Neges yr Adfent: 'Gobaith yng nghanol pandemig'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr crefyddol wedi tanlinellu pwysigrwydd gobaith ar gychwyn yr Adfent.
'Tywyllwch i oleuni' yw thema ymgyrch yr Eglwys yng Nghymru o ddechrau'r Adfent tan y Nadolig.
I nodi hynny, cafodd cadeirlannau'r wlad eu goleuo nos Sul.
Dywedodd Esgob Bangor eu bod eisiau dangos "bod hi'n bosib inni ymateb yn bositif" i'r pandemig.
Ymhlith gweithgaredd yr eglwys i nodi'r Adfent eleni mae apêl i bobl o bob cefndir gyd-weddïo yn nosweithiol. Mae gweddi wedi cael ei hysgrifennu yn arbennig ar gyfer y cyfnod, ac wedi ei rhannu ar-lein.
Menter arall yw ymdrech i gael pobl i gydganu'r garol Dawel Nos o'u stepen drws ar Noswyl Nadolig.
Yn ôl Esgob Bangor, Andy John, mae "pobl yn teimlo pryder ac yn teimlo'n is" ar hyn o bryd, ac mae'r ymgyrch yn ymateb i hynny.
"Y pwrpas yw i ddangos, reit yng nghanol y pandemig, bod hi'n bosib inni fod yn obeithiol," meddai.
"Os 'dan ni'n symud o'r tywyllwch i oleuni, 'dan ni'n nodi'r ffaith ei bod hi'n bosib inni ymateb yn bositif."
Tu hwnt i furiau'r addoldy, mae'r eglwys wedi bod yn tynnu sylw at yr Adfent mewn ysgolion drwy brosiect Taith Adfent. Y nod yw cyflwyno gwerthoedd pwysig law yn llaw â stori'r Geni.
Mae Ysgol Santes Fair yn Nercwys, Sir y Fflint, wedi cael llyfr i ddarllen i'r plant - ac mae'r athrawes Heddwen Gunes wedi bod yn gwisgo siwt asyn i'w adrodd.
"Does 'na'm lot o 'sgwennu yn y stori - does 'na'm lot o text. Ond mae'r plant yn gallu rhoi eu rhan nhw i fewn i'r stori. Ac maen nhw wedi dysgu lot o'r llyfr dwi'n meddwl, am obaith ac am bobl sydd efo llai na ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2020