Plaid Diddymu'r Cynulliad yn ail-gofrestru ei henw

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, tattywelshie
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal ym Mai 2021, os na fydd newid dyddiad o achos y pandemig

Mae Plaid Diddymu Cynulliad Cymru wedi llwyddo i ail-gofrestru ei henw'n swyddogol, a hynny cyn etholiad y Senedd sydd i fod i gael ei gynnal ym mis Mai.

Cafodd enw'r blaid ei dynnu oddi ar y rhestr etholiadol ym mis Tachwedd wedi i'r cyfnod cofrestru ddod i ben, a hynny yn dilyn ffrae fewnol gyda'r cyn-arweinydd David Bevan.

Roedd yn rhaid i'r arweinwyr newydd wneud cais i ail-gofrestru'r blaid o'r newydd ar gyfer yr etholiad.

Ond roedd David Bevan hefyd wedi gwneud cais i ddefnyddio'r un enw.

Nawr mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cymeradwyo cais yr arweinwyr newydd yn hytrach na chais Mr Bevan.

Wrth egluro'r penderfyniad, dywedodd llefarydd: "Rydym wedi cymeradwyo cofrestriad Plaid Diddymu Cynulliad Cymru sydd gyda Richard Suchorzewski yn arweinydd arni, Ivan Parker yn drysorydd a Jonathon Harrington yn swyddog enwebu.

"Rydyn ni wedi gwrthod yr ail gais ar y sail, pan fydd plaid yn cael ei dadgofrestru, bod ei henw yn cael ei warchod am gyfnod o amser gan y gyfraith.

"Mae hyn yn golygu mai dim ond y blaid a gofrestrwyd yn flaenorol all wneud cais i ddefnyddio'r enw hwnnw yn ystod y cyfnod yma.

"Felly dim ond Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, gafodd ei ddad-gofrestru ar 4 Tachwedd 2020, oedd yr unig blaid a oedd yn gallu ailgofrestru o dan yr enw hwnnw."

Darogan llwyddiant

Nid yw'r blaid erioed wedi ennill sedd ym Mae Caerdydd ond enillodd 4.4% o'r bleidlais y rhestr ranbarthol yn etholiad 2016, ac mae arolwg barn Baromedr Gwleidyddol diweddaraf Cymru yn awgrymu y gallai'r blaid ennill pedair o'r 60 sedd yn y Senedd ym mis Mai.

Wrth ymateb i'r penderfyniad dywedodd arweinydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, Richard Suchorzewski: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod heddiw wedi derbyn cadarnhad gan y Comisiwn Etholiadol ein bod bellach yn blaid gofrestredig eto ac yn edrych ymlaen at enwi ymgeiswyr i sefyll dros Blaid Diddymu Cynulliad Cymru."

Gwrthododd Mr Bevan wneud sylw yn dilyn cais am ymateb gan BBC Cymru.

Pynciau cysylltiedig