Posib na fydd mwd Hinkley yn cael ei ddympio yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Gallai mwd fydd yn cael ei garthu o'n ymyl safle niwclear Hinkley Point C bellach gael ei ollwng i'r môr oddi ar Wlad yr Haf yn hytrach na de Cymru.
Mae'r datblygwyr EDF Energy yn dweud eu bod yn ystyried dau safle posib.
Maen nhw'n cynnwys Cardiff Grounds, lle achosodd gwaith blaenorol i ddympio gwaddodion ffrae fawr yn 2018.
Ond bydd cais hefyd yn cael ei wneud i ddefnyddio safle gwaredu preifat oddi ar Portishead.
Mae'r cwmni'n dweud y bydd penderfyniad ynglŷn â pha safle i'w ddewis yn cael ei wneud yn ddiweddarach a bydd yn cael ei "yrru gan gymeradwyaeth reoleiddiol ac amserlen prosiect".
Yn y gorffennol maen nhw wedi disgrifio Cardiff Grounds - sy' ryw ddwy filltir oddi ar arfordir y brifddinas - fel yr unig leoliad addas ar gyfer faint o fwd oedd yn rhaid iddyn nhw'i symud.
Ond bellach mae wedi dod i'r amlwg y gallai bod digon o le yn safle Portishead, er bod ganddo'r anfantais o fod ymhellach i ffwrdd o Hinkley.
Arweiniodd y dympio gwreiddiol at brotestiadau a deisebau ddenodd cannoedd o filoedd o lofnodion ar-lein, dadl lawn yn y Senedd a chydnabyddiaeth gan y datblygwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru bod angen gwell cyfathrebu â'r cyhoedd ynglŷn â'r cynlluniau.
Roedd ymgyrchwyr wedi codi ofnau y gallai'r mwd fod wedi'i lygru â gwastraff niwclear o hen adweithyddion Hinkley A a B.
Gwrthod yr honiadau rheiny wnaeth EDF, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, a oedd i gyd yn mynnu nad oedd y gwaith yn fygythiad o gwbl i iechyd pobl na'r amgylchedd a bod y gwaddodion yn nodweddiadol o'r hyn y byddai rhywun yn ei ddarganfod unman arall ym Môr Hafren.
Bellach - mewn cam sy'n siŵr o ennyn gwrthwynebiad pellach - mae EDF yn dweud ei fod yn bwriadu ailddechrau carthu mwd eleni fel rhan o ymdrechion i osod system oeri dŵr enfawr yr atomfa newydd.
Bydd yn cyflwyno cais i Gyfoeth Naturiol Cymru o ran sicrhau caniatâd ar gyfer dympio yn Cardiff Grounds a Sefydliad Rheoli Morol Lloegr ar gyfer safle Portishead.
Mae'n dweud y bydd y ceisiadau'n cynnwys Asesiad Effaith Amgylcheddol llawn, ymgynghoriad cyhoeddus a chynllun profi sy'n "mynd y tu hwnt i arfer gorau a gydnabyddir yn rhyngwladol, gyda mwy o samplau manylach a dyfnach yn cael eu cymryd".
Uchafswm y mwd fydd yn cael ei ddympio fydd 469,000 m3, o'i gymharu ag amcangyfrif blaenorol o 600,000 m3.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Medi 2018
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018