Hinkley Point: Cynllun i waredu mwd ger Bae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ollwng rhagor o fwd o ymyl safle niwclear yng Ngwlad yr Haf i'r môr ger Bae Caerdydd wedi'u datgelu.
Roedd yna brotestio brwd yn erbyn y gwaith gwreiddiol yn 2018.
Nawr mae'r rheoleiddiwr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud ei fod wedi'i hysbysu ynglŷn â'r posibilrwydd o gais arall.
Gobaith EDF Energy yw gwaredu hyd at 780,000 o dunelli o waddod fydd wedi'u carthu o wely'r môr fel rhan o'r gwaith o adeiladu atomfa Hinkley Point C.
Mae'r datblygwyr wedi cyflwyno cynllun i CNC ar gyfer samplu a phrofi'r mwd, fydd bellach yn destun ymgynghoriad chwe wythnos o hyd gydag arbenigwyr a'r cyhoedd.
Rôl CNC yw penderfynu a ydy'r deunydd yn addas i'w waredu mewn safle penodol o'r enw Cardiff Grounds - ychydig filltiroedd oddi ar arfordir y brifddinas.
Dywedodd Michael Evans, Pennaeth Tystiolaeth, Gwybodaeth a Chyngor y corff mai'r "cam cyntaf mewn proses ymgeisio hir" oedd asesu'r cynllun samplo, cyn bod y datblygwyr yn gofyn am drwydded forol er mwyn bwrw ati a'r gwaith.
"Achosodd y gweithgarwch gwaredu bryder mawr i'r cyhoedd yn 2018, felly rydym yn bwriadu hysbysu ac ymgysylltu a phobl ynglŷn â'r cynlluniau hyn dros yr ychydig fisoedd nesaf."
"Byddwn ond yn rhoi'r drwydded os bydd y cwmni yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio a gofynion cyfreithiol a'n bod yn hyderus na fydd y gweithgaredd arfaethedig yn niweidio pobl neu'r amgylchedd."
Yn ogystal â thrwydded forol gan CNC i waredu'r mwd mewn dyfroedd Cymreig bydd angen un arall ar EDF Energy wrth y Marine Management Organisation yn Lloegr er mwyn carthu oddi ar arfordir Gwlad yr Haf.
Maen nhw'n gobeithio dechrau ar y gwaith yn gynnar yn 2021.
Pam fod gwaredu ar y mwd mor ddadleuol?
Mae gwely'r môr yn ymyl Hinkley Point C yn cael ei garthu fel bod system oeri'r atomfa yn gallu cael ei adeiladu.
Yn ôl EDF Energy fe fydd hyn yn "ddarn sylweddol o isadeiledd", gan eu gorfodi i greu twnelau o dros 3km o hyd ym Mor Hafren.
Ond mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear wedi codi pryderon y gallai'r broses o gorddi gwaddodion ryddhau llygredd o hen atomfeydd Hinkley A a B.
Dywedodd Tim Deere-Jones o Ymgyrch 'Stop the Dump' ei fod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fesur lefelau ymbelydredd ar hyd arfordir Caerdydd cyn ac ar ôl y dympio gwreiddiol o fwd Hinkley yn 2018.
Fel y mae, mae "cymunedau arfordirol wedi'u gadael mewn sefyllfa o anwybodaeth lwyr ynglŷn â goblygiadau'r gwaith", meddai.
Fe arweiniodd pryderon yr ymgyrch ddwy flynedd yn ôl at brotestio, deiseb a lofnodwyd gan dros 7000 o bobl i'r Cynulliad a dadl lawn yn y Senedd.
Mae BBC Cymru wedi clywed y cafodd 120,000 o dunelli eu symud bryd hynny, er bod caniatâd wedi'i roi ar gyfer 300,000.
Er i Lywodraeth Cymru wrthod galwadau i atal y drwydded forol oedd wedi'i gynnig i EDF Energy yn wreiddiol, gan honni y byddai'n gosod cynsail peryglus, fe wnaeth gweinidogion orchymyn y dylai CNC wneud mwy i gyfathrebu gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r broses ac egluro'r wyddoniaeth yn well yn y dyfodol.
Mynnodd EDF Energy bod yr holl brofion ar y mwd wedi'u cwblhau i safonau rhyngwladol, gan ddadlau mai codi bwganod oedd honni bod y mwd wedi'i lygru.
Maen nhw'n cynnig gwneud samplo ehangach y tro hwn, er mwyn darbwyllo pobl bod y gwaith yn ddiogel.
Dywedodd Chris Fayers, pennaeth yr amgylchedd ar gyfer Hinkley Point C bod y "mwd yn un fath a'r gwaddod sydd i'w ganfod yn unman ym Mor Hafren a ddim gwahanol i'r gwaddod sydd yn barod yn safle Cardiff Grounds."
"Dyw e ddim yn fygythiad o gwbwl i iechyd y cyhoedd na'r amgylchedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018