Cyfeiriadau achosion cam-drin plant wedi codi bron 80%
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y cyfeiriadau gan yr NSPCC am achosion o gam-drin plant wedi cynyddu 79% ers pan gafodd y cyfnod clo cyntaf ei weithredu, yn ôl data'r elusen.
Dywed yr elusen fod galwadau i'w llinell gymorth wedi arwain at 923 o gyfeiriadau at sefydliadau fel yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol rhwng Ebrill a Tachwedd 2020.
Roedd bron i draean o'r cyfeiriadau hynny'n ymwneud ag esgeulustod.
Mae'r NSPCC bellach yn rhybuddio y gallai effaith Covid-19 roi mwy o blant mewn perygl dros y Nadolig.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ei fod yn fesur arall o sut y cafodd y pandemig effaith "go iawn ac arwyddocaol" ar y plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed.
Galwodd un person o Gymru elusen NSPCC Cymru gyda phryderon bod mab eu cymydog yn cael ei esgeuluso.
Fe ddywedon nhw eu bod yn gallu clywed y tad yn sgrechian ac yn gweiddi ar ei fab tair oed.
"Arweiniodd hyn at y bachgen yn crio yn gyson. Nid oes gan y rhieni unrhyw bryder am eu plentyn, a rydw i wedi sylwi bod y bachgen yn cael ei adael yn yr ardd yn rheolaidd am oriau heb unrhyw oruchwyliaeth.
"Mae yna lwyth o fagiau bin hefyd wedi'u rhwygo yn yr ardd gefn; dim ond oherwydd yr arogl oedd yn dod ohonynt y sylwais ar hyn. Mae'n fy ngwneud yn drist ac yn bryderus i weld y bachgen yn cael ei drin fel hyn."
Profiad un fam
Galwodd un fam o Gymru'r elusen am ei bod yn poeni am ei mab ei hun, oedd yn byw gyda'i dad.
"Nid yw'r tad yn gallu cael sgwrs iawn am unrhyw beth. Mae'r tŷ bob amser yn llanast gyda llawer o sbwriel ym mhob man ac fel arfer mae fy mab yn cael ei adael i ofalu amdano'i hun.
"Rwy'n poeni am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar ei les emosiynol. Ni fedra i gadw'n dawel am hyn bellach - mae'n fy mhoeni'n fawr. Beth ddylwn ei wneud?"
Ar gyfartaledd roedd na 115 o gyfeiriadau o alwadau llinell gymorth yr elusen bob mis rhwng Ebrill a Thachwedd, o'i gymharu â'r cyfartaledd o 64 cyn y cyfnod clo mawr.
Mae dadansoddiad yr NSPCC o'r data yn dangos bod lefel y pryder ynghylch cam-drin emosiynol, esgeulustod a cham-drin corfforol yn parhau i fod ymhell uwchlaw'r cyfartaledd cyn-bandemig ledled y DU.
Dywedodd Kamaljit Thandi, pennaeth llinell gymorth yr NSPCC, fod y ffigurau'n tynnu sylw at y cynnydd yn nifer yr oedolion sydd â phryderon am les plant.
"Nid yw'n gyfrinach bod y Nadolig yma yn mynd i fod yn un gwahanol iawn ac i filoedd o blant, bydd bod yn sownd adref dros y gwyliau yn bryder dychrynllyd."
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru y dylai pobl ymddiried yn eu greddf a pheidio ag oedi cyn siarad er mwyn amddiffyn plant.
Ychwanegodd Sally Holland: "Yn ystod blwyddyn lle mae llawer wedi treulio cyfnodau hir yn methu â chymdeithasu gyda ffrindiau a methu mynychu eu meithrinfa, ysgol neu grŵp ieuenctid, bydd rhai plant wedi treulio mwy o amser mewn cartref lle nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel.
"Gyda chyfraddau heintiau mor uchel yn ein cymunedau a dim amserlen glir ar gyfer dychwelyd i fywyd normal, mae hyd yn oed yn bwysicach nag arfer bod pobl yn cadw llygad am arwyddion o gam-drin plant ac yn cysylltu gyda'u tîm amddiffyn plant lleol, neu Childline, os ydyn nhw'n poeni. "
Galw am anogaeth
Mae NSPCC Cymru bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog y cyhoedd i fod yn fwy gwyliadwrus, yn enwedig yn ystod gwyliau'r Nadolig a tra bod ysgolion ar gau, er mwyn sicrhau bod plant a theuluoedd yn "cael yr help sydd ei angen arnyn nhw".
Dywed yr elusen hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn cyllid a gyfer y tymor hir i gynorthwyo plant i wella o brofiadau niweidiol a thrawmatig yn ystod y cyfnod clo.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid diogelu i wneud popeth posib i atal cam-drin plant, ac i gefnogi plant sydd wedi ei ddioddef.
"Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol yn nodi camau clir i atal cam-drin plant yn rhywiol, i amddiffyn plant sydd mewn perygl ac i gefnogi plant sy'n cael eu cam-drin.
"Fe'i cyhoeddwyd yn 2019 ac mae'r camau i'w cwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2021. Mae'r cynllun presennol yn nodi'r camau nesaf fydd wedyn yn cael eu cymryd, gan gynnwys ystyried tystiolaeth o adolygiad gweithredu, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, i benderfynu ar y camau nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020