Oedi cyn brechu yn benderfyniad 'peryglus'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei beirniadu am oedi cyn dosbarthu dosau o un math o frechlyn Covid-19.
Mewn cyfweliad ar BBC Radio 4 dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod yn rhaid i gyflenwad Cymru o'r brechlyn Pfizer bara tan fis Chwefror ac felly nad yw'n cael ei ddefnyddio i gyd ar unwaith.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y penderfyniad i oedi yn un "peryglus" a bod angen i'r llywodraeth ailfeddwl.
Mae'r sylwadau hefyd wedi cael eu disgrifio gan gadeirydd cymdeithas feddygol y BMA fel rhai "pryderus".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r rheswm dros oedi dosbarthu'r brechlyn ydy nad ydyn nhw eisiau ei wastraffu trwy yrru mwy o ddosau na'r hyn y mae'r byrddau iechyd yn gallu eu defnyddio.
Mae'r GIG yn cael cymaint o frechlynnau Covid-19 ag y gall ymdopi â nhw, yn ôl meddyg blaenllaw.
Dywedodd Dr Gill Richardson, cadeirydd bwrdd brechu Cymru, fod byrddau iechyd yn derbyn y dosau y gwnaethon nhw ofyn amdanyn nhw.
Erbyn bore dydd Llun roedd cyfanswm o 151,737 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu brechiad cyntaf, sy'n 4.8% o'r boblogaeth, a 201 wedi derbyn dau frechiad.
Erbyn dydd Sul roedd 6% o boblogaeth Lloegr wedi cael eu brechu a 7.4% yng Ngogledd Iwerddon.
Wrth ymateb i feirniadaeth bod Cymru ar ei hôl hi o ran nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu, dywedodd Mr Drakeford: "Bydd yn niweidiol iawn yn logistaidd ceisio defnyddio [y brechlyn] i gyd yn ystod yr wythnos gyntaf ac yna cael ein holl frechwyr yn sefyll o gwmpas heb ddim i'w wneud am fis arall.
"Y peth synhwyrol i'w wneud yw defnyddio'r brechlyn sydd gennych chi dros y cyfnod y mae gennych chi ef fel y gall eich system ei amsugno, gallant barhau i weithio, nad oes gennych bobl yn sefyll o gwmpas heb ddim i'w wneud.
"Byddwn yn brechu pob un o'r pedwar grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror, ochr yn ochr â phobman arall yn y DU."
'Lleihau gwastraff'
Yn ddiweddarach, fe wnaeth y llywodraeth ddatganiad pellach yn esbonio bod brechlyn Pfizer angen ei gadw ar dymheredd isel iawn, ac unwaith y daw allan o hynny, mae modd ei gadw ei bum niwrnod yn unig.
Dywedodd llefarydd bod y llywodraeth eisiau "sicrhau cyflenwad cyson o'r brechlyn er mwyn lleihau gwastraff".
"Mae pob dos sy'n cael ei wastraffu yn frechlyn na all gael ei roi i berson yng Nghymru."
Ddydd Llun cafodd 20 marwolaeth arall yn gysylltiedig a'r haint eu cadarnhau a 1,332 o achosion newydd.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'r gyfradd cyfartalog ar draws Cymru am bob 100,000 o'r boblogaeth yn 306.
Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn Wrecsam, gyda 792.2 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth, ac yna Sir y Fflint gyda 522.1 a Phen-y-bont ar Ogwr gyda 397.1.
Wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog, dywedodd Dr David Bailey, Cadeirydd y BMA yng Nghymru: "Rwy'n bryderus iawn gan y sylwadau rydw i wedi'u clywed heddiw ac yn cynghori Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y strategaeth gyflwyno.
"Er mwyn i'r Prif Weinidog ddweud nad oes pwynt defnyddio'r holl gyflenwadau mewn wythnos i sicrhau nad yw brechwyr yn sefyll o gwmpas heb ddim i'w wneud, mae'n wirioneddol ddryslyd.
"Mae staff rheng flaen yn peryglu eu bywydau i helpu eraill - rhaid rhoi blaenoriaeth i'r ail ddos i'r rhai sydd wedi derbyn y cyntaf, a chyflymu dosau cyntaf ar gyfer yr holl frechiadau sy'n weddill er mwyn sicrhau'r amddiffyniad mwyaf posibl i staff a chleifion.
"Rydyn ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i eistedd ar gyflenwadau a bwrw ati", meddai Dr Bailey.
DIWEDDARAF: Ysgolion ar gau nes bod 'gostyngiad sylweddol'
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
DYSGU: Dysgu adref gyda Bitesize
Dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: "Boed yn fwriadol ai peidio, mae'r gonestrwydd hwn gan y Prif Weinidog yn dweud wrth bobl Cymru bopeth sydd angen iddynt ei wybod.
"Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu â chyflawni ei rhaglen frechu.
"Mae ei benderfyniad i ohirio defnyddio cyflenwadau brechlyn Pfizer yn beryglus, ac nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr clinigol o gwbl.
"Mae angen i ni gael y brechiadau hyn ym mreichiau pobl cyn gynted â phosib. Mae bywydau a bywoliaethau ledled Cymru yn y fantol."
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, nad oedd yn gwneud "fawr o synnwyr" oedi cyn rhannu'r brechlynnau, pan fod "amser yn hanfodol".
Staff 'eisiau brechu'
Mae Cymru wedi derbyn tua 250,000 dos o'r brechlyn Pfizer/BioNTech a 50,000 dos o'r brechlyn Oxford/AstraZeneca hyd yma.
Roedd disgwyl i Gymru dderbyn 100,000 dos o'r ail frechlyn - pigiad Oxford/AstraZeneca - yr wythnos hon ond mae tua chwarter yn cael ei ohirio ar ôl methu profion y rheoleiddiwr.
Dywedodd Dr Richardson fod cyflenwadau o'r brechlynnau wedi cyrraedd "fesul dipyn" a chyrhaeddodd llwyth mawr o'r brechlyn Pfizer - tua 170,000 dos - ddiwedd mis Rhagfyr.
Cafodd hanner y brechlyn ei ddal yn ôl i ddechrau ar gyfer y broses o roi ail bigiad, ond maen nhw nawr yn cael eu rhoi i bobl fel pigiad cyntaf mewn ymgais i frechu cymaint o bobl â phosib - a chael rhywfaint o ddiogelwch.
Mae meddygon teulu yn y gogledd wedi cael cyngor i ystyried oedi rhoi apwyntiadau brechlyn Covid-19 yn gynnar yr wythnos hon oherwydd problemau gyda chyflenwadau.
Dywedodd Dr Richardson eu bod ond yn rhoi i fyrddau iechyd yr hyn y gallent ymdopi ag ef oherwydd, ar ôl dod allan o storfa rhewi dwfn, mae'n rhaid defnyddio'r pigiad Pfizer o fewn pum niwrnod.
"Rydyn ni'n ymwybodol iawn bod angen i ni gael hyn allan," meddai wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.
"Dwi'n gwybod bod fy nghydweithwyr yn ysu am imiwneiddio y bobl sy'n agored i niwed.
"Rydyn ni nawr yn gallu ac wedi bod yn gwthio'r holl frechlyn y gall ein byrddau iechyd ymdopi ag ef."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021