Cyfres deledu'n hwb i dwristiaeth ar adeg dyngedfennol

  • Cyhoeddwyd
castell
Disgrifiad o’r llun,

Mae tu fewn i Gastell Gwrych wedi'i addasu i gynnwys rhai o elfennau arferol y gyfres deledu

Gallai'r penderfyniad i ffilmio'r gyfres deledu boblogaidd, I'm A Celebrity… yng ngogledd Cymru eleni fod yn hwb mawr i sector twristiaeth y rhanbarth ar adeg dyngedfennol, yn ôl arbenigwr yn y diwydiant.

Bu'n rhaid symud y gyfres o jyngl yn Awstralia i Gastell Gwrych, ger Abergele oherwydd cyfyngiadau'r pandemig byd-eang.

O nos Sul ymlaen bydd miliynau o wylwyr teledu'n dilyn hynt a heriau'r enwogion, sy'n cynnwys yr athletwr Mo Farah a'r cyflwynwyr Vernon Kay a Victoria Derbyshire.

Ym marn arweinydd rhaglen Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, "does dim amheuaeth" y gallai busnesau twristiaeth y rhanbarth elwa o'r fath sylw.

"Rydym wedi gweld rhai ardaloedd yn ailadeiladu eu diwydiant twristiaeth cyfan o ganlyniad i gael eu cynnwys ar y teledu neu mewn ffilm," meddai Dr Marcus Hansen.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Glyndwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y sector "gynnig twristiaeth gwych" i elwa o'r sylw i'r rhanbarth, medd Dr Marcus Hansen

"Mae gan Seland Newydd ddiwydiant twristiaeth gwerth biliynau o ddoleri o ganlyniad i Lord of the Rings.

"Mae The Walking Dead mewn gwirionedd yn diolch i Visit Georgia yn ei gredydau am y cymorth y mae'r awdurdodau twristiaeth yn ei roi i'r gyfres.

"Darlledir [I'm a Celebrity...] i gynulleidfa yn y DU yn unig, ond mae'n gyson yn un o raglenni mwyaf poblogaidd ITV a bydd yr hysbysebu am ddim y bydd yn ei roi i ogledd Cymru yn amhrisiadwy."

'Gwir obaith mewn blwyddyn anodd'

Bydd yn haws i wylwyr sydd ag awydd "ail-greu'r emosiynau a'r profiadau y maent wedi'u cael wrth wylio'r gyfres" ymweld ag Eryri yn y dyfodol nag Awstralia, medd Dr Hansen.

Ac mae amseriad y gyfres, "yn union fel y mae miliynau o bobl yn mynd i ddod allan o'r clo", yn hwb mawr i'r diwydiant ymwelwyr, mae'n dadlau.

"Yn draddodiadol, mae pobl yn gwneud penderfyniadau gwyliau ym mis Ionawr, ac eleni bydd popeth y maent wedi'i weld yn ystod I'm a Celebrity... yn dal yn ffres yn eu meddyliau.

"Mae rhaglen fel hon yn rhoi gwir obaith i weithredwyr twristiaeth ledled gogledd Cymru - ac mae hynny'n bwysig iawn yn yr hyn a fu'n flwyddyn anodd i'r diwydiant."