Warden Yr Wyddfa: 'Dydy pobl jyst ddim yn gwrando'
- Cyhoeddwyd
Diwrnod arall o gyfyngiadau, diwrnod arall lle mae ymwelwyr o dros y ffin wedi'u hanfon adref o Eryri.
Criw o Lerpwl wnaeth gyrraedd Pen-y-Pass yn gynnar fore Mercher.
Roedd y maes parcio ar gau, ond roedd Keith Ellis yno fel arfer wrth ei waith.
Mae o'n gofalu am ardal yr Wyddfa. Er yn siom tydy o ddim yn synod chwaith, meddai, fod yr ymwelwyr yn dal i ddod yma.
"Erbyn fi gychwyn bore 'ma oedd yna dri o hogia' o Lerpwl wedi troi fyny," meddai.
"'Da chi'n cynghori nhw, ond doedd yna ddim ymateb da iawn gan un allan o'r tri.
"'Nath y ddau ffrind ddweud wrtho fo i gau ei geg a throi rownd. Tasa ni ddim yma bore 'ma, wedi mynd i fyny fysa nhw.
"Mae hi'n beryg ar y mynydd. Doedd y pethau oeddan nhw'n gwisgo ddim yn addas.
"Ella 'sa nhw wedi disgyn a brifo, a wedyn fysa'r tîm achub mynydd wedi goro dod allan i helpu."
'Pobl leol hefyd yn torri rheolau'
Dros gyfnod y Nadolig roedd y ceir, yn ôl Keith Ellis, yn pasio Pen y Pass yn rhes gyson.
Bu'n rhaid i'r heddlu ddelio'n ddyddiol efo criwiau a theuluoedd oedd yn torri'r rheolau, gyda rhai wedi teithio'n bellach nag eraill.
Mae yna newid agwedd wedi bod, meddai, ers dechrau'r pandemig 'nôl ym mis Mawrth. Mae yna rai sydd ddim mor barod rŵan i gydymffurfio.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwrando," meddai. "Ond mae yna bobl leol a phobl o ffwrdd yn torri'r rheolau tro 'ma.
"Mae yna rai pennau bach ymhobman yn gwybod yn well, a pan 'da chi'n d'eud bod yna ddirwy maen nhw'n gofyn y cwestiwn wedyn faint ydy o? Mae'n nhw jyst yn ei dalu fo. Dydi pobl fel 'na ddim yn mynd i wrando o gwbl."
Mae Keith Ellis yn credu y byddai cyfyngiadau tebyg a chyson i holl wledydd Prydain wedi bod yn well, i osgoi dryswch.
"Yn bersonol fysa'n well gen i tasa Prydain i gyd wedi rhoi'r un neges ar yr un adeg," meddai.
"Efo'r 'tier system' mae o wedi drysu pobl. Yng Ngwynedd mae [coronafeirws] yn isel, a phobl wedi bod yn meddwl efallai gawn nhw 'neud fel maen nhw isio.
"Y neges ydy cychwyn o'r tŷ, a gorffen yn y tŷ - 'mond essential travel."
Efallai mai'r ymwelwyr o lefydd fel Lerpwl, Manceinion a Milton Keynes sydd wedi hawlio'r penawdau dros yr wythnosau diwetha'.
Ond o lethrau'r Wyddfa mae yna apêl ar i bawb barchu'r rheolau.
I bobl o bell ac agos, fe fydd y mynyddoedd yn dal yno pan ddaw'r pandemig i ben.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Awst 2020