Gething: Rhaglen frechu'n 'megis cychwyn' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Megis "ar gychwyn" y mae'r rhaglen frechu rhag Covid yng Nghymru ac mae'r cyfraddau brechu ar gynnydd, medd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Mae rhai gwleidyddion wedi mynegi pryder dros gyflymder gweithredu'r rhaglen frechu yng Nghymru.
Yn ôl ffigyrau cychwynnol nifer y bobl sydd wedi derbyn y brechiad Pfizer-BioNTech, mae cyfraddau Cymru ychydig yn i nag yng ngweddill y DU.
Dywedodd Mr Gething fod "gwahaniaethau bach rhwng gwledydd" yn debygol.
Data 'dros dro'
"Mae yna gymariaethau, yn naturiol, o ran nifer y brechiadau ym mhedair gwlad y DU," meddai mewn datganiad gweinidogol i Aelodau'r Senedd.
"Tra'n cydnabod bod y data'n awgrymu bod gwledydd eraill ar y blaen o'i gymharu â ni, dylid ystyried y data cenedlaethol sy'n cael ei gyhoeddi yn y cyfnod cynnar iawn yma fel data dros dro, ac yn gipolwg ar weithgaredd sy'n parhau."
Ychwanegodd y bydd yna "oedi" o ran cofnodi data, a bod ffactorau lleol yn cael effaith.
"Er enghraifft, nid oedd canolfan frechu yn [ardal] Caerdydd a'r Fro yn gallu gweithredu am ddeuddydd oherwydd achosion yn gysylltiedig â'r safle," meddai.
Mae dros 35,000 o bobl wedi derbyn y brechlyn Pfizer-BioNTech yng Nghymru hyd yn hyn, gan gynnwys gweithwyr iechyd sy'n gweithio yng Nghymru ond yn byw dros y ffin yn Lloegr.
Cafodd bron i 13,000 o'r brechiadau hyn eu rhoi yn yr wythnos ddiwethaf.
Roedd nifer y brechiadau yng Nghymru hyd at 27 Rhagfyr yn gyfystyr â 1.12% o boblogaeth Cymru.
Mae hynny'n cymharu â 1.4% o'r boblogaeth yn Lloegr, 1.7%, yn Yr Alban a 1.6% yng Ngogledd Iwerddon.
'Dryswch' ers y brechiadau cyntaf
Mynegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bryderon ynghylch y trefniadau yng Nghymru ddydd Iau.
"Dair wythnos yn ôl, cafodd y brechiad Covid-19 cyntaf ei roi yng Nghymru, ac ers hynny, yn anffodus, rydym wedi gweld dryswch a gobaith yn pylu," dywedodd.
"Roedd llawer o bobl dros 80 yng Nghymru'n daer aros am apwyntiad i chwarae eu rhan a chael y brechiad," meddai, "ond fel y gwnaethon ni ddysgu'n gyflym, bydd yn rhaid iddyn nhw aros yn hirach."
Ond mae Vaughan Gethin yn mynnu bod y cyfraddau brechu dyddiol yn "cynyddu ar draws Cymru".
"O edrych ymlaen, mae'r holl fyrddau iechyd yn paratoi ar gyfer ehangu capasiti'n sylweddol o ddechrau Ionawr," meddai.
Ychwanegodd y bydd y brechlyn Oxford-AstraZeneca, a gafodd ei gymeradwyo'r wythnos hon, ar gael yn rhai o feddygfeydd Cymru o ddydd Llun.
"Dyma fegis dechrau'r hyn fydd yn rhaglen dros sawl mis," meddai.
"Tra bo'r brys a'r flaenoriaeth angenrheidiol yn glir i ni oll, rhaid inni hefyd cael rhywfaint o amynedd a gadael i'r GIG wneud yr hyn mae'n ei wneud cystal.
"Y canolbwynt i mi ac i'r GIG yw gweithredu'r rhaglen frechu'n gyflym ond hefyd yn effeithiol, yn ddiogel ac yn deg."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn dilyn cyngor diweddaraf arbenigwyr meddygol ynghylch cyflwyno bwlch o 12 wythnos rhwng dau ddos o'r ddau frechlyn sydd wedi'u cymeradwyo hyd yn hyn.
Mae pedwar prif swyddog meddygol y DU yn cefnogi'r cyngor, sy'n awgrymu canolbwyntio ar roi dos cyntaf i bobl yn y grwpiau risg uchel.
"Bydd yn sicrhau bod mwy o bobl risg uchel yn cael gwarchodaeth brechlyn yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan leihau marwolaethau a dechrau lleihau'r pwysau ar ein GIG" meddai Mr Gething.
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU i gyhoeddi'r dystiolaeth o blaid cynyddu'r cyfnod rhwng dau ddos o'r brechlyn Pfizer-BioNTech.
Mewn llythyr at Mr Gething, dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth bod y "newid dirybudd" yn symudiad "sylweddol" o'r canllawiau blaenorol.
Ychwanegodd bod yna "bryderon gwirioneddol" y gallai bwlch hirach rhwng y ddau ddos "leihau'n effeithlondeb y brechiad yn sylweddol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020