Annog Mark Drakeford i wneud penderfyniad am Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog wedi cael ei annog gan Aelodau Senedd i wneud penderfyniad ar gyfyngiadau pellach wedi i Mr Drakeford ddweud "na ellid oedi llawer" cyn gwneud hynny.
Wrth siarad mewn dadl yn y Senedd, dywedodd Mr Drakeford ei fod "wedi dweud wythnos diwethaf os na fyddai pethau'n gwella yna mae symud i gyfyngiadau lefel pedwar yn anochel".
"Ers hynny mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ac mae'r pwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol wedi dwysáu."
Bu'r prif weinidog mewn cyfarfod gyda Llywodraethau'r DU, Yr Alban a Gogledd Iwerddon brynhawn Mawrth, a bydd y trafodaethau'n ailddechrau ddydd Mercher.
Ond mae'r BBC wedi cael ar ddeall na fydd newidiadau i gyfyngiadau yn Lloegr dros y Nadolig, ac mae gobaith o hyd y bydd y pedair gwlad yn cytuno ar ddull cyffredin o weithredu.
Ym Mae Caerdydd fe wnaeth ASau o sawl plaid fynegi eu cefnogaeth i dynhau rheolau dros y Nadolig.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies: "Ry'n ni mewn man lle mae'n rhaid cydnabod nad yw'r ymyrraeth bresennol yn atal ymlediad y feirws.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ar y camau nesaf i reoli'r feirws oherwydd mae pobl, busnesau a'n gweithwyr rheng flaen angen gwybod beth sy'n digwydd cyn gynted â phosib er mwyn cynllunio ymlaen."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Y cwestiwn sydd ar flaen meddyliau llawer yw a fedrwn ni fforddio aros tan 28 Rhagfyr pan ddaw'r system lefelau newydd i rym.
"Mae cymaint o rannau o Gymru wedi croesi'r trothwy ar gyfer y lefel uchaf posib... pam ddim cyflwyno'r lefel yna yn gynt?
"Does neb am weld mwy o gyfyngiadau oherwydd yr holl niwed sydd ynghlwm gyda hynny, ond mae rhai amgylchiadau lle mae hynny yn anorfod."
Fe wnaeth ASau Llafur hefyd roi cefnogaeth i'r prif weinidog gymryd "pob cam sy'n angenrheidiol".
Dywedodd yr AS Llafur Dawn Bowden: "Ar hyn o bryd dydw i'n sicr ddim yma i fod yn boblogaidd." Ychwanegodd wrth Mr Drakeford i "gymryd pob cam angenrheidiol i helpu ein gweithwyr rheng flaen i ymdopi gyda'r misoedd i ddod".
Dywedodd AS Torfaen, Lynne Neagle, bod angen mwy o gyfyngiadau ar unwaith, gan ychwanegu: "O weld y cynnydd brawychus mewn achosion a welsom, dydw i ddim yn credu y gallwn ni aros tan ar ôl Nadolig i weithredu'n bellach i atal ymlediad y feirws."
Dywedodd yr AS Ceidwadol David Melding y byddai'n cefnogi'r llywodraeth os fydden nhw'n penderfynu bod "angen cyfnod clo byr arall yn ne Cymru cyn y Nadolig".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020