Y flwyddyn mewn rhifau

  • Cyhoeddwyd
Y ffigwr 2020

Mewn blwyddyn pan fu ffigurau yn rhan mor bwysig o'n bywydau bob dydd, dyma stori Cymru 2020 mewn ystadegau.

Chwe Gwlad hir iawn

Ffynhonnell y llun, Ramsey Cardy

Ar ôl gohirio gêm olaf Cymru yn y Chwe Gwlad ar 14 Mawrth oherwydd Covid-19, roedd yn rhaid disgwyl tan ddiwrnod olaf Hydref i gwblhau'r bencampwriaeth.

Dechreuodd y gystadleuaeth ar 1 Chwefror - cyn i'r achos gyntaf o coronafeirws gael ei gofnodi yng Nghymru.

Ar y map

Mae'r ystadegydd ifanc Lloyd Warburton wedi denu sylw ers iddo ddechrau cyhoeddi ystadegau dyddiol Covid-19 yng Nghymru.

Mae miloedd wedi dechrau ei ddilyn ar Twitterers iddo greu ei fap a thabl cyntaf ym mis Mawrth, tra roedd yn astudio TGAU.

Ac mae cymharu'r ffigurau yn y graffeg cyntaf hwnnw ac un o'i rai diweddaraf yn dweud cyfrolau:

Ffynhonnell y llun, Lloyd Warburton
Ffynhonnell y llun, Lloyd Warburton

O Steddfod i E-isteddfod

Sgrin yn dangos holl gyfranwyr Pont y Glaw
Eisteddfod Genedlaethol
Pabell rhithiol Maes E

  • 400cyfrannwr i'r darn cerddorol Pont y Glaw.

  • 100,000o wylwyr i'r sesiwn gwerin Pedair.

  • 450sesiwn gwahanol yn ystod wythnos yr ŵyl.

Ffynhonnell: Yr Eisteddfod Genedlaethol

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ei chanslo, fe gafwyd gŵyl wahanol iawn i'r arfer - ar y we ac ar Radio Cymru a Cymru Fyw.

Yr Wyddfa

Ffynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri

Bu'n gyfnod anodd i'r parciau cenedlaethol wrth geisio rheoli nifer yr ymwelwyr oedd yn heidio i rai o ardaloedd harddaf Cymru ar gychwyn ac ar ddiwedd y cyfnod clo cyntaf.

Tra bod y ffigurau yn Eryri yn uwch na'r cyfartaledd blynyddol arferol ym mis Medi, mae'r ystadegau o fis Ionawr yn dangos effaith y clo mawr pan oedd y mynyddoedd ar gau am gyfnodau.

Y teli bocs yn elwa

S4C
Effaith Covid ar S4C

  • 180,000wedi cofrestru gyda S4C Clic. Roedd llai na 1,000 ar ddiwedd 2019.

  • 5mis o saib yn ffilmio Rownd a Rownd oherwydd y cyfyngiadau.

  • 2bennod yr wythnos o Pobol y Cwm yn lle 4 - tan Ionawr 2021.

Ffynhonnell: S4C

Blwyddyn y 'bocs set' oedd 2020.

Er bod S4C wedi gorfod gohirio ac addasu nifer o gyfresi oherwydd y cyfyngiadau, mae ffigurau Clic yn dangos bod y darlledwr wedi elwa gyda chymaint o bobl yn aros gartref.

Banciau bwyd

Niferoedd o becynnau gafodd eu rhoi gan fanciau bwyd. . Niferoedd o barseli bwyd gafodd eu rhoi allan mewn banciau bwyd rhwng 1 Ebrill a 30 Medi eleni a llynedd.
Yn 2019 rhoddwyd 58272 pecyn bwyd ac yn 2020 rhoddwyd  70393. Ffigurau 1 Ebrill-30 Medi.

Effaith yr argyfwng ar yr economi oedd un o straeon mawr 2020, a bwyd am ddim i blant yn destun trafod - ac yn bwnc llosg gwleidyddol yn Lloegr.

Mae'r graffiau uchod yn dangos rhan o'r sefyllfa yng Nghymru, ond rhan o'r stori sydd i'w weld mewn ystadegau.

Rhestrau aros

Gyda'r system iechyd o dan straen yn sgil Covid-19 yn 2020, mae'r effaith ar weddill y gwasanaethau yn glir - ac yn ffigurau fydd yn parhau i greu trafferthion yn 2021.

Hefyd o ddiddordeb: