Llofruddiaethau Clydach: Cynnal adolygiad fforensig
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cytuno i adolygu rhai elfennau fforensig yr ymchwiliad i lofruddiaethau Clydach mewn ymateb i gais gan gynrychiolwyr cyfreithiol y llofrudd, David Morris.
Mae'r llu wedi penodi uwch swyddog ymchwilio annibynnol a gwyddonydd fforensig annibynnol "i oruchwylio adolygiad fforensig o faterion penodol" a gafodd eu cyfeirio atyn nhw ym mis Tachwedd.
Ond maen nhw'n pwysleisio nad yw'r adolygiad yn golygu ailagor yr ymchwiliad nag yn arwydd o ddiffyg ffydd yn yr achos yn erbyn Morris.
Cafodd Morris ei garcharu yn 2002 am guro pedwar aelod o'r un teulu i farwolaeth yn eu cartref yn 1999 - Mandy Power, ei mam oedrannus, Doris, a'i phlant Katie ac Emily, oedd yn 10 ac wyth oed.
Cododd raglen BBC Wales Investigates amheuon newydd am yr achos ym mis Hydref, ac fe ofynnodd cynrychiolwyr Morris i'r heddlu ryddhau nifer o ddarnau o dystiolaeth o'r ymchwiliad am "asesiad pellach gan eu gwyddonwyr fforensig".
Technoleg fforensig wedi datblygu
Dywed y llu eu bod wedi ystyried y cais yn "ofalus" cyn penderfynu ar gam "cymesur" i gynnal adolygiad a phenodi'r ymchwilwyr annibynnol.
"Nid yw'r penderfyniad i gynnal adolygiad fforensig yn golygu ailagor [ymchwiliad] neu ail-ymchwilio i'r llofruddiaethau, nag yn amlygu unrhyw ddiffyg hyder yn euogfarn Morris a'r adolygiadau achos dilynol," medd yr heddlu mewn datganiad.
"Cafwyd Morris yn euog yn unfrydol gan reithgor ar sail cryfder achos yr erlyniad, a dydy adolygiadau annibynnol y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol heb ddarganfod unrhyw dystiolaeth newydd.
"[Ond] oherwydd datblygiad technoleg fforensig, gallwn ni nawr fod mewn sefyllfa i ateb rhai o'r cwestiynau sydd wedi codi ynghylch materion fforensig yn yr achos hwn.
"Bydd penodi uwch swyddog ymchwilio annibynnol o lu allanol a gwyddonydd fforensig annibynnol yn sicrhau fod yr adolygiad yn cael ei gynnal gyda lefel o annibyniaeth."
"Eu rôl nhw fydd darparu argymhellion i Heddlu De Cymru ar sail eu canfyddiadau."
Ateb cwestiynau 'unwaith ac am byth'
Fel rhan o'r broses yna, bydd y llu'n gofyn am gael "deunydd sydd eisoes wedi'i archwilio'n fforensig gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn ystod eu hadolygiadau hwythau".
Dywedodd y llu fod "pob erthygl papur newydd a neges ar y cyfryngau cymdeithasol [ynghylch unrhyw ddatblygiadau yn yr achos] yn dod ag atgofion poenus yn ôl" i berthnasau a ffrindiau'r teulu.
"Mae'r rheswm dros y penderfyniad yma'n gadarn yn y gobaith y bydd yr adolygiad fforensig yma'n eu helpu i symud ymlaen dros 20 mlynedd ar ôl colli'u hanwyliaid ac ateb cwestiynau sy'n cael eu codi gan bobl eraill unwaith ac am byth.
"Maen nhw wedi cael gwybod am y penderfyniad yma ac yn hollol gefnogol o'r gwaith fydd yn cael ei wneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020