Gwaharddiad 21 diwrnod dros ddigwyddiad 'ymosodol'

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy

Mae Aelod o Senedd Cymru'n wynebu colli 21 diwrnod o gyflog wedi i'r pwyllgor safonau ddyfarnu bod ei ymddygiad at Aelod arall "yn ymosodol, yn gorfforol ac yn eiriol".

Clywodd y pwyllgor fod AS Llafur Pontypridd, Mick Antoniw "yn ofidus ac wedi ei ysgwyd" wedi i Neil McEvoy ddadlau yn ei erbyn yn y Senedd ym Mai 2019.

Dywedodd tyst bod hi'n "ymddangos fel petai Neil am bwnio Mick".

Cyhuddodd Mr McEvoy y pwyllgor o fod yn "Dorïaid Coch di-asgwrn cefn".

'Arddangos dirmyg'

Dyfarnodd y pwyllgor fod McEvoy wedi torri'r cod ymddygiad "yn ddifrifol" ac arddangos "dirmyg" at gydweithwyr.

Galwodd am wahardd yr AS Canol De Cymru am 21 diwrnod - sef y gwaharddiad hiraf gan y Senedd erioed am ymddygiad gwael, petai'r argymhelliad yn cael ei gadarnhau.

Mae'n dilyn ymchwiliad gan y cyn-gomisiynydd safonau, Syr Roderick Evans, fisoedd cyn iddo yntau ymddiswyddo dros recordiadau cudd ohono gan Mr McEvoy.

Cafodd chwe aelod staff eu cyfweld ynghylch y digwyddiad gyda Mr Antoniw.

"Mae disgrifiadau o ymddygiad [Mr McEvoy] yn datgelu lefel o ymosodedd na fyddai'n dderbyniol mewn tŷ tafarn, heb sôn am o fewn y Cynulliad Cenedlaethol [fel yr oedd ar y pryd] o flaen aelodau staff ac aelodau'r cyhoedd," ysgrifennodd Syr Roderick.

Apeliodd Mr McEvoy at farnwr yr Uchel Lys yn erbyn dyfarniad y pwyllgor - a ddaeth cyn ymddiswyddiad Syr Roderick. Gwrthododd Syr John Griffith Williams yr apêl yna ym mis Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gwblhaodd Syr Roderick Evans yr ymchwiliad fisoedd cyn ymddiswyddo y llynedd

Cwynodd Mr Antoniw i Syr Roderick fod Mr McEvoy wedi dod ato gydag "osgo ymosodol a'i lais wedi codi" tu allan i siambr y Senedd, "gan fy sarhau a dweud rhywbeth ynghylch sut feiddiwn i ei alw'n fwli".

Awgrymodd Mr Antoniw fod hynny'n ganlyniad iddo alw Mr McEvoy'n "fwli euogfarnedig" yn y siambr wythnos ynghynt.

Dywedodd Mr Antoniw wrtho "sawl tro" nad oedd am siarad ag e, ond fe wnaeth Mr McEvoy "barhau i refru arna'i", ei ddilyn a "atal fy ffordd yn gorfforol".

Ychwanegodd yn y gŵyn: "Dywedais wrtho am beidio siarad â mi neu fuaswn yn ei gyfeirio at y Comisiynydd Safonau."

Honnodd fod Mr McEvoy wedi dweud: "Gwna hynny, te. Mi wn amdanat ti, y Tori coch, bwli wyt ti... Llwfrgi wyt ti o fewn dy grŵp mawr. Mi ga'i ti."

Dywedodd tyst oedd tu allan i'r siambr, yn ardal y Cwrt: "Petaswn i wedi gweld y fath ymddygiad tu allan i'r Senedd, mewn tafarndy er enghraifft, byddwn i wedi disgwyl trais gan Neil McEvoy."

Clywodd y pwyllgor bod Mr McEvoy'n cerdded yn ôl ac yn mlaen rhwng ei sedd ei hun yn y siambr a sedd Mr Anontiw, wrth i staff baratoi ar gyfer cyfarfod llawn.

Roedd Mr McEvoy, yn ôl y tyst "yn ymddangos fel petai'n cael trafferth peidio â chynhyrfu".

Ychwanegodd: "Ni wyddwn beth oedd am ei wneud nesaf. Roedd yn ymddangos i mi y gallai arwain at rywbeth gwaeth."

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y pwyllgor bod modd i aelodau'r cyhoedd weld rhywfaint o'r hyn ddigwyddodd

Dywedodd unigolyn arall oedd yn y siambr eu bod "rhwng dau feddwl ynghylch gofyn i swyddog diogelwch ddod i'r siambr, oherwydd roedd yn edrych y byddai pethau'n gwaethygu.

"Arhosodd Mick yn ddigyffro, ond gallwn weld ei fod yn ofidus ac wedi ei ysgwyd gan yr holl beth."

Dywedodd aelod staff fod "Neil allan o'i sedd yn pwyntio at wyneb Mick ac yn ymddangos fel nad oedd ots ble roedd e na phwy oedd o'i gwmpas".

Dywedodd aelod staff arall: "Roedd yn edrych fel bod Neil am bwnio Mick. Dydw i erioed wedi gweld neb mor grac."

"Roedd Neil mor flin doedd dim ots ei fod yn y siambr, bod yr oriel gyhoeddus ar agor a bod ein prif weithredwr hefyd yn yr ystafell."

'Digon o dystiolaeth heb edrych ar luniau'

Gwrthododd Mr McEvoy fersiwn Mr Antoniw o'r hyn ddigwyddod, a honiadau rhai o'r tystion ei fod wedi codi "ddwywaith neu dair" yn y Senedd.

Doedd dim lluniau camerau CCTV o'r digwyddiad yn y siambr, ond roedd yna rhai o'r tu allan.

Dywedodd Mr McEvoy wrth y pwyllgor ei fod yn cwestiynu rhai o'r datganiadau a wnaed gan dystion a'r gŵyn ei hun.

Penderfynodd y pwyllgor i beidio gwylio'r lluniau am resymau gwarchod data, gan ychwanegu fod y comisiynydd wedi canfod digon o dystiolaeth i gefnogi'r gŵyn.

Roedd Mr McEvoy, meddai'r pwyllgor, wedi derbyn wrth roi tystiolaeth ei fod "wedi colli'i dymer a bod ei ymddygiad at Mick Antoniw MS yn ymosodol".

Rhaid i'r argymhelliad i wahardd Mr McEvoy o'r Senedd am 21 diwrnod gael ei gadarnhau gan Aelodau'r Senedd, mewn cyfarfod ddydd Mercher nesaf.

"Dyw bod yn ymosodol yn gorfforol ac yn eiriol at unigolyn arall ddim yn dderbyniol mewn unrhyw sefyllfa, ond yn arbennig gan rai sydd i fod i arwain trwy esiampl," medd y pwyllgor.

"Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn y gweithle, ac yn achos hwn ni ddigwyddodd hynny."

Mewn ymateb i BBC Cymru, cododd Mr McEvoy gwestiynau am y broses.

Ychwanegodd: "Nid yw'n syndod i mi fod y person Cymreig cyntaf o liw yn cael y gwaharddiad hiraf yn hanes y Senedd am ddweud ambell air plaen i wleidydd Llafur.

"Torïaid Coch di-asgwrn cefn ydyn nhw."

Pynciau cysylltiedig