Plant bregus 'yn cael eu pasio o wasanaeth i wasanaeth'

  • Cyhoeddwyd
Merch mewn gofidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen newidiadau sylweddol o ran gofalu am iechyd meddwl a lles plant mwyaf bregus Cymru yn ôl adroddiad diweddaraf Comisiynydd Plant Cymru, sy'n dweud fod rhai'n cael eu pasio o wasanaeth i wasanaeth.

Mae'r adroddiad yn awgrymu mai'r rheswm dros hynny yw anghytuno ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r gofal, gan danlinellu pwysigrwydd cydlynu'r cymorth yn effeithiol yn enwedig wrth gynllunio adferiad y wlad wedi'r pandemig Covid-19.

Dywedodd y Comisiynydd Plant, yr Athro Sally Holland fod plant "yn aros yn rhy hir" am gymorth ac "yn aml yn mynd ar goll mewn biwrocratiaeth ddryslyd, gan alw am system lle "does dim drws anghywir" i blant a'u teuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod fod angen gwelliannau.

'Nid yn amhosib'

Ychwanegodd yr Athro Holland: "Mae sawl llygedyn o obaith sy'n cadarnhau i mi nad yw'r hyn rwy'n galw amdano'n amhosib.

"Rwy' wedi gweld y drefn 'dim drws anghywir' mewn rhai ardaloedd ble gall plant gyrraedd y system o unrhyw fan cychwyn. Mae'r gweithwyr proffesiynol yn dod at ei gilydd i ddarganfod beth allan nhw gynnig, a darparu gofal hyblyg mewn ymateb i anghenion unigol."

Ychwanegodd fod angen gweithredu cynlluniau tebyg "ymhobman yn gyflym," yn lle esiamplau o arfer da yma ac acw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sally Holland fod manteision i systemau cymorth 'un pwynt mynediad'

'Does dim llwybr syml'

Cafodd 'Jane' - nid ei henw cywir - brofiad o fethu â chael cymorth i'w mab 10 oed wrth orfod delio â sawl adran dros gyfnod o dair blynedd.

Cafodd ei gyfeirio gan feddyg teulu at dîm iechyd meddwl sylfaenol ym Mai 2017, ond cafodd ei dynnu oddi ar restr aros y tîm hwnnw wedi diagnosis posib o anhwylder y sbectrwm awtistiaeth (ASD).

"Chawsom ni ddim gwybod am y rhan yna o'r broses," meddai Jane, cyn ychwanegu i'w mab gael ei gyfeirio wedyn at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

"Cafodd ei weld maes o law unwaith ym mis Awst 2018, gan ymgynghorydd â gallu cyfyngedig i gyfathrebu a'n mab oherwydd ei ASD, a'i ryddhau wedi'r unig apwyntiad hwnnw gyda'r geiriau 'mae e'n teimlo yn isel gan bod ASD arno, mae'n gyffredin iawn'."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Cafodd y bachgen ei gyfeirio eto at y tîm gwreiddiol gan feddyg plant, cyn cael ei wrthod am na chafodd y cais ei gyflwyno gan feddyg teulu.

"Roedd fy mab yn dechrau yn yr ysgol uwchradd ac yn stryglo. Mae'n frawychus pan mae plentyn 11 oed yn dweud ei fod eisiau lladd ei hun ac yn gofyn i chi ei helpu... dydw i erioed wedi teimlo mor ddiymadferth fel rhiant.

"Does dim llwybr syml... dydach chi ddim yn gwybod ble rydych chi yn y system."

'Y cymorth cywir, y tro cyntaf'

Dywed yr adroddiad mai gwasanaeth CAMHS arbenigol yng Ngwent, SPACE-Wellbeing, yw'r enghraifft orau yng Nghymru o system 'dim drws anghywir' wrth ymateb i bryderon am les emosiynol, iechyd meddwl a thrafferthion ymddygiad plant a phobl ifanc.

Mewn rhanbarth sy'n cynnwys pump awdurdod lleol, mae panelau'n cynnwys swyddogion proffesiynol o sawl maes gan gyfarfod bob wythnos i drafod achosion cymhleth sydd newydd eu cyfeirio gan feddygon, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, rhieni a pherthnasau.

Mae'r trafodaethau'n golygu fod modd cynnig cymorth sydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer pob plentyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y panel cymorth cynnar fod system un pwynt mynediad "wedi ei datblygu i sicrhau fod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael y cymorth cywir y tro cyntaf, ar yr adeg gywir."

Cyn sefydlu'r panelau, meddai, roedd teuluoedd "yn ymlafnio i ffeindio'u ffordd drwy systemau dryslyd a thameidiog" gan gael eu "bownsio, yn aml, rhwng gwasanaethau."

Ychwanegodd fod cydweithio agosach yn helpu gweithwyr proffesiynol mewn gwahanol feysydd i ddeall gwaith ei gilydd yn well.

'Gwelliannau eto i'w gwneud'

Mae'r adroddiad yn rhestru argymhellion ar gyfer holl Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol Cymru, sy'n cydlynu gwasanaethau iechyd a gofal ardaloedd penodol, a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cryfhau atebolrwydd a sicrhau cyllid a chefnogaeth at greu strategaethau hirdymor.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweld cynnydd o ran gwella cefnogaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng nghyd-destun galw cynyddol am wasanaethau, ond yn cydnabod fod gwelliannau eto i'w gwneud.

"Rydym yn glir taw'r unig ffordd gynaliadwy o ymateb i'r galw cynyddol a natur aml-haenog cefnogaeth iechyd meddwl yw sicrhau fod cefnogaeth dda ar gael i bawb, yn ogystal â mynediad da at wasanaethau arbenigol."