Carcharu dau am geisio llofruddio ger siop yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Keiron Hassan and Kamal LegallFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Delweddau camera cylch cyfyng o Keiron Hassan a Kamal Legall

Mae dau gefnder wedi eu carcharu am 24 o flynyddoedd ar ôl ceisio llofruddio dyn y tu allan i siop yng nghanol y dydd yn ardal Tredelerch, Caerdydd.

Fe wnaeth Keiron Hassan a Kamal Legall saethu Taylor Patterson ac yna ymosod arno gyda chyllell machete.

Llwyddodd llawfeddygon i achub Mr Patterson, 22 oed, gafodd anafiadau i'w wddf a'i goes.

Clywodd y llys fod y digwyddiad y tu allan i siop brysur yn un oedd wedi ei drefnu fel ymosodiad gan aelodau o gang.

Dywedodd y barnwr wrth Hassan, 32 oed, a Legall, 26 oed, y ddau o Gaerdydd, y bydd yn rhaid iddynt dreulio o leiaf traean o'u dedfryd o 24 mlynedd yn y carchar.

Yn ôl y barnwr Richard Twomlow, roedd hwn yn ymosodiad gyda'r "bwriad o lofruddio ac wedi ei drefnu yn ofalus".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad yng ngolau dydd y tu allan i siop yn ardal Tredelerch, Caerdydd

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tystiolaeth DNA ei ddarganfod ar y gwn gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad

Ychwanegodd er nad oedd yn glir am y rhesymau tu ôl i'r ymosodiad, eu bod wedi mynd i drafferth i gael eu harfau ac i deithio ar draws y ddinas i'w nôl nhw.

Fis diwethaf yn Llys y Goron Casnewydd fe gafwyd y ddau ddyn hefyd yn euog o fod â gwn wedi ei fyrhau yn eu meddiant.

Dywedodd y barnwr ei fod yn rhoi dedfryd o bedair blynedd am y drosedd honno, ond i gydredeg gyda'r ddedfryd am geisio llofruddio.

Pynciau cysylltiedig