efallai i'r sefyllfa er mwyn annog pobl i feddwl am bethe, oherwydd mae'n amlwg bod mwy yn gwrando ar gyfarfodydd ar y we, a phobl yn troi at Dduw mewn gweddi, fel sy'n digwydd yn aml mewn argyfwng."
Dywedodd llefarydd ar ran Cytûn - Eglwysi ynghyd yng Nghymru eu bod yn cael cyfarfodydd cyson gyda Llywodraeth Cymru i drafod materion.
'Erioed wedi gweld cyfnod fel hwn'
Mae'r Parchedig Ddoctor John Gillibrand, ficer Pontarddulais a Phenlle'r-gaer hefyd yn edrych i'r dyfodol.
Mae'n rhagweld newidiadau yn y dull o addoli, gyda dulliau newydd sydd wedi eu harbrofi yn y cyfnod clo yn cael eu gweithredu ochr yn ochr â dulliau mwy traddodiadol.
"Rwy'n edrych mla'n at ailagor y drysau pan fydd hi yn saff i neud," meddai.
"Yn bennaf, mae rhaid diogelu pobl sy'n dod i'r eglwys, a'r gymuned gyfan. Ond rwy'n edrych mla'n i addoli wyneb yn wyneb."
Ychwanegodd: "Yn ystod y cyfnod clo ry'n ni wedi arbrofi gydag addoliad ar-lein. Pan ddaw y cyfnod clo byr i ben rwy'n gweld ni yn cael y ddau beth ochr yn ochr.
"Addoli wyneb yn wyneb, fel sy wedi digwydd dros y canrifoedd, ond eto y cyfle sy' wedi dod nawr ar-lein.
"Dwi ddim yn credu y byddwn ni mynd nôl at yr hen normal. Bydd y ddau beth yn mynd gyda'i gilydd a chyfle i'r eglwys siarad â chymuned ehangach.
"Mae'n hanfodol i rannu gobaith gyda'n gilydd ar-lein ond hefyd pan ddaw cyfle wyneb yn wyneb."
Mae'r Parchedig Gillibrand yn disgrifio hwn fel amser anodd iawn i eglwysi a'r weinidogaeth.
"Rwy 'di bod yn offeiriad ers 30 mlynedd a dwi erioed 'di gweld cyfnod fel hwn. Rwy'n hiraethu am weld pobl sydd yn fy ngofal i wyneb yn wyneb, a'n hiraethu am addoliad gyda'n gilydd.
"Ond eto i gyd mae wedi dysgu ni be sydd yn hanfodol ac yng nghanol hyn i gyd ein bod ni yn gafael yn ein gobaith.
"Mae wedi bod yn gyfnod caled iawn i fi, ac i lawer ohonon ni yn yr eglwysi ac yn y weinidogaeth."
'Pawb wedi aberthu'
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gofyn i bawb aberthu yn ystod y cyfnod clo yma o bythefnos".
"Gwyddom fod hyn yn anodd, ond mae gennym gyfle byr iawn i arafu lledaeniad y feirws. Yr ydym yn gwneud hyn i achub bywydau.
"Mae ysbrydolrwydd a ffydd yn bwysig iawn. Mae arweinwyr ffydd wedi gweithio'n eithriadol o galed yn ystod y pandemig i gefnogi eu cynulleidfaoedd a pharhau i arwain gwasanaethau hyd yn oed pan na fu addoli corfforol yn bosibl.
"Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, gellir darlledu gwasanaethau a gall seremonïau priodas, seremonïau partneriaeth sifil ac angladdau barhau i ddigwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd28 Medi 2020