Gyrwyr yn torri rheolau Covid drwy deithio o'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
HeddluFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau yrrwr o'r Alban eu stopio gan Heddlu'r Gogledd wrth geisio ymweld â ffrindiau

Mae pobl wnaeth yrru dros 200 milltir i ymweld â ffrindiau yng Nghymru ynghyd a grŵp oedd yn cael parti mewn sied ardd ymhlith y rhai mwyaf diweddar i gael eu dal gan yr heddlu yn torri rheolau'r pandemig.

Dywed Heddlu'r Gogledd iddynt stopio dau gar o'r Alban yn y Fali, Ynys Môn. Bydd y gyrwyr yn cael eu herlyn am dorri rheolau Covid ac am yrru heb yswiriant.

Yn Abertawe, cafodd wyth o bobl eu dirwyo am gynnal parti mewn sied yn yr ardd.

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod hefyd wedi stopio car oedd wedi teithio o Portsmouth gyda'r gyrrwr yn dweud ei fod yn bwriadu casglu bumper ar gyfer ei gar.

"Dyw teithio bron i 300 milltir am ddarn o blastig ar gyfer eich car ddim yn 'angenrheidiol' yn yr amseroedd sydd ohoni," meddai llefarydd.

Fe wnaeth Heddlu'r De ddefnyddio eu pwerau i osod dirwy uniongyrchol ar ôl dod o hyd i wyth o bobl - 'pob un o aelwydydd gwahanol' - mewn sied oedd wedi ei haddasu'n far yn ardal Sgeti, Abertawe

Yng Nghastell-nedd Port Talbot cafodd pump o bobl rybudd ar ôl teithio i gae er mwyn chwarae pêl-droed.

Yn Aberafan cafodd pedwar o bobl eu dirwyo am gynnal parti mewn tŷ.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Heddlu Gogledd Cymru 🌈 #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Heddlu Gogledd Cymru 🌈 #DiogeluCymru

Yn ôl rheolau coronafeirws dyw pobl ond yn cael gadael y tŷ ar gyfer rhesymau angenrheidiol, gan gynnwys i gael bwyd, meddyginiaethau ac i wneud ymarfer corff.

Does gan bobl ddim hawl i yrru i fan arall er mwyn gwneud ymarfer corff, na chwaith i wneud ymarfer corff gyda phobl o wahanol aelwydydd.

Fe allai pobl sy'n torri rheolau Covid gael dirwy o £60 am y drosedd gyntaf, gyda'r dirwyon yn cynyddu i hyd at £1,920.

Ond pe bai'r achos yn mynd i lys barn, does yna ddim uchafswm ar gyfery ddirwy.

Ym Mhort Talbot cafodd dau berson oedd yn yfed ar fainc eu dirwyo gan yr heddlu "am iddynt adael eu tai heb esgus rhesymol"