Nigel Owens yn paratoi ar gyfer gêm brawf rhif 100

  • Cyhoeddwyd
Nigel Owens yn dyfarnu yn y gem rhwng Lloegr a Georgia yn Nhachwedd 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Owens yn dyfarnu yn y gêm rhwng Lloegr a Georgia yn Nhachwedd 2020

Nigel Owens fydd y dyfarnwr cyntaf erioed i ddyfarnu 100 o gemau prawf pan fydd yn cymryd i'r cae yn y gêm rhwng Ffrainc a'r Eidal yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref ddydd Sadwrn.

Fe fydd yr achlysur yn garreg filltir arall o nod yng ngyrfa lwyddiannus Owens wnaeth ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd yn 2015, ynghyd â nifer o gemau terfynol Ewropeaidd.

Mae'n bosib hefyd mae'r gêm ym Mharis heno fydd yr olaf yn ei yrfa ryngwladol, gyda'r dyfarnwr 49 oed eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn fwriad ganddo ymddeol diwedd y tymor.

"Dwi byth wedi dyfarnu i gael cyrraedd rhifau arbennig yn y gêm," meddai wrth raglen Post Cyntaf y BBC.

"Ond pan y chi yn dod at ddiwedd eich gyrfa ac ar ôl y Chwe Gwlad y llynedd o ni wedi dyfarnu 98 gêm ac mae dwy gêm arall a dwi wedi cyrraedd y 100," meddai.

"Ac maen rhywbeth chi'n ymwybodol ohono a rhywbeth fydda chi'n hoffi ei wneud.

"Mae yn deimlad arbennig a rhywbeth fyddai'n edrych yn ôl arno yn browd iawn yn y blynyddoedd i ddod."

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Owens

Fe wnaeth Owens ddyfarnu ei gêm brawf gyntaf yn 2003 yn y gêm rhwng Portiwgal a Georgia.

"Falle taw hon fydd y gêm olaf mae'n dibynnu.

"Fe hoffwn i orffen dyfarnu yn y Chwe Gwlad eleni - lle dechreuodd o gyd blynyddoedd mawr yn ôl ar lefel y Chwe Gwald.

"Ond bydd y penderfyniad yna yn cael ei wneud gan bwy fydd yn rhedeg y dyfarnwyr yn Rygbi'r Byd - felly mae hwnna mas o'n ddwylo i.

"Rwy'n gobeithio mai hynny fydd yn digwydd ond bydd rhaid aros i weld."

Pynciau cysylltiedig