Argymhellion gwerth £800m i leihau tagfeydd ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres o argymhellion i leddfu tagfeydd traffig ar yr M4 yn cynnwys buddsoddi £800m ar rwydwaith o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Sefydlwyd comisiwn annibynnol ar ôl i weinidogion Cymru ddileu cynlluniau i adeiladu ffordd liniaru gwerth £1.6bn o amgylch Casnewydd.
Er mwyn annog rheiny sy'n teithio i'r gwaith yn eu ceir, awgrymodd adroddiad terfynol y comisiwn y dylid ystyried "toll parcio yn y gweithle" a sicrhau bod yr holl opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yn "fforddiadwy i bawb".
Cafodd y panel gyfarwyddyd i beidio ag ystyried cynlluniau ar gyfer traffordd arall.
Argymhellodd Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru y dylid treblu nifer y gorsafoedd trenau rhwng Caerdydd ac afon Hafren, o dair i naw.
Dylid sefydlu rhwydweithiau llwybrau bysiau a beiciau yng Nghasnewydd hefyd, meddai.
Pe bai'r holl argymhellion yn cael eu gweithredu, awgrymodd y byddai dros 90% o bobl yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn byw "o fewn milltir i orsaf drenau neu goridor bws cyflym".
Argymhellodd yr adroddiad y dylid integreiddio a chydgysylltu rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau yn well, gyda thocynnau integredig ar draws yr holl wasanaethau. Dylai gwasanaethau redeg bob 15 munud a dylai gorsafoedd fod yn haws i'w cyrraedd ar droed ac i feicwyr.
Ar hyn o bryd, mae teithiau cyffredin yr M4 yn cael eu gwasanaethu'n wael gan ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus eraill, meddai, gyda Chasnewydd yn cael ei gwasanaethu'n arbennig o wael ar y rheilffyrdd.
Mae'n dweud y dylid sefydlu "canolfannau swyddfa hyblyg" mewn trefi a dinasoedd mawr, er mwyn cefnogi gweithio 'o bell'.
Er nad oes modd gwneud y mwyafrif o'r teithiau ar yr M4 ar droed neu feic oherwydd eu pellter, mae'r adroddiad yn nodi bod gan deithio llesol "rôl allweddol" yn yr argymhellion.
Awgrymodd y comisiwn y dylid gwneud cerdded neu feicio yn "ddewis naturiol" ar gyfer y filltir gyntaf a'r olaf o deithiau trafnidiaeth gyhoeddus.
Maent hefyd yn argymell sefydlu "llwybr beicio mawr" i gysylltu Caerdydd a Chasnewydd yn uniongyrchol â beicwyr, gan leoli llwybrau tebyg sy'n bodoli eisoes yn yr Iseldiroedd.
Er bod arferion teithio wedi newid oherwydd Covid-19, dywedodd yr adroddiad nad yw'r newidiadau hynny "yn newid yn sylfaenol" yr angen am fwy o opsiynau trafnidiaeth yn y rhanbarth ac yn honni bod y pandemig yn rhoi "cyfle i baratoi gwelliannau trafnidiaeth sylweddol tra bod y galw'n lleihau".
'Uchelgeisiol ond cyraeddadwy'
Byddai gostyngiad o 20% yn y llif ar yr M4 yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar amseroedd teithio, meddai.
Mae'r comisiwn, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns, yn disgrifio ei argymhellion fel rhai "uchelgeisiol ond cyraeddadwy".
Dywedodd fod ei argymhellion "llwybr carlam" a wnaed mewn adroddiad ym mis Rhagfyr 2019 yn "gyson" â'u hargymhellion terfynol. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno'r mesurau rheoli cyflymder cyfartalog 50mya ger Twneli Brynglas.
Dywedodd yr adroddiad y byddai cost yr argymhellion rhwng £600m ac £800m:
Y rhan fwyaf o'r gost fyddai datblygu'r rhwydwaith rheilffyrdd ar brif reilffordd De Cymru - gyda'r adroddiad yn nodi y byddai hyn yn golygu cost o rhwng £390m a £540m;
Byddai'r datblygiadau ar y lein yn cynnwys gorsafoedd newydd ar Heol Casnewydd yng Nghaerdydd a gorsaf Parkway newydd Caerdydd yn Llaneirwg - mae'r cynlluniau hynny eisoes wedi'u datblygu gan gwmni preifat;
Yng Nghasnewydd, awgrymodd yr adroddiad y dylid creu gorsaf newydd yng Ngorllewin Casnewydd ger Parc Tredegar, gorsaf newydd yn Nwyrain Casnewydd yn ardal Somerton yn ogystal â gorsafoedd yn Llanwern a Magwyr;
Dylai cynllun llogi beiciau, tebyg i gynllun Nextbike yng Nghaerdydd, gael ei sefydlu yng Nghasnewydd hefyd.
Ar adegau prysur, mae rhwng 3,000 a 5,000 o gerbydau yn mynd drwy dwnneli Brynglas bob awr.
Byddai lliniaru tagfeydd ar yr M4 drwy symud cymudwyr a theithwyr ymlaen i drafnidiaeth gyhoeddus o fudd i draffig nwyddau a gwasanaethau sy'n llai abl i newid i fathau eraill o drafnidiaeth, yn ôl yr adroddiad.
Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ddileu cynlluniau i adeiladu ffordd liniaru gwerth £1.6bn y llynedd ar ôl datgan argyfwng hinsawdd, oherwydd ei effaith amgylcheddol yn ogystal â'r effaith ar bwrs y wlad.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, ym mis Hydref nad oedd Llywodraeth y DU wedi diystyru osgoi Llywodraeth Cymru i adeiladu ar y ffordd.
Wrth ymateb i gynnwys yr adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU:
"Daw'r adroddiad hwn ar adeg dyngedfennol mewn cyfnod pan mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd orau i dyfu ein heconomi, cryfhau'r Deyrnas Unedig a'i marchnad fewnol a hyrwyddo creu swyddi newydd i greu cydbwysedd rhwng pob rhan o Gymru a'r DU.
"Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gredu mai ffordd liniaru'r M4 yw'r ateb mwyaf hyfyw o hyd i'r problemau tagfeydd parhaus yng Nghasnewydd ond gofynnwyd i'r Arglwydd Burns beidio ag ystyried ffordd liniaru fel rhan o'i adroddiad.
"Er gwaethaf hyn, mae'r adroddiad i'w groesawu ac yn tynnu sylw at yr angen diamheuol am welliannau yn seilwaith trafnidiaeth de Cymru. Yr angen i wneud gwelliannau ar ran y bobl sy'n defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd yw pam y lansiodd Llywodraeth y DU ei Hadolygiad i Gysylltiadau'r Undeb fis diwethaf. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019